Arolygiad ar y cyd yn nodi cryfderau trefniadau amddiffyn plant Sir Benfro a'r heriau y mae'n eu hwynebu oherwydd galw cynyddol
Er bod plant yn Sir Benfro yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod yn gyffredinol, mae arolygiad ar y cyd o'r trefniadau amddiffyn plant wedi nodi anghysondebau o ran arferion diogelu y mae angen eu gwella yn ystod cyfnod o gynnydd sylweddol yn y galw.

Cynhaliwyd yr Arolygiad ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant rhwng 17 a 21 Mawrth 2025 gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub ei Fawrhydi (HMICFRS), Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a Phrif Arolygydd ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn).
Tynnodd yr arolygiad sylw at gyd-destun diogelu heriol yn Sir Benfro:
- Mae nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant wedi dyblu mewn cyfnod o ddim ond dwy flynedd (o 58 ym mis Mawrth 2023 i 118 ym mis Chwefror 2025)
- Mae nifer y plant sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol wedi cynyddu 29% (o 242 i 312 yn ystod yr un cyfnod)
- Mae atgyfeiriadau yn dod yn fwy cymhleth
Mae'r cynnydd hwn yn y galw yn digwydd ar yr un pryd â phwysau cyllidebol sylweddol ar bob asiantaeth, gan bwysleisio pwysigrwydd trefniadau cydweithio amlasiantaethol effeithiol.
Cryfderau allweddol a nodwyd
Nododd yr arolygiad nifer o agweddau cadarnhaol mewn perthynas â threfniadau amddiffyn plant Sir Benfro:
- Yn gyffredinol, caiff plant yn Sir Benfro eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a niwed drwy ymatebion amlasiantaethol digonol
- Mae'r rhan fwyaf o blant yn cael eu cynnwys yn rhesymol yn eu gofal a'u cymorth ac yn cyflawni canlyniadau digonol
- Caiff Cynlluniau Amddiffyn Gofal a Chymorth yn aml eu cwblhau i safon uchel, gyda chadeiryddion cynadleddau yn llunio crynodebau yn uniongyrchol ar gyfer y plant. Mae hyn yn enghraifft o arfer da wrth sicrhau ffocws parhaus ar brofiadau'r plentyn
- Presenoldeb amlasiantaethol da mewn grwpiau craidd, cynadleddau amddiffyn plant, ac Adolygiadau Plant sy'n Derbyn Gofal
- Amseroedd aros gwell ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), gyda'r rhan fwyaf o blant bellach yn cael eu hasesu o fewn 28 diwrnod i gael eu hatgyfeirio
Meysydd i'w gwella
Nododd yr adroddiad hefyd heriau y mae angen mynd i'r afael â nhw:
- Cyfathrebu anghyson rhwng asiantaethau, yn enwedig rhwng gwasanaethau iechyd a gweithwyr cymdeithasol
- Mae'r Tîm Asesu Gofal Plant yn wynebu pwysau sylweddol o ran galw, sy'n effeithio ar ei allu i ymateb mewn modd amserol
- Prosesau sicrhau ansawdd anghyson sy'n cyfyngu ar y gallu i oruchwylio ansawdd ymarfer
- Nid yw Cynadleddau Amddiffyn Plant Cychwynnol bob amser yn cael eu cynnal o fewn y cyfnod gofynnol o 15 diwrnod
Gofynnwyd i Gyngor Sir Penfro baratoi ymateb amlasiantaethol, gan gynnwys y Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Heddlu Dyfed-Powys. Bydd y cynllun gweithredu hwn yn mynd i'r afael â'r canfyddiadau ac yn llywio gweithgareddau arolygu ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd llefarydd ar ran AGIC:
“Rhaid i blant a phobl ifanc gael eu diogelu drwy waith amlasiantaethol cyson, amserol ac effeithiol. Er y cydnabyddir bod plant yn Sir Benfro yn cael eu hamddiffyn rhag niwed ar y cyfan, mae'r arolwg wedi nodi meysydd lle mae'n rhaid gwella arferion diogelu er mwyn mynd i'r afael â lefelau cynyddol o angen.
Mae'r cynnydd sylweddol yn nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant a'r rhai sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn pwysleisio'r angen brys am systemau cadarn ac atebolrwydd a rennir ar draws pob asiantaeth. Mae'n hanfodol bod gweithwyr proffesiynol yn cael y wybodaeth gywir ar yr adeg gywir, a bod sianeli cyfathrebu yn glir ac yn ddibynadwy.
Rydym yn dal i fod yn ymrwymedig i weithio gyda'n partneriaid i fynd i'r afael â'r heriau hyn ac ysgogi gwelliannau. Mae ein harolygiadau ar y cyd yn ffordd allweddol o nodi'r hyn sy'n gweithio'n dda a lle mae angen newid, fel bod pob plentyn yng Nghymru yn cael ei amddiffyn ac yn cael y cymorth y mae'n ei haeddu.”