Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cynnal gwiriadau i sicrhau diogelwch ac ansawdd gofal iechyd ledled Cymru – gan gynnwys gwasanaethau'r GIG a gwasanaethau preifat.

Rydym wrthi ar hyn o bryd yn datblygu ein Strategaeth ar gyfer 2026–2030. Mae'r strategaeth hon yn amlinellu ein huchelgeisiau a'n blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf a sut y byddwn yn parhau i gyflawni ein cyfrifoldebau fel arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd yng Nghymru.
Rydym am gael barn gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, defnyddwyr gwasanaethau, a'r cyhoedd ehangach er mwyn sicrhau bod ein strategaeth yn adlewyrchu anghenion y rhai hynny rydym yn eu gwasanaethu.
Manylion yr Ymgynghoriad
Ar agor o: 8 Medi 2025
Yn cau ar: 1 Rhagfyr 2025
Sut i Gymryd Rhan

Cwblhewch yr arolwg ar-lein: https://www.smartsurvey.co.uk/s/XV2KH8/
A fyddech cystal â threulio ychydig funudau yn rhannu eich barn a'ch meddyliau? Dywedwch wrthym beth sy'n bwysig i chi.
Mae fformatau hygyrch pellach a chymorth ar gael ar gais, rydym am sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Os hoffech dderbyn cymorth i lenwi holiadur, ffoniwch 0300 062 8163 a bydd aelod o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn eich cynorthwyo.
Mae ein llinellau ffôn ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 9am a 4.30pm ar ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau cyhoeddus).
Dychwelwch y ffurflenni wedi'u cwblhau i: Arolgiaeth Gofal Iechyd Cymru, Llywodraeth Cymru, Cymru Adeiladau'r Llywodraeth, Parc Busnes Rhydycar, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.

Dogfennau
-
Poster Ymgynghori Strategaeth AGIC 2026-2030 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 390 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:390 KB
-
Arolwg argraffadwy Strategaeth AGIC 2026-2030 , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 142 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:142 KB
-
Arolwg Hawdd i'w Ddeall ar gyfer Strategaeth AGIC 2026-2030 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MBCyhoeddedig:Maint y ffeil:4 MB