Canmol Canolfan Eni am ofal wedi'i deilwra at yr unigolyn ac arweinyddiaeth gryf, gan nodi meysydd i'w gwella
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn arolygiad dirybudd o'r gwasanaethau mamolaeth yng Nghanolfan Eni Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach, a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Canolbwyntiodd yr arolygiad, a gynhaliwyd dros ddau ddiwrnod ym mis Mehefin, ar uned annibynnol a arweinir gan fydwragedd sy'n cynnig genedigaethau risg isel, yn ogystal â gofal cynenedigol ac ôl-enedigol, heb wasanaeth meddygol ar y safle.
Canfu'r arolygwyr fod menywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth yn cael gofal llawn urddas a pharch a oedd wedi'i deilwra at eu hanghenion unigol. Roedd y Ganolfan Eni yn cynnig amgylchedd croesawgar a chartrefol, ac roedd y staff yn dangos tosturi a phroffesiynoldeb ar bob cam. Roedd mentrau hybu iechyd yn cael eu cefnogi, ac roedd adnoddau dwyieithog ar gael. Roedd gwaith cynllunio gofal wedi'i deilwra at yr unigolyn yn amlwg, ac roedd mynediad amserol at ofal yn cael ei reoli'n dda ar y cyfan.
Canfu'r arolygiad hefyd fod diogelwch ac effeithiolrwydd clinigol wedi'u hategu gan brosesau rheoli risg cadarn, gweithdrefnau diogelu clir a phrotocolau argyfwng wedi'u cydgysylltu'n dda. Roedd y cyfarpar a'r meddyginiaethau yn cael eu rheoli'n briodol, ac roedd cofnodion electronig yn helpu i sicrhau gofal diogel ac effeithlon.
Roedd arweinwyr y Ganolfan Eni yn weladwy, yn hawdd mynd atynt ac yn gefnogol. Roedd strwythurau llywodraethu ar waith, ac roedd y staff yn teimlo'n hyderus wrth godi pryderon. Roedd lefelau cydymffurfiaeth uchel â hyfforddiant, ac roedd morâl y staff yn gadarnhaol. Roedd prosesau gwella ansawdd a threfniadau gweithio mewn partneriaeth yn amlwg ym mhob rhan o'r gwasanaeth.
Er bod y canfyddiadau cyffredinol yn gadarnhaol, mae AGIC wedi argymell llawer o feysydd i'w gwella. Mae'r rhain yn cynnwys gwella'r arwyddion ym mhob rhan o'r ysbyty er mwyn sicrhau cyfarwyddiadau clir i'r Ganolfan Eni, gwella'r cyfathrebu o ran cael gafael ar y gwasanaeth y tu allan i oriau, ac ystyried adleoli'r uned adfywio newyddenedigol er mwyn cynnal preifatrwydd ac urddas. Mae'r adroddiad hefyd yn annog cynnydd parhaus tuag at roi'r Safonau ar gyfer Unedau Bydwreigiaeth ar waith yn llawn, ac adolygiad o fesurau diogelwch o ystyried y cynnydd yn nifer y bobl ar y safle. At hynny, mae angen adolygu'r strwythur arwain a nifer y staff llywodraethu mamolaeth dynodedig ar draws y bwrdd iechyd.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
Canfu ein harolygiad bod staff yn y Ganolfan Eni yn rhoi gofal tosturiol wedi'i deilwra at yr unigolyn, a hynny mewn amgylchedd croesawgar a chefnogol. Roedd yn galonogol gweld ffocws cryf y gwasanaeth ar ddiogelwch, proffesiynoldeb a chydraddoldeb, yn ogystal â'r diwylliant cadarnhaol a ddisgrifiwyd gan y staff. Fodd bynnag, gwnaethom hefyd nodi llawer o feysydd lle mae angen gwneud gwelliannau er mwyn atgyfnerthu cysondeb a threfniadau llywodraethu. Mae'r rhain yn cynnwys mynediad y tu allan i oriau, arwyddion a'r gallu i arwain. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r bwrdd iechyd er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd ystyrlon yn erbyn y canfyddiadau hyn.
Mehefin 2025 – Arolygiad o Ysbyty: Gwasanaethau Mamolaeth – Ysbyty Ystrad Fawr, Ystrad Mynach