Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau i Ddarparwyr a Rheolwyr Cofrestredig - Hysbysiad Statudol o Ddigwyddiadau

Hysbysiadau Statudol o Ddigwyddiadau o dan Reoliadau 30 a 31 o Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011.

Canllawiau i Ddarparwyr a Rheolwyr Cofrestredig

1. Cyflwyniad

Lluniwyd y canllawiau hyn i gynorthwyo darparwyr a rheolwyr ('personau cofrestredig') sefydliadau neu asiantaethau gofal iechyd annibynnol sydd wedi'u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ('AGIC') wrth iddynt gwblhau ffurflenni digwyddiadau hysbysadwy. Mae'r canllawiau hyn yn egluro pa fath o ddigwyddiadau y mae angen hysbysu amdanynt, ynghyd â'r amserlenni cyfatebol, a hefyd yn nodi'r broses y dylid ei dilyn wrth gyflwyno ffurflen hysbysu. 

2. Cefndir

O dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (1) rhaid i'r rheini sy'n darparu neu'n rheoli ysbytai annibynnol, clinigau annibynnol, ac asiantaethau meddygol annibynnol gofrestru â'r awdurdod cofrestru. Yng Nghymru, mae AGIC yn cyflawni'r swyddogaeth hon ar ran Gweinidogion Cymru. 

Mae rheoliadau 30 a 31 o Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 (2) (“y Rheoliadau”) yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cofrestredig hysbysu AGIC am ddigwyddiadau rhagnodedig (gellir dod o hyd iddynt yn Atodiad A). Mae'r digwyddiadau dan sylw yn ymwneud â diogelwch cleifion, ac er bod gofyniad cyfreithiol i hysbysu AGIC amdanynt, disgwylir hefyd fod gan y person cofrestredig y polisïau a'r gweithdrefnau angenrheidiol ar waith i leihau'r risg y byddant yn digwydd yn y lle cyntaf; i ymdrin â'r sefyllfa'n briodol os, a phan, fydd yn digwydd; ac i sicrhau bod y risg a nodwyd yn cael ei rheoli’n briodol er mwyn atal y sefyllfa rhag codi eto yn y dyfodol. 

Gall methu â hysbysu AGIC am ddigwyddiad hysbysadwy o fewn y terfynau amser a nodir yn y ddeddfwriaeth arwain at gamau gorfodi gan AGIC; gallai hyn yn ei dro arwain at erlyniad troseddol a/neu ganslo eich cofrestriad. 

(1) Gellir gweld y Ddeddf yn https://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/2000/14/contents 

(2) Gellir gweld y Rheoliadau hyn yn https://www.legislation.gov.uk/cy/wsi/2011/734/contents/made 

3. Digwyddiadau y mae angen hysbysu amdanynt

Mae trosolwg o'r digwyddiadau y mae angen hysbysu amdanynt a'r amserlenni ar gyfer hysbysu wedi'u nodi yn Atodiad A

Os oes unrhyw amheuaeth o ran a oes angen rhoi gwybod am ddigwyddiad ai peidio, dylid gofyn am arweiniad drwy gysylltu ag AGIC. Gellir dod o hyd i'n manylion cyswllt ar ddiwedd y ddogfen hon. 

4. Sut i roi gwybod am ddigwyddiad hysbysadwy

Defnyddiwch y ffurflenni hysbysu safonol

Pan fyddwch yn hysbysu AGIC am ddigwyddiad hysbysadwy, dylech ddefnyddio'r ffurflen berthnasol sydd wedi'i chyhoeddi ar wefan AGIC, gan y bydd hynny'n sicrhau eich bod yn defnyddio'r fersiwn fwyaf priodol a chyfredol o'r ffurflen. 

Bydd cwblhau pob rhan o'r ffurflen mewn modd cynhwysfawr hefyd yn lleihau'r angen i AGIC ofyn am eglurhad/sicrwydd pellach. 

 

Unigolion Awdurdodedig

Er bod y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cofrestredig hysbysu AGIC; cydnabyddir efallai na fydd hynny bob amser yn bosibl. Felly, gall fod angen i'r person cofrestredig ddirprwyo'r dasg hysbysu i unigolion awdurdodedig. 

Cyn y gallwn dderbyn hysbysiad a anfonwyd ar eich rhan, bydd angen i chi roi rhestr i AGIC o'r unigolion (a'u cyfeiriadau e-bost) rydych wedi'u hawdurdodi i gysylltu â ni (3).  Mae AGIC yn caniatáu i bob sefydliad cofrestredig enwebu hyd at chwe unigolyn awdurdodedig, yn ogystal â'r Rheolwr Cofrestredig a'r Unigolyn Cyfrifol, i allu cyflwyno hysbysiadau drwy'r system ddiogel. 

Cymerir bod unrhyw hysbysiadau neu ohebiaeth gysylltiedig a geir gan yr unigolion awdurdodedig hyn, wedi'u darparu â chydsyniad y person cofrestredig a bod y person cofrestredig yn ymwybodol o hynny. 

Cyfrifoldeb y sefydliad perthnasol yw rhoi gwybod i AGIC unrhyw bryd y bydd angen diweddaru'r rhestr o unigolion awdurdodedig, er enghraifft, os bydd unigolyn yn gadael y sefydliad. 

Os bydd AGIC yn cael hysbysiad gan unigolyn nad yw ar restr unigolion awdurdodedig y sefydliad perthnasol, ni chaiff y ffurflen hysbysu ei derbyn a bydd AGIC yn cysylltu â'r person cofrestredig i gael eglurhad. 

Bydd gohebiaeth sy’n ymwneud â digwyddiad penodol yn cael ei chyfeirio at yr unigolyn sy’n hysbysu AGIC hyd nes y caiff wybod yn wahanol. 

Os bydd person awdurdodedig yn destun honiad o gamymddwyn, dylid rhoi gwybod i AGIC ar wahân, er mwyn sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i gyfyngu ar fynediad i'r weithfan berthnasol a'r dogfennau sy'n cael eu rhannu. 

 

Hysbysiad preifatrwydd

Mae'r ffurflenni hysbysu am ddigwyddiad a'r rhestr o unigolion awdurdodedig yn gofyn am wybodaeth bersonol amdanoch chi a'ch staff. 

Rydym yn defnyddio'r rhestr o unigolion awdurdodedig i gadarnhau bod y wybodaeth a gawn wedi'i chyflwyno gan eich sefydliad a hynny gan rywun sydd wedi'i awdurdodi i roi gwybod i ni. 

Rydym yn defnyddio'r enwau a'r cyfeiriadau e-bost ar y ffurflenni digwyddiadau hysbysadwy i anfon cydnabyddiaeth ac, ar adegau, i ofyn rhagor o gwestiynau am y digwyddiad. 

Rydym yn cadw hen ffurflenni am hyd at ddeng mlynedd cyn eu dinistrio'n ddiogel yn unol â chanllawiau cadw cofnodion Llywodraeth Cymru. 

Byddwn yn defnyddio Objective Connect, y porth diogel a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, i rannu gwybodaeth. 

5. Cwblhau'r ffurflenni hysbysu

Pwyntiau allweddol 

  • Dylech bob amser ddefnyddio'r ffurflenni cyfredol sydd wedi'u cyhoeddi ar wefan AGIC (Ni fydd unrhyw ffurflenni hysbysu sydd wedi dyddio ac a gyflwynir i AGIC yn cael eu derbyn, a byddant yn cael eu dychwelyd at yr anfonwr)
  • Byddwch yn glir ac yn gryno, ac amgaewch unrhyw ddogfennau ategol megis adroddiadau ymchwilio a gomisiynwyd gennych 
  • Dylid cwblhau pob rhan o'r ffurflen berthnasol (os nad oes gwybodaeth berthnasol ar gael pan fyddwch yn ei chwblhau, nodwch hyn ynghyd â phryd rydych yn disgwyl ei hanfon i AGIC)
  • Dylech osgoi defnyddio unrhyw jargon, acronymau a byrfoddau
  • Sicrhewch fod ffurflenni Rhan A a Rhan B yn cael eu cyflwyno ar gyfer pob hysbysiad. Sicrhewch y caiff pob rhan o'r ffurflen ei chwblhau'n llawn. Os nad yw rhan benodol yn berthnasol i'r digwyddiad, nodwch hyn drwy ychwanegu 'Dd/G'
  • Sicrhewch fod ffurflen Rhan A yn amlinellu'n glir yr hyn sydd wedi digwydd a'r camau a gymerwyd ar unwaith gan y sefydliad i ddiogelu'r claf/cleifion
  • Sicrhewch fod ffurflen Rhan B yn rhoi manylion ychwanegol y camau a gymerwyd gan y sefydliad i atal unrhyw ddigwyddiadau tebyg rhag digwydd eto yn y dyfodol
  • Os oes unrhyw ymchwiliadau ychwanegol yn mynd rhagddynt, rhowch ragor o fanylion yn ffurflen Rhan B am y gweithgarwch ychwanegol, yn ogystal â'r amserlenni amcangyfrifedig ar gyfer cwblhau'r gweithgarwch hwnnw. 

6. Sut i gyflwyno eich ffurflen digwyddiad hysbysadwy wedi'i chwblhau

Wrth gyflwyno ffurflenni hysbysu wedi'u cwblhau i AGIC, dylech ddefnyddio un o'r dulliau canlynol yn unig: 

a) Anfonwch ffurflenni electronig wedi'u cwblhau i AGIC drwy Objective Connect (OC).  Os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu os byddwch yn cael unrhyw broblemau yn defnyddio'r cyfrif OC, anfonwch neges i flwch negeseuon e-bost Digwyddiadau Hysbysadwy AGIC - HIWNotifiableEvents@llyw.cymru.

b) Os bydd unrhyw broblemau'n codi sy'n golygu na allwch gyflwyno ffurflenni hysbysu electronig i AGIC, anfonwch gopi papur o'r ffurflen hysbysu wedi'i chwblhau i AGIC gan ddefnyddio gwasanaeth dosbarthiad wedi'i gofnodi. Dylech hysbysu AGIC eich bod yn gwneud hynny cyn anfon unrhyw ddogfennau hysbysu drwy'r post. Dylech hysbysu AGIC drwy flwch negeseuon e-bost Digwyddiadau Hysbysadwy AGIC. 

Dylid anfon copi caled i AGIC drwy wasanaeth dosbarthiad wedi'i gofnodi i: 

Y Tîm Ymchwiliadau, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ 

Noder, ni ddylid anfon hysbysiadau'n uniongyrchol at staff AGIC na thrwy FFACS. 

7. Yr hyn sy'n digwydd ar ôl i chi roi gwybod am y digwyddiad

Pan fydd AGIC yn cael hysbysiad, byddwn yn anfon neges gydnabod drwy e-bost at yr unigolyn awdurdodedig a gyflwynodd y ffurflen o fewn dau ddiwrnod gwaith. 

Bydd y neges gydnabod yn cynnwys cyfeirnod AGIC i'w ddefnyddio ar bob gohebiaeth ddilynol sy'n ymwneud â'r digwyddiad. Os na fyddwch yn cael cydnabyddiaeth gan AGIC o fewn dau ddiwrnod gwaith, dylech gysylltu ag AGIC ar unwaith. Bydd y neges gydnabod yn cynnwys manylion am y dyddiad terfyn ar gyfer dychwelyd ffurflen hysbysu Rhan B.

Caiff pob hysbysiad a ddaw i law ei ystyried a'i frysbennu o fewn tri diwrnod gwaith.   Ar ôl ei ystyried, efallai y gofynnir i chi roi rhagor o wybodaeth/sicrwydd i AGIC ynglŷn â'r digwyddiad a'r camau dilynol a gymerwyd, cyn cyflwyno Rhan B. 

Dylech sicrhau y caiff ffurflenni hysbysu Rhan B eu cyflwyno i AGIC o fewn yr amserlen benodol a nodir yn neges gydnabod AGIC. Dylai ffurflenni Rhan B nodi manylion unrhyw gamau ychwanegol a gymerwyd gan y sefydliad, gan gynnwys mesurau i ymchwilio i'r digwyddiad ac i atal digwyddiadau tebyg rhag digwydd eto yn y dyfodol.  Os na fydd yr ymchwiliad wedi'i gwblhau erbyn terfyn amser Rhan B, dylech gyflwyno'r ffurflen gan roi diweddariad ar gynnydd a'r amserlenni amcangyfrifedig ar gyfer cwblhau/cyflwyno i AGIC. Yn dilyn hynny, anfonwch yn adroddiad ar yr ymchwiliad i AGIC pan fyddwch wedi'i gwblhau. 

Yn achos hysbysiadau sy'n ymwneud â marwolaethau cleifion, os na fydd achos ardystiedig y farwolaeth wedi'i gadarnhau cyn terfyn amser rhan B, dylech gyflwyno Rhan B gan nodi'r wybodaeth hon. Dylech sicrhau bod AGIC yn cael diweddariad pan gaiff achos ardystiedig y farwolaeth ei gadarnhau. 

Ar ôl i ffurflenni Rhan B ac unrhyw adroddiad cysylltiedig ar yr ymchwiliad ddod i law, bydd AGIC yn edrych ar y dogfennau er mwyn darganfod a roddwyd sicrwydd digonol. Os ystyrir bod sicrwydd digonol, bydd AGIC yn cau'r hysbysiad. Fodd bynnag, os bydd angen eglurhad neu sicrwydd ychwanegol, bydd AGIC yn cysylltu â'r sefydliad i ofyn am ragor o wybodaeth. 

Bydd AGIC yn mynd ar drywydd unrhyw ffurflenni Rhan B neu adroddiadau ar ymchwiliadau sydd heb eu cyflwyno drwy Broses Llythyr Atgoffa AGIC.  Bydd llythyrau'n cael eu hanfon at Reolwr Cofrestredig y sefydliad i nodi unrhyw wybodaeth nad yw wedi'i chyflwyno eto i AGIC, mewn perthynas â hysbysiadau sydd ar waith. Noder, gall methu ag ymateb i lythyr atgoffa AGIC, o fewn yr amserlen a nodwyd, arwain at gyhoeddi hysbysiad diffyg cydymffurfio. 

 

Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), ar ran Llywodraeth Cymru, yn prosesu'r wybodaeth hon yn unol â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018. Mae'n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â chyrff rheoleiddio eraill, asiantaethau gorfodi'r gyfraith, ac eraill yn Llywodraeth Cymru yn ôl yr angen. 

Mae'r wybodaeth a ddarperir ar y ffurflenni digwyddiad hysbysadwy yn galluogi AGIC i asesu gweithredoedd sefydliadau ac asiantaethau gofal iechyd yn unol â'r gofynion rheoleiddio, ac i bennu pa gamau gweithredu sydd eu hangen, os o gwbl, er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael eu diogelu'n briodol. 

Caiff eich data eu storio'n ddiogel a'u trin yn unol â safonau diogelwch Llywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich data am 10 mlynedd ar ôl cau'r mater yn unol â'r gofynion archwilio.

 

Eich Hawliau

Mae gennych yr hawl i'r canlynol:

  • Cael gafael ar y data personol rydym yn eu prosesu amdanoch
  • Cywiro anghywirdebau
  • Mewn amgylchiadau penodol, gwrthwynebu prosesu eich data neu ofyn i ddileu eich data
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

I gael rhagor o fanylion, neu i arfer eich hawliau, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data yn: swyddogdiogeludata@llyw.cymru neu ewch i Hysbysiad Preifatrwydd llawn AGIC

8. Ymholiadau a rhagor o wybodaeth

Os hoffech gael cymorth i gwblhau'r ffurflenni neu os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am y broses a amlinellir yn y canllawiau hyn, cysylltwch ag AGIC ar 0300 062 8163 neu anfonwch neges e-bost i HIWNotifiableEvents@llyw.cymru.

Atodiad A – Trosolwg o ddigwyddiadau y mae angen hysbysu amdanynt o dan Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011

Rhaid i'r Person Cofrestredig hysbysu AGIC am y digwyddiadau canlynol:

Categori'r digwyddiadRheoliadManylion y Digwyddiad Pwy ddylai gyflwyno'r hysbysiad Yr amserlen ar gyfer hysbysu Y ffurflen y mae angen ei chwblhau
Marwolaeth30

Marwolaeth claf y gellid ei gadw gan y person cofrestredig:

 

  • o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Deddf 1983); neu

 

  • yn unol â gorchymyn neu gyfarwyddyd a wnaed o dan ddeddfiad arall (sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru), lle mae'r camau hynny i gadw'r claf yn weithredol fel pe bai'r gorchymyn neu'r cyfarwyddyd wedi'i wneud yn unol â darpariaethau Deddf 1983. 

Gwybodaeth sy'n ofynnol gan AGIC

 

Sicrhewch fod yr hysbysiad cychwynnol yn cynnwys yr amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth y claf, gan gynnwys y gofal a'r driniaeth a ddarparwyd. Yn dilyn hynny, bydd yn ofynnol i AGIC gael gwybod achos ardystiedig y farwolaeth, yn ogystal â chanlyniadau unrhyw ymchwiliad mewnol neu allanol a gwblhawyd, cyn cau'r hysbysiad. 

Y SefydliadO fewn 24 awr gan ddechrau gyda'r digwyddiad dan sylw ac, os rhoddwyd gwybod ar lafar, rhaid rhoi cadarnhad ysgrifenedig o fewn 72 awr i'r hysbysiad llafar. NE2a
Absenoldeb heb awdurdod30

Absenoldeb heb awdurdod claf a gedwir neu y gellid ei gadw gan y person cofrestredig:

 

  • o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Deddf 1983); neu

 

  •  yn unol â gorchymyn neu gyfarwyddyd a wnaed o dan ddeddfiad arall (sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru), lle mae'r camau hynny i gadw'r claf yn weithredol fel pe bai'r gorchymyn neu'r cyfarwyddyd wedi'i wneud yn unol â darpariaethau Deddf 1983.

 

Gwybodaeth sy'n ofynnol gan AGIC

Sicrhewch fod yr hysbysiad cychwynnol yn amlinellu'r amgylchiadau a arweiniodd at yr absenoldeb heb awdurdod a'r camau a gymerwyd ar unwaith gan y sefydliad. O fewn yr hysbysiad cychwynnol, cadarnhewch a yw'r claf wedi dychwelyd i'r sefydliad ers hynny, yn ogystal â'r camau cychwynnol i atal digwyddiad tebyg rhag digwydd.

 

Yn Rhan B, sicrhewch fod manylion wedi'u cynnwys sy'n amlinellu'r camau a gymerwyd i atal unrhyw achosion pellach o absenoldeb heb awdurdod yn achos y claf perthnasol. 

Y SefydliadO fewn 24 awr NE3a
Marwolaeth31

Marwolaeth claf:

 

(i) mewn sefydliad

 

(ii) yn ystod triniaeth a ddarparwyd mewn sefydliad neu at ddibenion sefydliad neu at ddibenion asiantaeth, neu

 

(iii) o ganlyniad i driniaeth a ddarparwyd mewn sefydliad neu at ddibenion sefydliad neu at ddibenion asiantaeth.

 

Gwybodaeth sy'n ofynnol gan AGIC

 

Sicrhewch fod yr hysbysiad cychwynnol yn cynnwys yr amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth y claf, gan gynnwys y gofal a'r driniaeth a ddarparwyd.  Yn dilyn hynny, bydd yn ofynnol i AGIC gael gwybod achos ardystiedig y farwolaeth, yn ogystal â chanlyniadau unrhyw ymchwiliadau mewnol neu allanol a gwblhawyd, cyn cau'r hysbysiad. Os cynhelir cwest gan Grwner, cyfrifoldeb y sefydliad perthnasol yw rhoi diweddariad ar achos ardystiedig y farwolaeth pan fydd ar gael. 

(i) Y Sefydliad

(ii) Y Sefydliad a'r Asiantaeth 

(iii) Y Sefydliad a'r Asiantaeth 

O fewn 24 awr gan ddechrau gyda'r digwyddiad dan sylw ac, os rhoddwyd gwybod ar lafar, rhaid rhoi cadarnhad ysgrifenedig o fewn 72 awr i'r hysbysiad llafar.Mewn hosbis, defnyddiwch Ffurflen NE1a; fel arall defnyddiwch Ffurflen NE2a
Marwolaeth31

Marwolaeth mewn cysylltiad â therfynu beichiogrwydd yn y 12 mis diwethaf.  

Os yw'r person cofrestredig yn cael gwybodaeth am farwolaeth claf sydd wedi terfynu beichiogrwydd mewn ysbyty annibynnol yn ystod y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar y dyddiad y cafwyd y wybodaeth; a bod ganddo reswm dros gredu y gallai marwolaeth y claf fod yn gysylltiedig â therfynu'r beichiogrwydd, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i AGIC o'r wybodaeth honno, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod y cafwyd y wybodaeth.

Y Sefydliad14 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod y cafwyd y wybodaeth  NE2a
Anafiadau difrifol31

Er bod AGIC yn cydnabod nad yw 'anaf difrifol' yn cael ei ddiffinio gan y rheoliadau, mae ein dehongliad o'r hyn y mae angen hysbysu amdano o dan Reoliad 31 fel a ganlyn:

a) unrhyw ddigwyddiadau sy'n arwain at y claf yn mynd i ysbyty neu lle y cafwyd cyngor y dylai'r claf fynd i ysbyty, p'un a aeth y claf ai peidio.

 

b) Unrhyw ddigwyddiadau a oedd yn golygu bod yn rhaid i’r claf gael triniaeth gan naill ai feddyg neu nyrs gymwysedig

 

c) Pob   ‘Digwyddiad Byth’. Mae Digwyddiadau Byth yn ddigwyddiadau difrifol sy'n ymwneud â diogelwch cleifion, y gellid eu hatal i raddau helaeth, na ddylent ddigwydd os yw'r mesurau ataliol sydd ar gael wedi'u rhoi ar waith.  

 

d) Unrhyw ddigwyddiadau lle bu'n rhaid trosglwyddo claf i ysbyty annibynnol arall neu un o ysbytai'r GIG oherwydd cymhlethdodau gyda’i driniaeth / llawdriniaeth.

 

e) Unrhyw ddigwyddiadau yn ymwneud ag anafiadau i aelodau o'r staff o ganlyniad i weithredoedd cleifion, lle roedd angen iddynt gael asesiad a/neu driniaeth feddygol gan feddyg neu nyrs gymwysedig

 

Gwybodaeth sy'n ofynnol gan AGIC

 

Mae digwyddiadau y mae'n rhaid rhoi gwybod i AGIC amdanynt yn unol â'r manylion uchod hefyd yn cynnwys:

 

  • Unrhyw ymgais gan glaf i anafu ei hun drwy glymu sy'n gofyn am unrhyw fath o ymyriad gan staff 

 

  • Unrhyw achos tagu bwriadol neu ddamweiniol sy’n ymwneud â chlaf yn llyncu neu'n ceisio llyncu eitemau, sy’n gofyn am unrhyw fath o ymyriad gan staff

 

  • Unrhyw wallau o ran meddyginiaeth sy'n gofyn am asesiad neu driniaeth bellach gan feddyg neu nyrs gymwysedig

 

  • Briwiau pwyso claf

 

  • Os yw'r claf yn cael briwiau pwyso (gradd 2 neu'n uwch) pan fydd o dan ofal y sefydliad

     

  • Os yw'r claf yn cael ei dderbyn i'r sefydliad â briwiau pwys

 

  • o gradd 2 neu'n uwch 

 

  • Os yw'r claf yn cael ei dderbyn i'r sefydliad ag unrhyw friwiau pwyso sy'n gwaethygu, ni waeth beth yw'r radd 

 

  • Os yw'r claf yn cael unrhyw friwiau pwyso o ganlyniad i arferion gwael, esgeulustod neu gamdriniaeth
Sefydliad ac AsiantaethO fewn 24 awr gan ddechrau gyda'r digwyddiad dan sylw ac, os rhoddwyd gwybod ar lafar, rhaid rhoi cadarnhad ysgrifenedig o fewn 72 awr i'r hysbysiad llafar.Ffurflen NE4a
Brigiad o achosion o glefyd heintus31

Brigiad o achosion o unrhyw glefyd heintus mewn sefydliad, sydd, ym marn unrhyw ymarferydd meddygol a gyflogir yn y sefydliad, yn ddigon difrifol i hysbysu amdano.

 

Dylai'r sefydliad gyfeirio at ganllawiau cyfredol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ganfod a oes brigiad wedi bod, er mwyn penderfynu a oes cyflwyno hysbysiad i AGIC.

 

Gwybodaeth sy'n ofynnol gan AGIC

Sicrhewch fod yr hysbysiad cychwynnol yn rhoi manylion am y clefyd heintus a nifer yr unigolion yr effeithiwyd arnynt, yn cynnwys cleifion a staff. Dylai'r hysbysiad cychwynnol gynnwys gwybodaeth am y camau a gymerwyd ar unwaith i atal trosglwyddiad pellach.

 

Dylai'r hysbysiad dilynol roi diweddariad i AGIC ar y brigiad ac amlinellu'r mesurau cyfredol ac arfaethedig i atal achosion yn y dyfodol. 

Y SefydliadO fewn 24 awr gan ddechrau gyda'r digwyddiad dan sylw ac, os rhoddwyd gwybod ar lafar, rhaid rhoi cadarnhad ysgrifenedig o fewn 72 awr i'r hysbysiad llafar.Ffurflen NE5a
Honiad o gamymddwyn 31

Unrhyw honiad o gamymddwyn sy'n arwain at niwed / gamdriniaeth wirioneddol neu bosibl i glaf gan unrhyw berson sy'n cael ei gyflogi yn y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad.

 

Gwybodaeth sy'n ofynnol gan AGIC

Gall y mathau o honiadau gwmpasu categorïau amrywiol, gan gynnwys y canlynol, ymhlith eraill:

 

  • Unrhyw aelod o'r staff yn cam-drin claf yn gorfforol, yn rhywiol, yn eiriol neu'n ariannol 

 

  • Unrhyw achos o aelod o'r staff yn esgeuluso claf 

 

  • Methiant gan staff i ddilyn y cynlluniau gofal rhagnodedig / asesiadau risg sydd ar waith ar gyfer y cleifion

 

  • Gwallau o ran meddyginiaeth 

 

  • Noder, rhaid hefyd hysbysu AGIC os bydd honiadau a ddaw i law yn ymwneud ag unrhyw staff asiantaeth neu locwm sy'n gweithio yn y sefydliad. 

 

Dylai'r hysbysiad cychwynnol amlinellu'r digwyddiad a arweiniodd at niwed gwirioneddol neu bosibl i'r claf/cleifion.

Dylai gynnwys y camau a gymerwyd ar unwaith i ddiogelu'r claf, yn ogystal â manylion am unrhyw gamau a gymerwyd yn erbyn yr aelod o'r staff neu unrhyw fesurau a roddwyd ar waith. Dylai'r hysbysiad dilynol ddarparu canlyniadau unrhyw ymchwiliadau mewnol neu allanol a gynhaliwyd, yn ogystal â'r camau a gymerwyd i atal digwyddiadau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol. 

Y SefydliadO fewn 24 awr ar ôl i'r honiad gael ei wneud ac, os rhoddwyd gwybod ar lafar, rhaid rhoi cadarnhad ysgrifenedig o fewn 72 awr i'r hysbysiad llafar. Ffurflen NE6a
Amddifadu o Ryddid31
  • Cais i gorff goruchwylio a ddiffinnir o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, a wnaed gan y darparwr cofrestredig neu’r rheolwr cofrestredig am awdurdodiad safonol o dan y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid, gan gynnwys canlyniad y cais hwnnw. 
  • Unrhyw gais i'r llys mewn perthynas ag amddifadu claf o'i ryddid.

 

Gwybodaeth sy'n ofynnol gan AGIC

 

Dylid darparu manylion clir am y rhesymeg dros y ceisiadau.  Rhaid rhoi diweddariad ychwanegol i AGIC ar gynnydd neu ganlyniad unrhyw geisiadau a wnaed gan y sefydliad ar ran cleifion. Os bydd y cais o dan y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yn mynd y tu hwnt i 28 diwrnod, dylech roi diweddariad i AGIC ar y trefniadau sydd ar waith i roi gofal a thriniaeth barhaus i’r claf. 

Sefydliad ac AsiantaethO fewn 24 awr gan ddechrau gyda'r digwyddiad dan sylw ac, os rhoddwyd gwybod ar lafar, rhaid rhoi cadarnhad ysgrifenedig o fewn 72 awr i'r hysbysiad llafar.Ffurflen NE7a

 

Dogfennau