Defnyddio ein gwefan ni
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae cyngor gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
- mae cyfyngiad o ran faint y gallwch chwyddo’r map ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’
Beth y dylech ei wneud os na allwch fynd i rannau o’r wefan hon
Os ydych chi angen yr wybodaeth sydd ar y wefan hon ar ffurf arall fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:
- e-bostiwch: agic@llyw.cymru
- ffoniwch: 0300 062 8163
Byddwn yn ystyried eich cais cyn gynted â phosib. Rydym yn bwriadu cydnabod pob ymholiad a wneir ar y ffôn, drwy lythyr neu e-bost o fewn dau ddiwrnod gwaith
Os nad ydych yn gallu gweld y map ar ein tudalen cysylltwch ni, anfonwch e-bost atom neu codwch y ffôn i gael cyfarwyddiadau.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon
Rydym ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os cewch chi broblem sydd heb ei rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n teimlo nad ydym yn cwrdd â gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni ar y manylion isod.
- e-bostiwch: agic@llyw.cymru
- ffoniwch: 0300 062 8163
- neu ysgrifennwch at: Rheolwr Cyfathrebu, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Adeiladau'r Llywodraeth, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) (yn Saesneg unig)
Cysylltu â ni ar y ffôn neu ymweld â ni
Mae system dolen glywed yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain.
Darganfod sut i gysylltu â ni ar ein tudalen cysylltwch ni
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.
nid yw rhai tudalennau ac atodiadau dogfennau wedi'u hysgrifennu'n glir
- nid oes gan rai tablau benawdau rhes
- mae gan rai tudalennau gyferbyniad lliw gwael
- nid yw rhai elfennau penawdau yn gyson
- nid yw rhai teitlau tudalen yn unigryw
- nid yw rhai labeli ffurflen yn unigryw
- nid oes gan rai delweddau destun amgen da
- nid yw rhai botymau wedi'u nodi'n gywir
- nid yw rhyw destun cyswllt yn disgrifio diben y ddolen
- mae llawer o ddogfennau ar ffurf PDF ac nid ydynt yn hygyrch
- Nid yw rhai elfennau'n cynnwys enwau ysgrifenedig clir.
- Mae rhai tudalennau'n cynnwys elfennau ARIA nad ydynt yn cael eu cymhwyso'n gywir.
- Mae rhai tudalennau'n cynnwys cod HTML5 yn cynnwys gwallau.
- Nid yw rhai elfennau penawdau yn gyson.
- Mae rhai dolenni wedi torri.
- Mae rhai meintiau ffontiau yn rhy fach.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw’n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF newydd rydym yn eu cyhoeddi yn diwallu safonau hygyrchedd.
Sut aethom ati i brofi’r wefan hon
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ym mis Medi 2020. Cynhaliwyd y prawf gan staff Llywodraeth Cymru, yn defnyddio SortSite, meddalwedd sy'n sganio gwefannau cyfan ar gyfer materion ansawdd.
Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Medi 2020. Diweddarwyd ddiwethaf ar yr un dyddiad.