Neidio i'r prif gynnwy

Cofrestru fel darparwyr gofal iechyd annibynnol

Sut y gallwch cofrestru i ddarparu gwasanaeth gofal iechyd annibynnol

Pwy sydd angen cofrestru?

Sut i gofrestru

Er mwyn gwneud cais i gofrestru ag AGIC, bydd angen i chi gyflwyno cais wedi'i gwblhau. Dylai cais wedi'i gwblhau gynnwys y canlynol:

  • Ffurflen gais wedi'i chwblhau'n llawn
  • Datganiad o ddiben
  • Y canllaw i gleifion
  • Dau eirda personol ar gyfer y Rheolwr Cofrestredig sy'n gwneud cais
  • Geirda meddygol ar gyfer y Rheolwr Cofrestredig sy'n gwneud cais
  • Geirda ariannol ar gyfer yr unigolyn neu'r cwmni cyfyngedig sy'n gwneud cais
  • Copi o dystysgrif geni ar gyfer y Rheolwr Cofrestredig a'r Unigolyn Cyfrifol sy'n gwneud cais
  • Tystysgrif fanylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, wedi'i chyhoeddi o fewn y tair blynedd diwethaf ac wedi'i chynnal gan AGIC, ar gyfer y Rheolwr Cofrestredig a'r Unigolyn Cyfrifol sy'n gwneud cais. Os bydd angen pecyn cais DBS arnoch, byddwn yn ei anfon atoch drwy'r post ar ôl i ni dderbyn eich cais i gofrestru. Gellir dod o hyd i wybodaeth a chanllawiau ar wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yma
  • Y cyfrifon blynyddol diwethaf, os oes rhai ar gael
  • Mynegai o bolisïau a gweithdrefnau
  • Datganiad mewn perthynas â chaniatâd cynllunio

Ar gyfer gwasanaethau laser/IPL, rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol yn ogystal â'r holl wybodaeth uchod:

  • Tystiolaeth eich bod wedi penodi Cynghorydd Diogelu rhag Laserau
  • Rheolau lleol
  • Protocolau triniaeth, wedi'u cymeradwyo gan Ymarferydd Meddygol

Byddai'n well gennym pe gallech gyflwyno cais yn electronig, ond gallwch anfon copi caled drwy'r post i'n swyddfa yn AGIC, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ. I gyflwyno'r cais yn electronig, bydd angen i chi ddefnyddio ein porth diogel (Objective Connect). Os nad oes gennych gyfrif Objective Connect eisoes, anfonwch e-bost at y tîm Cofrestru yn agic.cofrestru@llyw.cymru a byddwn yn creu cyfrif ar eich cyfer ac yn anfon cyfarwyddiadau yn nodi sut i'w ddefnyddio.

Ni allwn brosesu ceisiadau cofrestru oni bai eich bod wedi darparu'r holl wybodaeth uchod. Os byddwch yn cael unrhyw anawsterau o ran darparu'r holl wybodaeth uchod, cysylltwch â ni yn agic.cofrestru@llyw.cymru i drafod y mater.

Ar ôl i'ch cais ddod i law, byddwn yn cadarnhau ei fod yn gyflawn ac yn asesu'r wybodaeth a ddarparwyd.   Byddwn yn cysylltu â chi (fel arfer drwy Objective Connect) i roi gwybod i chi ein bod wedi gwneud hyn ac i egluro'r camau nesaf.

Ceir manylion llawn y broses asesu a'r wybodaeth y byddwn yn gofyn amdani yn y canllawiau.

Ffioedd cofrestru

Mae'n rhaid talu ffi gofrestru mewn perthynas â'r rhan fwyaf o geisiadau i gofrestru gwasanaeth gofal iechyd annibynnol. Unwaith y byddwn wedi cymeradwyo eich cais, byddwn yn anfon ffurflen atoch drwy e-bost i chi ei chwblhau er mwyn gallu creu cyfrif cyllid Llywodraeth Cymru ar eich cyfer.  Bydd hyn yn ein galluogi i anfon anfonebau ar gyfer unrhyw ffioedd perthnasol drwy gydol eich cais/cofrestriad.  Unwaith y bydd y cyfrif wedi'i greu, byddwn yn anfon anfoneb drwy e-bost ar gyfer y ffi gofrestru.  Bydd cyfarwyddiadau ar gyfer gwneud taliad yn cael eu cynnwys gyda'r anfoneb

Gwelir manylion y ffioedd yma.

Ffioedd blynyddol

Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o wasanaethau gofal iechyd annibynnol cofrestredig dalu ffi flynyddol i barhau i fod wedi'u cofrestru.

Gwelir manylion y ffioedd yma, sy’n amrywio gan ddibynnu ar y gwasanaeth rydych yn ei ddarparu.

Mae eich ffi flynyddol yn ddyledus un mis ar ôl y dyddiad cofrestru.  Mae'r ffi flynyddol hon yn berthnasol i flwyddyn gyntaf y cofrestriad a bydd angen ei thalu bob blwyddyn ar ôl hynny ar y dyddiad cofrestru. Byddwn yn anfon yr anfoneb berthnasol drwy e-bost a bydd yn cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer gwneud y taliad.

Y gyfraith

Mae'n rhaid i wasanaethau gofal iechyd annibynnol gofrestru ag AGIC cyn gallu darparu unrhyw wasanaeth deintyddol preifat yng Nghymru fel sy'n ofynnol yn gyfreithiol gan Ddeddf Safonau Gofal 2000

Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 yn nodi'r wybodaeth a'r ddogfennaeth y mae'n rhaid eu cyflwyno gyda'ch cais er mwyn cofrestru.

Er mwyn cymeradwyo eich cais i gofrestru, mae'n rhaid ein bod yn fodlon y byddwch yn cydymffurfio â Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 a'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Gofal Iechyd Annibynnol yng Nghymru.

Mae'r ffioedd sy'n daladwy yn ôl y gyfraith wedi'u nodi yn Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) (Ffioedd) 2011.

Dweud eich dweud ar ein proses gofrestru

Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar y ffordd yr ydym yn rheoli ein proses gofrestru i sicrhau ein bod yn gweithio yn y ffordd fwyaf craff posibl.

Dywedwch eich dweud ar hygyrchedd ein gwybodaeth gofrestru, eglurder y canllawiau a ddarparwyd, yn ogystal â'r broses gofrestru ei hun.

Cwblhewch ein harolwg byr.

Dogfennau