Neidio i'r prif gynnwy

Canmol Diwylliant Cadarnhaol a Gofal Mamolaeth Cynhwysol yn Ysbyty Glangwili, gyda Meysydd i'w Gwella wedi'u nodi

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn arolygiad dirybudd o'r gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Ysbyty Cyffredinol Glangwili Gwasanaethau Mamolaeth

Gwnaeth yr arolygiad tridiau o hyd, a gynhaliwyd ym mis Mai, arolygu sawl ward gan gynnwys y ward cynenedigol a'r ward ôl-enedigol, y ward esgor, yr uned a arweinir gan fydwragedd, yr uned frysbennu a'r uned asesu dydd. Canolbwyntiodd yr arolygwyr ar ansawdd a diogelwch y gofal a ddarperir i'r cleifion.

Ar y cyfan, gwelodd yr arolygwyr ofal caredig a pharchus yn cael ei ddarparu mewn amgylchedd glân a chefnogol. Gwelwyd y staff yn dangos tosturi ac empathi wrth ryngweithio. Hefyd, cafodd y gwasanaeth ei ganmol am ei ffocws cryf ar urddas, preifatrwydd a chynhwysiant, a oedd yn cael eu cefnogi gan wybodaeth iechyd ddwyieithog, gan gynnwys gwybodaeth am gymorth bwydo ar y fron, a phasbort mamolaeth a oedd wedi'i ddylunio ar gyfer unigolion niwroamrywiol. Tynnodd yr arolygwyr sylw at rôl bydwraig profiad y claf fel enghraifft o arfer da, ynghyd â'r gwaith allgymorth ymroddedig i gefnogi cymunedau amrywiol yn well hefyd.

Roedd yr adroddiad yn canmol yr uned famolaeth am greu amgylchedd gwaith a oedd yn ddiogel yn seicolegol, gydag ymgysylltiad cryf â'r staff a diwylliant dysgu a oedd wedi'i sefydlu'n dda. Roedd y cryfderau amlwg yn cynnwys gwaith tîm effeithiol yn ystod adolygiadau o ddigwyddiadau, arferion cadarnhaol mewn sesiynau theatr, a chyflwyno ystafell a llwybr brofedigaeth i gefnogi teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth. Dywedodd y staff fod yr hyfforddiant ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn “ystyrlon” ac yn “drawsnewidiol.”

Fodd bynnag, mae'r adroddiad hefyd yn nodi meysydd i'w gwella. Mae'r rhain yn cynnwys atgyfnerthu'r broses o drosglwyddo staff, cydymffurfiaeth well â hyfforddiant gorfodol, a sicrhau bod canllawiau clinigol cyfredol ar gael i'r staff. Croesawodd yr arolygwyr y broses o gyflwyno system frysbennu ffurfiol ar gyfer gofal mamolaeth ond gwnaethant awgrymu y dylid atgyfnerthu'r prosesau archwilio er mwyn cefnogi dysgu a gwelliant parhaus yn well. Gwnaethom hefyd gynghori y dylid adolygu'r defnydd o gyfarwyddiadau llafar ar gyfer meddyginiaethau er mwyn sicrhau arferion diogel a lleihau'r risg o gamgymeriadau. Hefyd, awgrymodd yr arolygwyr y dylid sicrhau bod yr aelodau o staff sy'n siarad Cymraeg yn fwy gweladwy a helpu'r holl staff i deimlo'n fwy hyderus wrth ddefnyddio'r Gymraeg.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

Nododd ein harolygiad fod y staff yn Ysbyty Glangwili yn darparu gofal tosturiol a chynhwysol mewn amgylchedd glân a pharchus. Roedd yn galonogol iawn gweld ffocws cryf y gwasanaeth ar urddas, cydraddoldeb a dysgu, yn ogystal â'r diwylliant cadarnhaol a ddisgrifiodd y staff. Er ein bod wedi nodi meysydd i'w gwella i atgyfnerthu diogelwch a chysondeb, gwelsom ddarlun cyffredinol o dîm ymroddedig a oedd yn gweithio'n galed i ddarparu gofal mamolaeth o ansawdd uchel. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd yn erbyn ein canfyddiadau.

Mai 2025 – Arolygiad Ysbyty - Gwasanaeth Mamolaeth -Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin