Gofal Brys Dan Bwysau: Canmol staff er gwaethaf yr heriau parhaus yn Ysbyty Gwynedd
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn arolygiad dirybudd o'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Gwynedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Cynhaliwyd yr arolygiad dros dri diwrnod ym mis Ebrill 2025 ac roedd yn asesu ansawdd a diogelwch y gofal a ddarperir i gleifion yn yr adran. Fel gyda'r rhan fwyaf o Adrannau Achosion Brys ledled Cymru, nododd yr arolygiad fod heriau systemig parhaus yn effeithio ar yr adran, sy'n deillio o lif cleifion gwael drwy'r ysbyty oherwydd oedi wrth ryddhau cleifion. Er gwaethaf yr heriau hyn, gwelodd yr arolygwyr sawl gwelliant cadarnhaol ers yr arolygiad blaenorol ym mis Awst 2023, ac enghreifftiau clir o wersi a ddysgwyd o'r materion a nodwyd yn flaenorol.
Canfu arolygwyr fod y tîm yn ymroddedig, yn gadarn ac yn ymdrechu i ddarparu gofal diogel a thosturiol. Gwelwyd bod yr adran yn lân ac yn cael ei chynnal a'i chadw'n dda, ac roedd trefniadau atal a rheoli heintiau da ar waith. Fodd bynnag, roedd yn peri pryder bod cleifion â systemau imiwnedd gwannach yn cael gofal mewn ardaloedd agored weithiau, gan gynyddu eu risg o gael haint.
Ystyriwyd bod y staff yn cyfathrebu'n glir â'r cleifion ac yn gwneud pob ymdrech i'w trin ag urddas a thosturi ac i gynnal eu preifatrwydd hyd eithaf eu gallu. Fodd bynnag, roedd hyn yn fwy heriol i'r rhai oedd yn cael gofal ar drolïau mewn ardaloedd nad ydynt wedi'u cynllunio i ddarparu gofal i gleifion, fel coridorau. Ar y cyfan, roedd y cleifion yn gadarnhaol am y rhyngweithio rhyngddynt a'r staff er bod sawl un yn rhwystredig â'r amseroedd aros hir.
Dangosodd yr adran feysydd o arferion da, gan gynnwys cyfathrebu effeithiol rhwng y staff, fferyllydd penodol, cymorth therapi galwedigaethol a ffisiotherapi a phroses ragweithiol i uwchgyfeirio cleifion sy'n wael. Roedd tîm arwain yr Adran Achosion Brys yn weladwy ac yn gefnogol, gyda'r uwch-arweinydd nyrsio yn cynorthwyo'r staff yn rheolaidd yn ystod cyfnodau prysur. Er hyn, nododd y staff nad oeddent yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth uwch-reolwyr y tu allan i'r adran.
Datgelodd canfyddiadau allweddol yr arolygiad sawl pryder am ddiogelwch y cleifion yr oedd angen cael sicrwydd ar unwaith yn eu cylch. Ymysg y materion roedd tymereddau storio meddyginiaeth yn uch na'r trothwyon diogel, eitemau yr oedd eu dyddiad wedi mynd heibio neu a oedd wedi'u storio'n amhriodol ar y troli adfywio, a lefelau staffio a goruchwylio annigonol yn yr ardal bediatrig. Hefyd, nodwyd nad oedd pob claf wedi'i frysbennu o fewn y cyfnod o 15 munud a argymhellir, gan arwain at oedi cyn cynnal adolygiadau arbenigol a throsglwyddo cleifion ambiwlans i'r adran, a oedd yn effeithio ar lif a diogelwch y cleifion.
Canfu'r arolygwyr fod y staff yn disgrifio diwylliant tîm cadarnhaol yn yr Adran Achosion Brys, ond codwyd pryderon ynghylch trais ac ymddygiad ymosodol gan y cleifion, diffyg egwylion a chyfleoedd anghyson i gael hyfforddiant a datblygiad.
Er gwaethaf yr heriau cyffredinol, canfu'r arolygwyr dystiolaeth o dîm ymroddedig a phroffesiynol sy'n gweithio'n galed i ddarparu gofal diogel a thosturiol mewn amgylchedd llawn straen. Hefyd, disgrifiodd y staff fod y diwylliant yn yr Adran Achosion Brys yn gadarnhaol, yn gynhwysol ac yn ystyriol o waith tîm, â chydberthnasau cryf a pharch rhwng unigolion o bob rôl. Nododd llawer o'r staff eu bod yn falch o'r gwaith a wnânt a bod ganddynt hyder yn eu rheolwyr uniongyrchol, eu bod yn hawdd mynd atynt ac yn barod i helpu. Roedd yr arweinyddiaeth a'r parodrwydd amlwg i roi cymorth ymarferol ar adegau prysur yn cael ei werthfawrogi'n arbennig.
Nodwyd cyfanswm o 28 o feysydd i'w gwella, a chyflwynodd y bwrdd iechyd gynllun gwella cynhwysfawr, a dderbyniwyd gan AGIC. Caiff cynnydd o ran y gwelliannau hyn ei fonitro fel rhan o waith sicrwydd parhaus AGIC.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
Mae'r pwysau a welwyd yn yr adran hon yn adlewyrchu darlun cenedlaethol ehangach, lle mae llif cleifion ac ardaloedd gorlawn yn parhau i herio gwasanaethau gofal brys ledled Cymru. Mae'r arolygiad hwn yn tynnu sylw at ymroddiad y staff yn Adran Achosion Brys Ysbyty Gwynedd i ddarparu gofal tosturiol dan bwysau. Fodd bynnag, mae hefyd yn nodi pryderon y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw i wella diogelwch y cleifion a llesiant y staff. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.
Ebrill 2025 - Arolygiad Ysbyty - Adran Achosion Brys - Ysbyty Gwynedd, Bangor