Gweithwch gyda'r corff annibynnol sy’n arolygu ac yn rheoleiddio gofal iechyd yng Nghymru

Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn (SOAD)
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn
Pan fydd ysbyty cyfrifol y claf yn gofyn am hynny, bydd y Gwasanaeth Adolygu ar gyfer Iechyd Meddwl yn trefnu i feddyg annibynnol roi ail farn, a elwir yn Feddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn (SOAD), os nad yw'r claf yn gallu neu'n fodlon cydsynio i'w driniaeth. Mae hwn yn ofyniad statudol sy'n cael ei wneud ar ran Gweinidogion Cymru.
Darganfyddwch fwy
Adolygydd Cymheiriaid Nyrsys Practis
Mae Adolygwyr Cymheiriaid fel arfer yn ffurfio rhan o dîm amlddisgyblaethol ac mae eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar arferion a phrofiad cyfredol. Mae'r gwaith hwn yn cael ei gwblhau naill ai'n bersonol neu o bell o bryd i'w gilydd.
Darganfyddwch fwy
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw'r arolygiaeth a'r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn arolygu gwasanaethau GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau i amlygu meysydd sydd angen eu gwella.
Mae AGIC yn sefydliad prysur a chyflym gyda phobl wrth ei graidd.
Mae ein sefydliad wedi'i rannu'n sawl tîm, ac o fewn pob tîm, mae staff â rolau unigryw sy'n gweithio gyda'i gilydd i wirio bod gwasanaethau gofal iechyd yn cael eu darparu mewn ffordd sy'n mwyafu iechyd a llesiant pobl.