Mae AGIC yn cofrestru'r rhan fwyaf o bractisau deintyddol preifat yn ddiamod. Os bydd angen sgiliau/profiad ychwanegol ar dîm deintyddol i ddarparu triniaethau penodol ac y bydd hyn yn cynyddu cwmpas ymarfer tîm deintyddol, mae'n bosibl y bydd AGIC yn ychwanegu amodau at gofrestriad y practis.
Ym mis Hydref 2024, ychwanegodd AGIC ddwy ffurflen gais newydd at ei gwefan mewn perthynas â'r defnydd o laserau Dosbarth 3b/4 i ddarparu triniaethau deintyddol a'r defnydd o ddulliau tawelyddu ymwybodol mewn practisau deintyddol preifat.
- Triniaethau deintyddol gan ddefnyddio laser Dosbarth 3b/4
Mae Rheoliad 32 o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2018 yn nodi'r gofynion ar gyfer defnyddio laser Dosbarth 3b/4 yn ystod triniaeth ddeintyddol breifat. Rhaid i AGIC gael sicrwydd bod y lleoliad cofrestredig yn cydymffurfio â Rheoliad 32, ac felly mae'n ofynnol i'r darparwr cofrestredig gyflwyno cais i ddarparu triniaethau deintyddol gan ddefnyddio peiriant laser mewn lleoliad sydd wedi'i gofrestru ag AGIC.
- Triniaethau deintyddol gan ddefnyddio dulliau tawelyddu ymwybodol
Mae Rheoliad 13 o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 a pholisi Safonau Gwasanaeth ar gyfer Tawelu Ymwybodol mewn lleoliad gofal deintyddol (Saesneg yn unig), yn nodi'r gofynion ar gyfer defnyddio dulliau tawelyddu ymwybodol mewn practis deintyddol.
Rhaid i AGIC gael sicrwydd bod y lleoliad cofrestredig yn cydymffurfio â Rheoliad 13 a safonau Llywodraeth Cymru, ac felly mae'n ofynnol i'r darparwr cofrestredig gyflwyno Cais i ddarparu dulliau tawelyddu ymwybodol mewn lleoliad sydd wedi'i gofrestru ag AGIC.
MAE ANGEN I BRACTISAU DEINTYDDOL PREIFAT PRESENNOL YNG NGHYMRU WEITHREDU
Os ydych yn defnyddio laser Dosbarth 3b/4 ar gyfer triniaethau deintyddol neu'n darparu dulliau tawelyddu ymwybodol i gleifion, rhaid i chi gyflwyno'r ffurflen gais berthnasol a dogfennaeth ategol i sicrhau bod eich cofrestriad presennol ag AGIC yn adlewyrchu'r gwasanaethau a ddarperir. Defnyddiwch eich porth diogel Objective Connect neu anfonwch e-bost i agic.cofrestru@llyw.cymru erbyn 31 Rhagfyr 2025.
Ni fydd unrhyw ffi am y newidiadau i'r cofrestriad yn ystod yr amser hwn. Pan fydd AGIC yn derbyn eich cais gyda'r holl wybodaeth a restrir yn Adran 1 y ffurflen gais, bydd AGIC yn adolygu'r cais ac mae'n bosibl y bydd yn cynnal ymweliad cofrestru i sicrhau ein bod wedi cael y sicrwydd sy'n ofynnol o dan y rheoliadau.
E-bostiwch agic.cofrestru@llyw.cymru os bydd angen cyngor/arweiniad pellach arnoch.