Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth o'n Harolygiadau: Themâu Allweddol mewn Practisau Meddygon Teulu

Yn dilyn ein gwaith sicrwydd yn 2024-25, gwnaethom arolygu 30 o bractisau meddygon teulu ac adrodd ar nifer o faterion ledled Cymru. Mewn rhai amgylchiadau, bu'n rhaid i ni ofyn i'r practisau gymryd camau ar unwaith i leihau'r risgiau i ddiogelwch cleifion.

Beth mae Arolygiadau Meddygon Teulu yn ei Ddweud Wrthym Ni

Rydym yn cydnabod bod meddygfeydd teulu o dan bwysau sylweddol o hyd, oherwydd galw digynsail am eu gwasanaethau a straeniau eraill ar y GIG ehangach. Mae'r pwysau hwn wedi'i adlewyrchu yn ein canfyddiadau, sydd wedi amrywio.

Er gwaethaf yr amrywiad hwn, gwnaethom nodi themâu clir a risgiau i ddiogelwch cleifion mewn mwy na hanner (56%) ein harolygiadau.O ganlyniad, gwnaethom ofyn am gynllun gwella ar unwaith, sy'n ei gwneud yn ofynnol i bractisau ddweud wrthym, o fewn pum diwrnod gwaith, sut y byddant yn unioni pethau. 

Roedd materion yr oedd angen sicrwydd ar unwaith yn eu cylch yn cynnwys:

  • Achosion lle nad oedd gwiriadau o gyfarpar a chyffuriau brys yn cael eu cwblhau o leiaf unwaith yr wythnos Gan gynnwys enghreifftiau lle roedd eitemau ar goll, eitemau roedd y dyddiad defnyddio ar eu cyfer wedi mynd heibio neu eitemau nad oeddent ar gael yn hawdd.
  • Achosion lle nad oedd gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gael, ar y lefel briodol, ar gyfer staff clinigol a gweinyddol. Gan gynnwys diffyg trefniadau goruchwylio a monitro rheolaidd gan bractisau.
  • Diffyg cofnodion imiwneiddio ar gyfer y staff. Gan gynnwys diffyg trefniadau ar gyfer casglu gwybodaeth a goruchwylio, er enghraifft ar gyfer Hepatitis B.
  • Cydymffurfiaeth wael â hyfforddiant gorfodol, yn arbennig hyfforddiant ar ddiogelu, ac i'r lefel briodol. Gan gynnwys achosion lle nad oedd arweinwyr diogelu wedi'u nodi, diffyg polisïau a phrosesau clir, a diffyg system effeithiol ar gyfer tynnu sylw at unigolion agored i niwed.
  • Trefniadau atal a rheoli heintiau gwael. Gan gynnwys cyfarpar di-haint roedd y dyddiad defnyddio ar ei gyfer wedi mynd heibio, ardaloedd clinigol nad oedd yn cael eu glanhau'n ddigonol, a diffyg gweithgarwch archwilio prosesau atal a rheoli heintiau.

Nodwyd y materion uchod ar sawl achlysur. 

Roedd materion eraill yr oedd angen sicrwydd ar unwaith yn eu cylch a nodwyd yn cynnwys: 

  • Achosion lle nad oedd gwiriadau o dymheredd oergelloedd meddyginiaeth wedi'u cwblhau.
  • Nid oedd clychau galw / larymau argyfwng ar gael i'r cleifion a'r staff.
  • Nid oedd y Cyfarwyddiadau ar gyfer Grwpiau Cleifion wedi'u dyddio na'u hawdurdodi'n briodol
  • Nid oedd gwastraff clinigol yn cael ei storio mewn ffordd briodol a diogel.
  • Roedd cyffuriau a reolir yn cael eu storio'n amhriodol.

Mae'n siomedig bod llawer o'r canfyddiadau hyn wedi'u nodi yn y flwyddyn flaenorol ac y tynnwyd sylw atynt mewn diweddariad ar y themâu allweddol yn y gorffennol. Mae'n bwysig bod practisau, timau gofal sylfaenol byrddau iechyd, a rhanddeiliaid eraill yn dysgu o'r canfyddiadau hyn er mwyn sicrhau y caiff cleifion a staff eu hamddiffyn. Rhaid i fyrddau iechyd wneud yn siŵr y caiff y gwersi hyn eu rhannu a'u rhoi ar waith yn effeithiol er mwyn sicrhau gwasanaethau gofal sylfaenol diogel. 

90% o gleifion a ddywedodd eu bod wedi cael eu trin â urddas a pharch 63% o gleifion a allai archebu apwyntiad arferol pan fo angen 62% o gleifion a oedd yn gallu cael apwyntiad brys yr un diwrnod 49% o gleifion a gynigiwyd eu math neu ddull dewisol o apwyntiad 56% o arolygiadau a nododd risgiau i ddiogelwch cleifion gan fod angen cynlluniau gwella ar unwaith

Mae mynediad at wasanaethau meddyg teulu yn parhau i fod yn faes sy'n peri pryder i'r aelodau o'r cyhoedd y gwnaethom ymgysylltu â nhw. Daeth ein harolygon o brofiad cleifion meddygon teulu ar gyfer 2024-25 (650 o ymatebion) i'r casgliad bod dros hanner y cleifion yn gallu cael apwyntiad brys ar yr un diwrnod (62%) ac y gallent drefnu apwyntiad cyffredin pan oedd ei angen arnynt (63%). Fodd bynnag, dywedodd llai o gleifion wrthym eu bod wedi cael cynnig y math o apwyntiad neu'r dull apwyntiad y byddent yn ei ffafrio (49%)

Er gwaethaf y pwysau ar wasanaethau, daeth ein harolwg i'r casgliad, yn gadarnhaol, bod staff yn parhau i drin cleifion ag urddas a pharch (90%), a dywedodd 80% o gleifion wrthym eu bod yn teimlo bod staff yn gwrando arnynt a'u bod yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau am eu gofal iechyd.