Neidio i'r prif gynnwy

Canmoliaeth i ofal ond mae angen gwneud rhagor o welliannau mewn uned iechyd meddwl arbenigol yng Nghaerdydd

Cwblhaodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) arolygiad dirybudd o Uned Iechyd Meddwl Hafan y Coed yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, sy'n cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd, dros dri diwrnod yn olynol ym mis Ebrill 2025.

Uned Iechyd Meddwl Hafan y Coed

Canolbwyntiodd yr arolygiad ar Ward Maple, sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl diogel i ddynion sydd wedi cyflawni trosedd ddifrifol neu sy'n peri risg o niwed i eraill ac sydd â salwch meddwl difrifol a pharhaus. 

Nododd yr arolygwyr nifer o agweddau cadarnhaol ar ofal a phrofiad y cleifion. Roedd y staff yn trin y cleifion â charedigrwydd a pharch bob amser, ac yn darparu gofal wedi'i bersonoli. Roedd y ward yn dawel ac yn gefnogol, roedd gan bob un o'r cleifion ystafell wely ensuite ac roedd amrywiaeth eang o weithgareddau therapiwtig ar gael iddynt. Roedd y staff yn hyrwyddo hawliau'r cleifion, ac roedd lefelau uchel o gydymffurfiaeth â hyfforddiant ar gydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol. Roedd gwybodaeth glir hygyrch yn helpu'r cleifion a'u teuluoedd i ddeall y gofal a ddarparwyd. Roedd hefyd yn gadarnhaol nodi presenoldeb staff sy'n siarad Cymraeg a chyfleusterau aml-ffydd, a oedd yn cefnogi amgylchedd cynhwysol a pharchus. 

Fodd bynnag, mae angen gwneud gwelliannau mewn rhai meysydd, gan gynnwys rheoli heintiau a phryderon am iechyd a diogelwch. Mae materion a godwyd yn arolygiad AGIC yn 2020 yn dal i fod heb eu datrys, fel diffyg pwyntiau galw mewn argyfwng mewn ystafelloedd gwely a phrinder larymau personol. At hynny, nid oes drychau i fynd i'r afael â mannau dall yn y coridorau cymunedol wedi'u gosod o hyd, gan olygu bod y risgiau i ddiogelwch yn parhau. Nodwyd problemau yn ymwneud â gwaith cynnal a chadw a hylendid, fel difrod dŵr, gosodiadau wedi torri, annibendod, a risgiau i hylendid. Roedd cyfrifoldebau glanhau staff y ward a'r staff cadw tŷ yn aneglur, ac nid oedd y ddogfennaeth archwilio bob amser yn adlewyrchu cyflwr y ward yn gywir. 

Canfu'r arolygwyr fod systemau a gwiriadau clir ar waith i gefnogi gofal diogel ac effeithiol, ynghyd â gweithdrefnau ac archwiliadau rheoli risg. Fodd bynnag, tynnodd materion penodol, gan gynnwys oedi cyn lliniaru risgiau tân, a'r ffaith bod angen adolygu polisïau'r bwrdd iechyd, sylw at flychau mewn camau gweithredu a gwaith goruchwylio. Roedd y staff yn deall arferion cyfyngol ac yn eu defnyddio'n briodol. Fodd bynnag, nid oedd y cynlluniau Cefnogi Ymddygiad yn Gadarnhaol wedi cael eu rhoi ar waith yn gyson, ac nid oedd rhai asesiadau risg arbenigol wedi cael eu cynnal o ganlyniad i bwysau staffio a bylchau mewn hyfforddiant. 

Roedd y broses o gynllunio gofal yn cyrraedd y safonau cenedlaethol ac yn cael ei chofnodi'n dda, ond nodwyd cyfranogiad cyfyngedig gan wasanaethau eirioli. Er bod lefelau cydymffurfiaeth cyffredinol yn dda ar y cyfan, mae angen sicrhau eiriolaeth fwy cyson a chynnwys cleifion wrth wneud penderfyniadau. 

Roedd gweithlu medrus sefydlog ar y ward ynghyd â chyfraddau cadw staff uchel ac arweinyddiaeth gref, ac roedd sesiynau goruchwylio ac arfarniadau'r staff, a'r systemau adborth yn helpu i sicrhau gwelliannau parhaus. Fodd bynnag, nid oedd pob aelod o'r staff wedi cwblhau rhai cyrsiau hyfforddiant allweddol, fel Diogelwch Tân, Llywodraethu Gwybodaeth, Cydsyniad a'r Ddyletswydd Gonestrwydd, neu dim ond yn rhannol roeddent wedi cwblhau'r hyfforddiant hwnnw. Mynegodd y staff hefyd bryderon am amlygrwydd cyfyngedig yr uwch-reolwyr a'r heriau o ran cyfathrebu â nhw, a oedd yn effeithio ar forâl. 

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

Gwelsom sawl enghraifft o ofal ymroddedig yn Uned Iechyd Meddwl Hafan y Coed, a dangosodd y staff ymrwymiad i gefnogi'r cleifion ag empathi a phroffesiynoldeb. Fodd bynnag, mae'n destun pryder nad yw rhai o'r materion yn ymwneud â diogelwch a'r amgylchedd a nodwyd mewn arolygiadau blaenorol wedi eu datrys o hyd. Rhaid mynd i'r afael â'r materion hyn nawr fel blaenoriaeth. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau cynnydd parhaus fel rhan o'i ymdrechion gwella parhaus. 

Ebrill 2025 - Arolygiad o Wasanaeth Iechyd Meddwl - Ward Maple - Uned Iechyd Meddwl Hafan y Coed, Ysbyty Athrofaol Llandochau, Penarth