
Croeso i'n Bwletin Arsylwi diweddaraf
Bob chwarter, rydym yn rhannu diweddariadau ac yn tynnu sylw at themâu allweddol sy'n dod i'r amlwg o'n gwaith wrth helpu i wella gwasanaethau ar draws y system gofal iechyd. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ymgysylltu â rhanddeiliaid, rhannu'r gwersi a ddysgwyd, ac adrodd ar ein gweithgarwch.
Yn y rhifyn hwn, rydym yn canolbwyntio ar ofal sylfaenol, gan gynnwys:
- Canfyddiadau allweddol o'n harolygiadau o bractisau meddygon teulu ledled Cymru, lle roedd angen cymryd camau ar unwaith i leihau risgiau i ddiogelwch cleifion mewn rhai achosion.
- Myfyrdodau a themâu a ddaeth i'r amlwg o'n harolygiadau deintyddol diweddaraf, gan dynnu sylw at feysydd sy'n peri pryder ac arferion da. Rydym hefyd yn sôn am y gofynion newydd er mwyn gwneud cais ar gyfer practisau deintyddol preifat sydd wedi'u cofrestru ag AGIC.
- Detholiad o adnoddau i gefnogi gwelliant mewn gofal sylfaenol, gan gynnwys canllawiau cenedlaethol a phecynnau gwybodaeth.
Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys:
- Cyhoeddiad ein Hadroddiad Blynyddol 2024-2025, sy'n cynnig asesiad clir ac annibynnol o wasanaethau gofal iechyd ledled Cymru.
- Yr ymgynghoriad ar Strategaeth AGIC ar gyfer 2026-2030 – rydym yn eich annog i rannu eich barn er mwyn helpu i lywio ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
- Gwybodaeth o'r Uwchgynhadledd Gofal Iechyd a gynhaliwyd ym mis Mai, sy'n cynnwys yr heriau o ran iechyd meddwl, gofal mamolaeth, cynhwysiant digidol, a chynaliadwyedd y gweithlu.
- Y wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgarwch arolygu darparwyr gofal iechyd annibynnol a'r GIG.
- Datblygiadau newydd, gan gynnwys treialu methodoleg newydd ar gyfer cyflenwi practisau, ein datganiad ar y polisi CCTV, a phartneriaethau sydd wedi'u hatgyfnerthu drwy'r Memoranda Cyd-ddealltwriaeth.
Rydym yn gobeithio y bydd y bwletin hwn yn addysgiadol ac yn ddefnyddiol. Mae eich adborth yn ein helpu i wella'r ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn rhannu negeseuon allweddol – a fyddech cystal â chymryd eiliad i gwblhau ein harolwg byr.
Diolch.

Dysgu a Deall
Gwybodaeth o'n Harolygiadau: Themâu Allweddol mewn Practisau Meddygon Teulu

Yn dilyn ein gwaith sicrwydd yn 2024-25, gwnaethom arolygu 30 o bractisau meddygon teulu ac adrodd ar nifer o faterion ledled Cymru. Mewn rhai amgylchiadau, bu'n rhaid i ni ofyn i'r practisau gymryd camau ar unwaith i leihau'r risgiau i ddiogelwch cleifion.
🔎 Beth mae arolygiadau o bractisau meddygon teulu yn eu dweud wrthym ni
Gwybodaeth o'n Harolygiadau: Yr hyn a nodwyd gennym mewn Practisau Deintyddol

Yn dilyn ein gweithgarwch arolygu yn 2024-25, gwnaethom adolygu nifer o bractisau deintyddol ledled Cymru a nodi sawl thema gyffredin yr oedd angen ei hystyried.
Er bod y rhan fwyaf o bractisau yn darparu gofal clinigol diogel ac effeithiol, nododd ein canfyddiadau faterion cyffredin mewn meysydd anghlinigol sy'n effeithio ar ddiogelwch cleifion, cydymffurfiaeth, a phrofiad cyffredinol cleifion.
Diweddariad Busnes
Adroddiad Blynyddol 2024-2025

Rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddolar gyfer 2024-2025, sy'n cynnig asesiad clir ac annibynnol o wasanaethau gofal iechyd ledled Cymru. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at system sydd o dan bwysau parhaus, lle mae staff ymroddedig yn dal i ddarparu gofal da o dan amodau anodd, ond lle mae'r risgiau i ddiogelwch cleifion yn parhau, a lle na chaiff gwelliannau bob amser eu cynnal.
Helpwch i Lywio Strategaeth AGIC ar gyfer 2026-2030 – Mae'r Ymgynghoriad Bellach ar Agor

Rydym wrthi ar hyn o bryd yn datblygu ein Strategaeth ar gyfer 2026–2030. Mae'r strategaeth hon yn amlinellu ein huchelgeisiau a'n blaenoriaethau ar gyfer y pedair blynedd nesaf a sut y byddwn yn parhau i gyflawni ein cyfrifoldebau fel arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru.
Rydym yn gwahodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, sefydliadau, a'r cyhoedd o bob cwr o Gymru i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a helpu i lywio fersiwn derfynol y strategaeth.
Mae'r ymgynghoriad ar gael ers 8 Medi 2025 a bydd yn cau ar 1 Rhagfyr 2025
Sut i Gymryd Rhan
Cwblhewch yr arolwg ar-lein.
Lawrlwythwch gopi papur isod neu cwblhewch yr arolwg dros y ffôn: 0300 062 8163
A fyddech cystal â threulio ychydig funudau yn rhannu eich barn a'ch meddyliau? Dywedwch wrthym beth sy'n bwysig i chi.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen we ddynodedig.
Themâu Allweddol o'r Uwchgynhadledd Gofal Iechyd

Mae cyfarfodydd yr Uwchgynhadledd Gofal Iechyd yn cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn, er mwyn rhannu gwybodaeth am ansawdd a diogelwch gwasanaethau gofal iechyd a ddarperir gan GIG Cymru.
Mae AGIC yn cydlynu ac yn gweinyddu'r Uwchgynhadledd Gofal Iechyd, ar ran y sefydliadau sy'n cymryd rhan, sy'n cynnwys Archwilio Cymru, Gweithrediaeth GIG Cymru a Llais.
Mae'r themâu allweddol a nodwyd fel meysydd sy'n peri pryder yn yr Uwchgynhadledd Gofal Iechyd yn cynnwys y canlynol:
- Mae gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru yn parhau i wynebu heriau sylweddol, gan gynnwys bylchau yn y broses o gynllunio i ryddhau cleifion, dogfennaeth wael a lefel isel o gydymffurfiaeth â hyfforddiant gorfodol.
- Asesiadau niwroddatblygiadol a CAMHS – amseroedd aros hir am asesiadau, gyda rhai teuluoedd yn troi at opsiynau preifat nad ydynt wedi'u cydnabod gan y GIG.
- Heriau diwylliannol mewn rhai Byrddau Iechyd, gan gynnwys pryderon chwythu'r chwiban lle nad yw staff yn teimlo eu bod yn cael eu clywed wrth godi materion.
- Pryderon parhaus mewn perthynas â diffyg modelau cynaliadwy ar gyfer gwneud gwelliannau i'r gofal a gynlluniwyd, gan gynnwys gwaith cynllunio anghyson i ryddhau cleifion.
- Er bod buddsoddiadau sylweddol wedi'u gwneud, mae pryderon parhaus mewn perthynas â'r seilwaith ystadau sy'n heneiddio – codwyd pryderon ynghylch yr ôl-groniad o waith cynnal a chadw.
- Cyfraddau salwch uchel ymhlith staff a bylchau rota mewn gwasanaethau mamolaeth – hefyd, pryderon lle mae rhai menywod a theuluoedd yn teimlo nad ydynt yn cael eu clywed ac yn cael gofal anghyson.
- Mae dulliau digidol yn creu rhwystrau anfwriadol i grwpiau agored i niwed, gan gynnwys pobl hŷn neu unigolion niwrowahanol a all ei chael hi'n anodd defnyddio systemau sgwrsio digidol ac ymgyngoriadau o bell.
- Defnydd anghyson o'r ddyletswydd gonestrwydd a'r gwersi a ddysgwyd mewn perthynas â Rheoliad 29 – mae angen rhoi fframweithiau llywodraethu cryfach ar waith i ymgorffori'r gwersi a ddysgwyd a llywio gwelliannau.
- Mae bregusrwydd y gweithlu yn bryder parhaus sylweddol – yn arbennig o ran y broses staffio pediatreg, radioleg a meddygaeth brys.
- Mae integreiddio trawsffiniol ac ar draws sectorau yn her o hyd, gan gynnwys llwybrau anghyson ar gyfer rhai cyflyrau, a systemau cyfathrebu gwael rhwng y GIG a gofal cymdeithasol wrth ryddhau cleifion.
Diweddariadau Gweithgareddau

Gweithgarwch Sicrwydd ac Arolygu
Rydym yn arolygu gwasanaethau'r GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau er mwyn nodi meysydd y mae angen eu gwella. Yn dilyn ein gwaith arolygu a sicrwydd, byddwn yn cyhoeddi adroddiad sy'n amlinellu ein canfyddiadau a'n hargymhellion. Gwyliwch sut rydym yn gwirio gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru drwy wylio'r fideo byr hwn.
Mae'r adroddiadau arolygu diweddaraf yn cynnwys:
Treialu Methodoleg ar gyfer Cyflenwi Practisau

Yn ystod hydref 2025, byddwn yn treialu methodoleg newydd ar gyfer Cyflenwi Practisau. Bydd hyn yn cynnwys cwblhau llyfryn cyn yr arolygiad a chynnal trafodaeth ag Adolygydd Cymheiriaid ar gyfer Meddygon Teulu yn ystod yr arolygiad. Os caiff eich practis ei ddewis i gymryd rhan yn y cynllun peilot neu i fabwysiadu'r fethodoleg newydd hon yn gynnar, byddem yn ddiolchgar pe gallech roi adborth ar y broses. Anfonwch eich adborth i agic@llyw.cymru gan nodi ‘Adborth ar Fethodoleg Cyflenwi Meddygon Teulu’ fel pwnc.
Cydbwyso Diogelwch a Phreifatrwydd: CCTV mewn Lleoliadau Iechyd Meddwl

Rydym wedi cyhoeddi datganiad polisi yn amlinellu ein safbwynt ynglŷn â'r defnydd o CCTV mewn ysbytai iechyd meddwl ac anableddau dysgu. Er y gall system CCTV gefnogi ymchwiliadau i ddigwyddiadau a diogelu cleifion a staff, mae AGIC yn pwysleisio bod angen i ddarparwyr ystyried preifatrwydd, urddas ac effeithiau moesegol yn ofalus. Mae'r polisi yn annog darparwyr i archwilio dewisiadau amgen llai ymwthiol a sicrhau y caiff unrhyw ddefnydd o system CCTV ei gyfiawnhau, ei fod yn gymesur, ac y caiff asesiad risg ei gynnal ar sail cleifion penodol.
🎥 Darllenwch y datganiad polisi llawn
Gweithio Gyda'n Gilydd er mwyn Darparu Gofal Mwy Diogel: Memoranda Cyd-ddealltwriaeth AGIC

Rydym wedi ffurfioli ein dull cydweithredol drwy gyfres o Femoranda Cyd-ddealltwriaeth â phartneriaid allweddol, gan gynnwys Llais, Coleg Brenhinol y Meddygon, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), a Chomisiynydd Plant Cymru. Mae'r trefniadau hyn yn amlinellu blaenoriaethau a rennir, egwyddorion cydweithredu, a fframweithiau ar gyfer gweithio ar y cyd i atgyfnerthu'r rheoliad a gwella gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru.
Ymunwch â Ni – Mae Swyddi Gwag Bellach ar Agor

Rydym wrthi'n recriwtio ar gyfer sawl rôl allweddol, gan gynnwys meddyg a benodir i roi ail farn (SOAD) ac Adolygwyr Cymheiriaid ar gyfer Nyrsys Practis. Mae'r sefyllfaoedd hyn yn cynnig cyfle unigryw i gyfrannu at y rheoliad a'r gwaith o wella gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru.
📢 Edrychwch ar y swyddi gwag sydd ar gael ar hyn o bryd a gwnewch gais
Llyfrgell Adnoddau

Rydym wedi curadu nifer fach o adnoddau, yn seiliedig ar feysydd cyffredinol y nodwyd gennym eu bod yn peri pryder yn ystod ein harolygiadau o bractisau meddygon teulu
Dylai practisau barhau i adolygu canllawiau newydd, gofynion proffesiynol, hysbysiadau diogelwch cleifion, ac unrhyw wersi mewnol a gaiff eu dysgu wrth adolygu polisïau, prosesau ac arferion presennol.
Pecyn Cymorth Hunanasesu Arferion Llywodraethu Clinigol (CGPSAT)
Ar gyfer pob un o'r pynciau isod, gan gynnwys Atal a Rheoli Heintiau, rydym yn cynghori practisau i gyfeirio at eu Pecyn Cymorth Hunanasesu Arferion Llywodraethu Clinigol (CGPSAT) er mwyn cael arweiniad pellach. Gall practisau gael gafael ar y CGPSAT yma a'r holl benodau perthnasol yma: CGPSAT – Gofal Sylfaenol Un.
Pecyn brys a safonau Resus UK ar gyfer gofal sylfaenol
Canllawiau Llywodraeth y DU ar gymhwysedd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer rolau gofal iechyd. Yn gyffredinol, rydym yn disgwyl i bractisau ddangos bod pob aelod o staff clinigol wedi ymgymryd â gwiriad manylach. Cyfrifoldeb y practisau yw cynnal asesiadau risg a rhoi polisi a rhesymeg glir ar waith pan fo angen adnewyddu'r gwiriadau DBS a phan fydd angen i staff anghlinigol ymgymryd â'r gwiriad, yn seiliedig ar eu rolau a'u cyfrifoldebau (e.e. os ydynt yn ymwneud â chleifion yn uniongyrchol a heb oruchwyliaeth).
Canllawiau Llywodraeth y DU ar imiwneiddio staff, gan gynnwys Hepatitis B:
Hyfforddiant gorfodol
Rydym yn disgwyl i bractisau nodi gofynion hyfforddiant gorfodol ar gyfer staff clinigol ac anghlinigol, ystyried canllawiau cenedlaethol a phroffesiynol, rolau a chyfrifoldebau unigol, ac anghenion y boblogaeth leol. Mae hyn yn cynnwys rhoi lefel briodol o hyfforddiant ar waith a phennu'r amlder y dylid ei gwblhau. Unwaith y caiff y gofynion hyn eu pennu, dylid rhoi gwybod i staff am yr hyn y disgwylir ganddynt, a dylid rhoi mecanweithiau ar waith i fonitro cydymffurfiaeth a sicrhau eu bod yn cwblhau'r hyfforddiant.
Fel y cam cyntaf, efallai yr hoffai practisau gyfeirio at y canlynol:
- Adnoddau hyfforddiant ar gyfer staff practisau meddygon teulu
- Training statutory and mandatory | Advice guides | Y Coleg Nyrsio Brenhinol
- Home | RCGP Learning
Diogelu
Hebryngwyr
Dweud Eich Dweud

Rydym am glywed eich barn! Mae amrywiaeth o arolygon cleifion yn weithredol ar hyn o bryd ar ein gwefan, ac rydym yn croesawu eich barn.
Gellir dod o hyd i'r holl arolygon gweithredol ar ein tudalen arolygon.
Oes gennych chi funud? Hoffem glywed eich barn am ein Bwletin Arsylwi – dim ond ychydig o gwestiynau sydd i'w hateb!