Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Ni yw'r arolygiaeth a'r rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru

Chwiliwch am wasanaeth gofal iechyd neu adroddiad arolygu

Ein diweddariadau diweddaraf

Newyddion

Cyhoeddi rhybudd i ddarparwr sy'n defnyddio gwasanaethau laser anghofrestredig

Yn dilyn ymchwiliad troseddol diweddar, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi defnyddio ei phwerau cyfreithiol o ganlyniad i achos o dorri Deddf Safonau Gofal 2000.

Cyhoeddedig: 11 Rhagfyr 2024
Angen gwella Ward Iechyd Meddwl arbenigol yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn arolygiad dirybudd o ward iechyd meddwl yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli. Mae Ward Bryngolau sy'n cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gofal iechyd meddwl arbenigol a gwasanaethau i oedolion hŷn.

Cyhoeddedig: 5 Rhagfyr 2024
Mae Angen Cymryd Camau Gweithredu i Wella Cymorth Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifanc

Mae adroddiad ar y cyd newydd a gyhoeddwyd heddiw gan yr arolygiaethau iechyd, gofal ac addysg yng Nghymru yn tynnu sylw at y ffaith bod angen gwneud gwelliannau ar unwaith i'r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i blant a phobl ifanc.

Cyhoeddedig: 21 Tachwedd 2024
Astudiaeth Achos o Arfer Da – Uned Mamolaeth Ysbyty Bronglais

Rydym am sicrhau bod gwasanaethau gofal iechyd yn myfyrio ar ein gwaith arolygu a sicrwydd ac yn mesur eu gwasanaethau eu hunain yn erbyn y canfyddiadau hyn, er mwyn ysgogi gwelliannau i wasanaethau. Rydym yn gobeithio y bydd modd i'r canfyddiadau o ran arfer da a ddangosir yn yr astudiaeth achos isod gael eu trosglwyddo rhwng sefydliadau, ac ar draws y gwasanaeth iechyd ehangach er mwyn cefnogi gwelliannau mewn systemau.

Cyhoeddedig: 24 Hydref 2024
Angen gwneud gwelliannau ar unwaith mewn Uned Iechyd Meddwl arbenigol yng Nghaerdydd

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (23 Hydref 2024) yn dilyn arolygiad tridiau o hyd yn Hafan y Coed, uned iechyd meddwl yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, a gaiff ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Cyhoeddedig: 23 Hydref 2024