Neidio i'r prif gynnwy

Dysgu a Dealltwriaeth

Gwella gyda'n Gilydd: Rhannu Dysgu a Dealltwriaeth er mwyn Gwella Gofal Iechyd

Rhannu Dysgu a Dealltwriaeth er mwyn Gwella Gofal Iechyd

Fel rhan o'n hymrwymiad i lywio gwelliant parhaus o fewn gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru, rydym yn rhannu ein canfyddiadau allweddol.

Isod ceir cyfres o astudiaethau achos a themâu sy'n dod i'r amlwg yn ein harolygiadau a'n gwaith sicrwydd.

Credwn fod gwerth sylweddol mewn rhannu dysgu a phrofiadau o'n gwaith. Rydym am y gwasanaethau gofal iechyd ddefnyddio ein canfyddiadau i adlewyrchu a mesur eu gwasanaethau eu hunain yn erbyn, er mwyn gyrru system a gwella gwasanaethau o fewn gofal iechyd a mynd i'r afael â'n blaenoriaeth, sef ‘gwella iechyd a llesiant pobl gymaint â phosibl'.

Rydym yn gobeithio y gallai ein canfyddiadau gael eu trosglwyddo rhwng sefydliadau ac ar draws y gwasanaeth iechyd ehangach i gyd-lywio’r broses o wella'r gwasanaeth a'r system ym maes gofal iechyd.