Neidio i'r prif gynnwy

Polisi AGIC ar y Defnydd o CCTV mewn Lleoliadau Iechyd Meddwl Rheoleiddiedig

Mae'r ddogfen hon yn amlinellu safbwynt AGIC ynglŷn â'r defnydd o CCTV mewn ysbytai iechyd meddwl a/neu anableddau dysgu. Mae'n cwmpasu'r rhesymeg a'r cyfiawnhad dros ddefnyddio CCTV, deddfwriaeth y dylid cydymffurfio â hi, cydsyniad cleifion, neu ddiffyg cydsyniad, ac ystyriaethau eraill y disgwylir i'r darparwr roi tystiolaeth ohonynt cyn gosod system CCTV.

Cefndir

Mae'r defnydd o CCTV mewn lleoliadau Iechyd Meddwl Annibynnol yng Nghymru wedi bod yn destun dadl ers peth amser, o ran ei effaith ar urddas, preifatrwydd a diogelwch cleifion. Er y deellir bod pryderon dilys y gall CCTV dorri hawliau cleifion, mae manteision wrth adolygu gofal cleifion, yn enwedig mewn perthynas â digwyddiadau, sy'n galluogi darparwyr i ddeall amgylchiadau digwyddiadau, amlinellu gwersi i'w dysgu a nodi anghenion hyfforddi. 

Manteision defnyddio CCTV

Casglu Tystiolaeth

Gall deunydd CCTV gynorthwyo gyda'r gwaith o ymchwilio i ddigwyddiadau a sicrhau atebolrwydd. Mae'n cynnig cymorth wrth geisio deall yr amgylchiadau sy'n arwain at ddigwyddiad, ac yn ystod digwyddiad, a gall fod yn fuddiol wrth gynnal adolygiadau. 

Diogelu Cleifion a Staff

Mae gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn aml yn wynebu sefyllfaoedd heriol gyda chleifion sy'n wael. Gellir defnyddio CCTV fel adnodd cymorth wrth ymchwilio i honiadau o gamymddwyn a darparu tystiolaeth mewn achosion o ymddygiad ymosodol neu drais. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol mewn materion diogelu er mwyn sicrhau bod staff wedi gweithredu yn unol â safonau disgwyliedig. 

Er y gall CCTV gynnig diogelwch ychwanegol i gleifion sy'n agored i niwed, neu roi darlun clir o'r amgylchiadau sy'n gysylltiedig â digwyddiad neu gŵyn, dylai darparwr allu dangos i AGIC ei fod wedi rhoi ystyriaeth briodol i unrhyw gamau llai ymwthiol y gellid eu cymryd er mwyn sicrhau y caiff yr un nodau eu cyflawni, ac esbonio pam yr ystyrir nad yw'r camau hynny'n briodol. 

Heriau sydd ynghlwm â'r defnydd o CCTV

Pryderon o ran Preifatrwydd

Gall CCTV arwain at bryderon ynglŷn ag urddas a phreifatrwydd cleifion a gall greu ymdeimlad o wyliadwriaeth barhaus, a all fod yn andwyol i iechyd meddwl claf, yn enwedig os bydd y claf yn dioddef ag elfennau o baranoia. Mae'n hanfodol bod y mater yn cael ei ystyried a bod asesiad risg yn cael ei gwblhau yn seiliedig ar gleifion penodol er mwyn lleihau effaith negyddol ar y gydberthynas therapiwtig. 

Materion Moesegol 

Mae'r defnydd o CCTV yn cyflwyno nifer o ystyriaethau moesegol, ymarferol a chyfreithiol i ddarparwyr y mae rhwymedigaeth arnynt i sicrhau diogelwch, lles, preifatrwydd ac urddas cleifion. Yn bwysig, ni ddylid ystyried y gellir defnyddio CCTV yn lle gweithdrefnau priodol i recriwtio, hyfforddi, rheoli a chefnogi staff, nac ar gyfer sicrhau bod nifer y staff sydd ar ddyletswydd yn ddigonol i ddiwallu anghenion cleifion. Dylai protocolau llym fod ar waith i sicrhau y defnyddir CCTV yn briodol ac yn ddiogel ac yn unol ag amodau'r cofrestriad. 

Ni ddylid defnyddio CCTV fel opsiwn amgen yn lle arsylwi'n bersonol ac ni ddylid gallu ei wylio'n fyw ac eithrio o dan amgylchiadau penodol a gwmpesir yn amodau'r cofrestriad. 

Deddfwriaeth

Mae'r prif ofynion deddfwriaethol mewn perthynas â'r defnydd o gamerâu gwyliadwriaeth (e.e. CCTV) i'w cael yn y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) 2016 a Deddf Diogelu Data 2018. Fodd bynnag, dylid ystyried y canlynol hefyd: 

  • Deddf Diogelu Rhyddidau 2012
    • Deddf Hawliau Dynol 1998
    • Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000
    • Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998
    • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
    • Amddifadu o Ryddid
    • Deddf Galluedd Meddyliol 2005
    • Y Cod Ymarfer ar CCTV a luniwyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth[1]
    • Y Cod Ymarfer ar Gamerâu Gwyliadwriaeth a luniwyd gan y Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth (fel y'i diwygiwyd) 2021[2]   

Bydd darparwr sy'n gosod ac yn defnyddio CCTV yn dod yn rheolydd data a bydd yn ofynnol iddo bennu'r sail gyfreithiol dros brosesu data'r CCTV o dan y GDPR, h.y. rhaid i'r defnydd o CCTV fod yn gyfreithlon, yn deg ac yn gymesur. 

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi Cod Ymarfer Diogelu Data ar gyfer camerâu gwyliadwriaeth a gwybodaeth bersonol sy'n berthnasol i bob math o sefydliad, nid dim ond y sector cyhoeddus. 

Ar gyfer lleoliadau iechyd, mae darpariaethau allweddol y Cod yn cynghori'r canlynol: 

  • Rhaid i ddarparwyr gael diben dilys, angenrheidiol, cymesur a theg dros osod system wyliadwriaeth, er mwyn diwallu angen dybryd.
  • Rhaid i ddarparwyr ystyried dulliau amgen o ymdrin â'r broblem cyn iddynt barhau gyda system wyliadwriaeth.
  • Dylai darparwyr ymgynghori â chleifion a phreswylwyr, eu teuluoedd a staff ynglŷn â gosod system wyliadwriaeth. Os na fydd gan rywun alluedd, dylent ymgynghori â pherson awdurdodedig, h.y. rhywun sydd ag atwrneiaeth ‘iechyd a lles’.
  • Dylai darparwyr ystyried cynnal ‘asesiad o'r effaith ar breifatrwydd’ er mwyn sicrhau eu bod wedi ystyried yr holl faterion preifatrwydd a'r dulliau o fynd i'r afael â nhw. Dylai hyn gynnwys meddwl am ba wybodaeth sensitif sy'n debygol o gael ei chofnodi gan y system wyliadwriaeth, y bobl y gallai gael effaith andwyol arnynt, a pha ddulliau amgen y gellid eu defnyddio.
  • Dylai'r defnydd o system wyliadwriaeth yn y gweithle ymyrryd cyn lleied â phosibl â disgwyliadau dilys gweithwyr o ran preifatrwydd.
  • Rhaid i ddarparwyr gael gweithdrefnau clir ar gyfer sut maent yn ymdrin â gwybodaeth a geir o system wyliadwriaeth, gan gynnwys prosesau datgelu, storio a gwaredu.
  • Rhaid i ddarparwyr hysbysu'r Comisiynydd Gwybodaeth yn flynyddol am eu trefniadau gwyliadwriaeth. Rhaid iddynt hefyd nodi rheolydd data a enwir ar gyfer eu sefydliad.
  • Yn y cyfnod cyn y dyddiad hysbysu blynyddol, dylai darparwyr achub ar y cyfle i adolygu a oes cyfiawnhad dros ddefnyddio system wyliadwriaeth o hyd.
  • Rhaid i ddarparwyr arddangos hysbysiadau amlwg yn rhybuddio ymwelwyr â chyfleusterau iechyd a gofal o'r math o system wyliadwriaeth sydd ar waith yno, ac â phwy y gellir cysylltu ynglŷn â'r cynllun.
  • Dylid gwneud yn glir i staff pryd, sut a pham mae gwyliadwriaeth yn digwydd, ac â phwy y gallant gysylltu ynglŷn â hyn. 

Gwnaed gwaith ymchwil ar y pwnc hwn sy'n tynnu sylw at fanteision ac anfanteision CCTV ond nid oes unrhyw ymchwil wedi dod i gasgliad pendant o blaid nac yn erbyn. [3][4]

Casgliad:

Mae'n ofynnol i ddarparwyr cofrestredig fodloni safonau sylfaenol a nodir yn Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2010 a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Gofal Iechyd Annibynnol yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn (rheoliad 15), urddas a pharch (rheoliad 18(1)), a diogelu cleifion rhag cael eu cam-drin (rheoliad 16). Mae preifatrwydd, a adlewyrchir yn erthygl 8 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, yn nodi bod gan bawb hawl i'w preifatrwydd gael ei barchu. Dylai'r hawl hon gael ei hamddiffyn cyn belled â phosibl. Er y cydnabyddir y gall amgylchiadau godi pan fydd cyfiawnhad sy'n dangos ei bod yn gyfreithlon, yn angenrheidiol ac yn gymesur cyfyngu ar yr hawl honno. 

Disgwyliad AGIC yw na chaiff CCTV ei ddefnyddio i arsylwi ar gleifion oni bai fod rhesymeg glir yn seiliedig ar gynllun gofal unigol ac er mwyn amddiffyn llesiant cleifion a diogelwch staff. Ni fyddai AGIC yn derbyn i arsylwadau CCTV fynd rhagddynt yn ardaloedd cymunedol wardiau. O dan amgylchiadau cyfyngedig, a dim ond pan ddogfennir yn glir fod angen gwneud hynny, gellir defnyddio arsylwadau CCTV mewn ystafelloedd cadw ar wahân neu leoliadau gofal uwch eraill mewn ward. 

Er bod y defnydd o CCTV mewn ysbytai iechyd meddwl yn codi pryderon dilys ynglŷn â phreifatrwydd ac urddas cleifion, mae ganddo rôl sylweddol o ran ymchwilio'n brydlon a darparu atebolrwydd. Gall prosesau i'w reoleiddio'n briodol a'i roi ar waith yn barchus helpu i sicrhau mai dim ond pan fo'n briodol ac yn ddiogel gwneud hynny y caiff CCTV ei ddefnyddio, gan sicrhau bod CCTV yn cael ei ddefnyddio'n briodol mewn lleoliadau gofal iechyd meddwl rheoleiddiedig. Bydd AGIC yn ystyried ceisiadau i ddefnyddio CCTV mewn ysbytai iechyd meddwl fesul achos. Mae holiadur yn cwmpasu'r hyn y mae angen i'r lleoliad ei ystyried wedi cael ei ddatblygu a chaiff ei drafod â'r darparwr cyn i benderfyniadau gael eu gwneud o ran a ddylid caniatáu'r elfen hon o'r cofrestriad. 

 

[1] CCTV and video surveillance | ICO 

[2] Update to Surveillance Camera Code of Practice - GOV.UK 

[3] https://www.kcl.ac.uk/news/little-evidence-to-support-increasing-use-of-surveillance-technology-on-mental-health-wards

[4] https://www.researchgate.net/publication/356173693_Surveillance_Practices_and_Mental_Health_The_Impact_of_CCTV_Inside_Mental_Health_Wards