Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gofrestru fel practis deintyddol preifat neu arfer mynediad uniongyrchol preifat

Oes angen i chi gofrestru?

Sut i gofrestru

Er mwyn gwneud cais i gofrestru ag AGIC, bydd angen i chi gyflwyno cais wedi'i gwblhau. Dylai cais wedi'i gwblhau gynnwys y canlynol:

  • Ffurflen gais wedi'i chwblhau'n llawn
  • Datganiad o ddiben
  • Taflen wybodaeth i gleifion
  • Dau eirda personol ar gyfer y Rheolwr Cofrestredig sy'n gwneud cais
  • Copi o dystysgrif geni ar gyfer y Rheolwr Cofrestredig a'r Unigolyn Cyfrifol sy'n gwneud cais
  • Tystiolaeth o gymwysterau proffesiynol ar gyfer y Rheolwr Cofrestredig a'r Unigolyn Cyfrifol sy'n gwneud cais
  • Tystysgrif fanylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), wedi'i chyhoeddi o fewn y tair blynedd diwethaf at ddibenion deintyddiaeth, ar gyfer y Rheolwr Cofrestredig a'r Unigolyn Cyfrifol sy'n gwneud cais.  Gellir dod o hyd i wybodaeth a chanllawiau ar wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yma
  • Y cyfrifon blynyddol diwethaf, os oes rhai ar gael
  • Mynegai o bolisïau a gweithdrefnau
  • Datganiad mewn perthynas â chaniatâd cynllunio

Byddai'n well gennym pe gallech gyflwyno cais yn electronig, ond gallwch anfon copi caled drwy'r post i'n swyddfa yn AGIC, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ. I gyflwyno'r cais yn electronig, bydd angen i chi ddefnyddio ein porth diogel (Objective Connect). Os nad oes gennych gyfrif Objective Connect eisoes, anfonwch e-bost at y tîm Cofrestru yn agic.cofrestru@llyw.cymru a byddwn yn creu cyfrif ar eich cyfer ac yn anfon cyfarwyddiadau yn nodi sut i'w ddefnyddio.

Ni allwn brosesu ceisiadau cofrestru oni bai eich bod wedi darparu'r holl wybodaeth uchod. Os byddwch yn cyflwyno cais anghyflawn, ni chaiff eich cais ei brosesu.  Os byddwch yn cael unrhyw anawsterau o ran darparu'r holl wybodaeth uchod, cysylltwch â ni yn agic.cofrestru@llyw.cymru i drafod y mater.

Ar ôl i'ch cais ddod i law, byddwn yn cadarnhau ei fod yn gyflawn ac yn asesu'r wybodaeth a ddarparwyd.  Byddwn yn cysylltu â chi (fel arfer drwy Objective Connect/e-bost) i roi gwybod i chi ein bod wedi gwneud hyn ac i egluro'r camau nesaf.

Ceir manylion llawn y broses asesu a'r wybodaeth y byddwn yn gofyn amdani yn y canllawiau.

Ffioedd cofrestru

Ni chodir unrhyw ffioedd cofrestru ar gyfer ceisiadau sy'n ymwneud â phractis deintyddol preifat.  Fodd bynnag, bydd angen i ni greu cyfrif cyllid Llywodraeth Cymru yn ystod y broses gofrestru er mwyn gallu cyflwyno anfonebau drwy gydol eich cofrestriad. Bydd aelod o'r tîm Cofrestru yn anfon ffurflen atoch drwy e-bost i chi ei chwblhau er mwyn creu'r cyfrif hwn.

Ffioedd blynyddol

Mae'n rhaid i bob practis deintyddol preifat cofrestredig dalu ffi flynyddol i barhau i fod wedi'i gofrestru.

Y ffi flynyddol yw £500 neu £300 os mai dim ond un deintydd sydd yn y practis a bod y deintydd hwnnw yn darparu gwasanaethau deintyddol preifat a'r GIG.

Mae eich ffi flynyddol yn ddyledus un mis ar ôl y dyddiad cofrestru (pro rata ar gyfer y misoedd sy'n weddill o'r flwyddyn ariannol) a bob blwyddyn ar 1 Ebrill ar ôl hynny. Byddwn yn anfon yr anfoneb berthnasol drwy e-bost a bydd yn cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer gwneud y taliad.

Y gyfraith

Mae'n rhaid i bractisau deintyddol preifat a phractisau mynediad uniongyrchol preifat gofrestru â ni cyn gallu darparu unrhyw wasanaeth deintyddol preifat yng Nghymru fel sy'n ofynnol yn gyfreithiol gan Ddeddf Safonau Gofal 2000

Mae Rheoliadau Cofrestru Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017  yn nodi'r wybodaeth a'r ddogfennaeth y mae'n rhaid eu cyflwyno gyda'ch cais er mwyn cofrestru ag AGIC.

Er mwyn cymeradwyo eich cais i gofrestru â ni mae'n rhaid ein bod yn fodlon y byddwch yn cydymffurfio â Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017.

Dweud eich dweud ar ein proses gofrestru

Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar y ffordd yr ydym yn rheoli ein proses gofrestru i sicrhau ein bod yn gweithio yn y ffordd fwyaf craff posibl.

Dywedwch eich dweud ar hygyrchedd ein gwybodaeth gofrestru, eglurder y canllawiau a ddarparwyd, yn ogystal â'r broses gofrestru ei hun.

Cwblhewch ein harolwg byr.