Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth o'n Harolygiadau: Themâu Allweddol mewn Practisau Deintyddol

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn chwarae rôl bwysig wrth sicrhau bod practisau deintyddol leded Cymru yn darparu gofal diogel ac effeithiol o ansawdd uchel drwy ddilyn deddfwriaeth berthnasol a safonau proffesiynol.

Yr hwn mae'r Arolygiadau Deintyddol yn ei Ddweud Wrthym Ni

Er bod ein harolygiadau'n dangos bod y rhan fwyaf i bractisau deintyddol yn rheoli gofal clinigol yn dda, mae materion mewn perthynas â meysydd anghlinigol yn codi'n aml ac mae angen rhoi sylw iddynt. Mae'r meysydd hyn, er y cânt eu diystyried weithiau, yn hollbwysig i gynnal diogelwch cleifion a sicrhau cydymffurfiaeth reoleiddiol yn ogystal â rhoi profiad cadarnhaol i gleifion.

Mae ein harolygiadau wedi nodi nifer o themâu cyffredin, ac rydym yn gofyn i bractisau deintyddol fyfyrio ar y materion hyn ac ystyried sut y gallant weithredu ar y gwersi hyn yn eu gwasanaethau eu hunain.

Gwiriadau Recriwtio a Diogelu Annigonol

Nid yw nifer o bractisau yn llwyddo i gynnal a chofnodi gwiriadau cyn cyflogi hanfodol. Mae hyn yn cynnwys gwiriadau geirdaon coll, bylchau o ran dilysu hanes cyflogaeth, a diffyg gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Rhaid rhoi mesurau diogelu cadarn ar waith i sicrhau bod pob aelod o staff yn cael ei fetio'n briodol a'i fod yn addas i weithio mewn practisau deintyddol.

Prosesau Goruchwylio Hyfforddiant Gorfodol Gwael

Nid oes gan reolwyr practisau yn aml systemau cadarn ar waith i fonitro cydymffurfiaeth y staff â hyfforddiant gorfodol. Mewn rhai achosion, nid yw'r cofnodion hyfforddiant wedi cael eu cwblhau neu nid ydynt yn gyfredol, sy'n peri risg i ddiogelwch cleifion a chymhwysedd staff. Dylai practisau roi systemau olrhain dibynadwy ar waith i sicrhau bod pob aelod o staff wedi cwblhau'r hyfforddiant diweddaraf ar feysydd allweddol fel rheoli heintiau, diogelu, radiograffeg a hyfforddiant diogelu rhag ymbelydredd.

Polisïau a Gweithdrefnau Cyffredinol

Rydym yn nodi'n aml fod practisau'n defnyddio polisïau cyffredinol nad ydynt wedi'u teilwra at eu gwasanaethau penodol hwy. Gall hyn arwain at ddryswch ymhlith staff ac ni ellir sicrhau y caiff gweithdrefnau eu dilyn yn gyson. Dylai polisïau fod yn berthnasol, gael eu hadolygu'n rheolaidd a dylent adlewyrchu cyd-destun unigryw pob practis.

Gwybodaeth Anhygyrch i Gleifion 

Ni chaiff gwybodaeth i gleifion ei chynnig mewn fformatau eraill fel mewn print bras, fersiynau hawdd eu deall, neu yn y Gymraeg bob amser. Mae hyn yn cyfyngu ar hygyrchedd ac nid yw'n diwallu anghenion yr holl gleifion, yn enwedig y rhai â gofynion cyfathrebu ychwanegol. Rhaid i bractisau sicrhau bod y wybodaeth yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.

Prosesau Rheoli Dogfennau Gwael

Rydym yn nodi'n aml nad oes prosesau rheoli fersiynau ar waith ar gyfer polisïau a gweithdrefnau. Os na chaiff diweddariadau eu holrhain mewn ffordd glir, gall staff ddilyn canllawiau nad ydynt yn gyfredol yn ddiarwybod iddynt, a all beryglu diogelwch, cysondeb a chydymffurfiaeth. Dylai practisau roi systemau ar waith i sicrhau y caiff yr holl ddogfennau eu hadolygu, eu diweddau a'u marcio'n glir â hanes y fersiwn yn rheolaidd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth effeithiol.

Diffyg Cynnig Rhagweithiol ac Anghenion Iaith

Ni fydd nifer o bractisau yn ystyried egwyddor y Cynnig Rhagweithiol, sef darparu gwasanaethau yn Gymraeg heb fod angen i gleifion ofyn am hynny. Er mwyn darparu gofal cynhwysol, dylai practisau gynnig gwasanaethau Cymraeg fel mater o drefn a sicrhau bod gwybodaeth i gleifion ar gael yn Gymraeg.

Rydym hefyd wedi nodi sawl enghraifft lle na ofynnwyd am ddewis iaith cleifion a lle na chafodd y dewis hwnnw ei gofnodi yng nghofnodion cleifion. Mae ymgorffori hyn mewn prosesau bob dydd yn helpu i sicrhau bod cleifion yn cael gofal mewn fformat ac iaith sy'n diwallu eu hanghenion.

Bydd AGIC yn cymryd camau gorfodi lle byddwn yn nodi na chyrhaeddir y safonau er mwyn amddiffyn cleifion a chynnal ansawdd a diogelwch y gofal. Yn anffodus, ers i ni gyhoeddi ein diweddariad ar Ddysgu a Dealltwriaeth mewn practisau deintyddol ddiwethaf, rydym wedi cyflwyno 25 o hysbysiadau diffyg cydymffurfio i bractisau lle mae angen gwneud gwelliannau ar unwaith. Mewn un achos difrifol, canslodd AGIC gofrestriad practis deintyddol, ac nid yw'n gweithredu mwyach. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i gymryd camau pendant lle bo angen i amddiffyn cleifion a chynnal ansawdd y gofal.

 

Practisau Deintyddol Preifat: Nodyn Atgoffa i Gofrestru ag AGIC

Gwnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) atgoffa practisau deintyddol yng Nghymru yn ddiweddar bod yn rhaid iddynt gofrestru ag AGIC os ydynt yn bwriadu gwneud y canlynol:

  • Defnyddio laserau Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 neu ddyfeisiau Goleuni Pwls Dwys (IPL) ar gyfer triniaethau.
  • Cynnal triniaethau tawelyddu ymwybodol.

Rhaid i'r practisau deintyddol hynny sy'n darparu gwasanaethau o'r fath gyflwyno ffurflen gais a dogfennaeth ategol i sicrhau bod tystysgrifau cofrestru AGIC yn adlewyrchu'r gwasanaethau a ddarperir yn gywir. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein herthygl ddiweddaraf. Fel arall, e-bostiwch agic.cofrestru@llyw.cymru os bydd angen arweiniad pellach arnoch.

Gofynion Gwybodaeth Ychwanegol ar gyfer Practisau Deintyddol Preifat wedi'u Cofrestru ag AGIC

Clip board, tooth and speech bubbles