Mae cyfarfodydd Uwchgynhadledd Gofal Iechyd yn cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn er mwyn rhoi cyfle i gyrff gwella, rheoleiddio, arolygu ac archwilio drafod â'i gilydd.

Dyma'r canlyniadau a ragwelir:
- Cydberthnasau gwaith agosach a rhannu gwybodaeth rhwng y sefydliadau sy'n cymryd rhan
- Mae rhaglenni gwaith y sefydliadau sy'n cymryd rhan yn cael eu llywio gan y wybodaeth a rennir ac yn adlewyrchu dull ar y cyd o fynd i'r afael â meysydd sy'n peri pryder a/neu feysydd sydd angen eu datblygu
- Cytunir ar bryderon risg uchel ar y cyd a'u rhannu ym mhob cyfarfod Uwchgynhadledd. Efallai y caiff y canlyniad ei ddefnyddio i lunio adborth i Gyfarwyddwr Cyffredinol y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, a Phrif Weithredwr GIG Cymru, a'r Prif Weithredwr priodol gan berson sy'n bresennol yn yr Uwchgynhadledd, fel sy'n briodol
- Mynd ati'n rhagweithiol i gynnal gwaith sicrwydd neu gamau yn erbyn pryderon neu faterion, gan ddefnyddio pwerau gorfodi arbennig Llywodraeth Cymru, Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru neu'r broses Dwysáu ac Ymyrryd lle y bo'n briodol
- Mae sefydliadau sy'n cymryd rhan yn cydweithredu ac yn cydweithio gyda chyfoedion a rhanddeiliaid wrth i ni chwarae ein priod rolau wrth lywio'r gwaith o wella gofal iechyd yng Nghymru.
Dyma'r sefydliadau sy'n cymryd rhan ar hyn o bryd:
- Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)
- Perfformiad ac Gwella GIG Cymru
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru
- Archwilio Cymru
- Llais Cymru
- Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Gwasanaeth Cronfa Risg Cymru
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Archwilio a Sicrwydd
- Gwasanaeth Atal Twyll Cymru y GIG
- Y Cyngor Meddygol Cyffredinol
- Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol
- Pwyllgor Comisiynu ar y Cyd GIG Cymru