Neidio i'r prif gynnwy

Cofrestru - Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

A oes angen i mi gofrestru?

Os hoffech ddarparu'r gwasanaethau canlynol mewn sefydliad (lleoliad sefydlog) yng Nghymru mae'n bosibl y bydd angen i chi gofrestru â ni cyn y gallwch wneud hynny.

  • Practisau deintyddol preifat
  • Gwasanaethau gofal iechyd annibynnol
    • Ysbytai annibynnol
    • Clinigau annibynnol
    • Asiantaethau meddygol annibynnol

Rhaid i unrhyw bractis deintyddol yng Nghymru sydd am ddarparu triniaeth breifat gofrestru ag AGIC yn gyntaf.

Os bydd unrhyw amheuaeth, anfonwch ffurflen ymholiad cofrestru i'r cyfeiriad e-bost cofrestru a byddwn yn darparu ymateb pendant.

Ymholiadau Laser/IPL

A oes angen i mi gofrestru os ydw i'n defnyddio peiriant laser/IPL?

el arfer, rhaid i bob lleoliad yng Nghymru sydd am ddarparu unrhyw driniaethau gan ddefnyddio laser dosbarth 3B/4 neu ddyfais IPL gofrestru ag AGIC yn gyntaf. Fodd bynnag, gall fod rhai eithriadau i'r rheol, felly dylech anfon ffurflen ymholiad cofrestru. Wedyn, bydd y Tîm Cofrestru yn darparu ymateb pendant.

Sut galla i gael gwybod pa ddosbarth yw fy laser?

Cysylltwch â'r gwneuthurwr am fwy o wybodaeth.

Sut galla i gael gwybod a yw laser/IPL yn cydymffurfio cyn ei brynu?

Cysylltwch â'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).

Rwyf am ddarparu gwasanaethau yng nghartref yr unigolyn ei hun, a oes angen i mi gofrestru ag AGIC?

Nac oes.

Rwy'n Ymarferydd Meddygol (ac wedi cofrestru â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol) a oes angen i mi gofrestru ag AGIC?

Oes, os byddwch yn darparu gwasanaeth meddygol neu'n ymwneud â darparu gwasanaeth meddygol nad yw'n gysylltiedig â'r GIG mewn unrhyw ffordd.

Rwy'n Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol (ac wedi cofrestru â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac ati) a oes angen i mi gofrestru ag AGIC i ddarparu gwasanaeth?

Nac oes fel arfer, ond dylech anfon ffurflen ymholiad cofrestru yn nodi gwybodaeth bellach.

Sut i gofrestru?

Mae dolenni i'r canllawiau a'r ffurflenni gwneud cais:

Rwyf wedi cofrestru ond rwyf am symud i leoliad newydd

ydd angen i'r lleoliad/practis gofrestru eto. Anfonwch e-bost i'r blwch negeseuon e-bost Cofrestru. Mae'n bosibl na fydd angen yr holl wybodaeth y byddai ei hangen ar gyfer cofrestriad cwbl newydd.

Rwyf eisoes wedi cofrestru ond mae'r Rheolwr Cofrestredig yn awyddus i ddadgofrestru

Sut galla i roi gwybod i AGIC bod yr Unigolyn Cyfrifol (UC) wedi newid?

Bydd angen anfon ffurflen newid Unigolyn Cyfrifol

Cofrestru rheolwr newydd ar gyfer lleoliad/practis sydd eisoes wedi cofrestru?

Rwyf eisoes wedi cofrestru ond rwyf am newid fy amodau (ychwanegu, newid, dileu)

Gelwir hyn yn amrywio cofrestriad

Sut galla i ganslo fy nghofrestriad?

Sut galla i roi gwybod i AGIC am aelodau newydd o staff?

  • Gofal Iechyd Annibynnol – E-bostiwch fersiynau diwygiedig o'ch Datganiad o Ddiben a'ch Canllaw i Gleifion.
  • Deintyddol – E-bostiwch fersiynau diwygiedig o'ch Datganiad o Ddiben a'ch taflen wybodaeth i gleifion.

Oes angen i mi dalu i gofrestru?

  • Gofal Iechyd Annibynnol – Oes. Mae gwahanol ffioedd ar gyfer gwahanol leoliadau. Gellir dod o hyd i'r symiau perthnasol ar ein gwefan.
  • Deintyddol – Nac oes.

*Mae rhai eithriadau (hosbisau/elusennau), gall y tîm Cofrestru gadarnhau'r eithriadau hyn.

Ymholiadau Ffi

Oes angen i mi dalu ffi flynyddol?

Oes, mae angen talu ffioedd blynyddol er mwyn cynnal y cofrestriad.

Gellir dod o hyd i'r symiau perthnasol ar ein gwefan:

Sut galla i dalu?

Byddwch yn cael anfoneb. Dylech aros am yr anfoneb, bydd yn cynnwys cyfarwyddiadau o ran sut i dalu. Caiff ei hanfon drwy e-bost fel arfer, a bydd yn aml yn mynd i'r ffolder Sothach/Sbam.

Gofal Iechyd Annibynnol – Tua blwyddyn ar ôl i chi gofrestru.

Deintyddol – Tua mis Ebrill bob blwyddyn.

Yn cael trafferth wrth dalu'r ffioedd

Cysylltwch â'r rhif ffôn Gwasanaethau a Rennir ar yr anfoneb i drafod ymhellach.

A fyddaf/fyddwn yn cael tystysgrif bob blwyddyn?

Na. Dim ond adeg cofrestru y caiff tystysgrifau eu cyflwyno ac os bydd newid.

Os bydd tystysgrifau wedi'u colli/difrodi, gellir cael copïau ohonynt drwy anfon e-bost i'r blwch negeseuon e-bost Cofrestru.

Ni chaiff tystysgrifau eu hanfon drwy e-bost. Byddant yn cael eu hanfon at y lleoliad/practis drwy'r post.

Ymholiadau DBS

Oes angen tystysgrif DBS arnaf?

Os ydych yn gwneud cais i ddod yn Rheolwr Cofrestredig neu'n Unigolyn Cyfrifol, oes.

Bydd angen i'r dystysgrif ddangos eich bod wedi cael gwiriad DBS manylach a'i fod wedi'i gynnal yn ystod y tair blynedd diwethaf. Oni bai eich bod wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth diweddaru a'ch bod wedi rhoi caniatâd i ni wirio'r wybodaeth ar-lein.

Gofal Iechyd Annibynnol – Rhaid iddo gael ei gynnal gan AGIC.

Deintyddol – Nid oes yn rhaid iddo gael ei gynnal gan AGIC.

Sut galla i wneud cais am wiriad gan y DBS?

Gofal Iechyd Annibynnol - Bydd pecyn cais DBS copi caled yn cael ei bostio i'ch cyfeiriad cartref (oni bai ei fod yn cael ei ofyn yn rhywle arall) ar ôl derbyn ffurflen gais.

Deintyddol – Gellir gwneud ceisiadau ar-lein drwy gorff ambarél.

Rwyf eisoes wedi cofrestru, oes angen i mi adnewyddu fy ngwiriad DBS ar ôl 3 blynedd?

Nac oes, fel Rheolwr Cofrestredig / Unigolyn Cyfrifol nid yw'n ofynnol i chi adnewyddu eich gwiriad DBS unwaith y byddwch wedi cofrestru.

(Mae'n ofynnol i wasanaethau sicrhau bod aelodau o staff yn addas i weithio, gall hyn gynnwys cwblhau gwiriadau DBS o bryd i'w gilydd – bydd angen ystyried polisïau lleol).

Gwiriadau DBS ar gyfer aelodau eraill o staff mewn lleoliadau / practisau

Dim ond at ddibenion cofrestru y gall AGIC gynnal gwiriadau DBS ar gyfer Rheolwyr Cofrestredig ac Unigolion Cyfrifol. Ni all AGIC gynnal gwiriadau ar gyfer aelodau eraill o staff mewn lleoliad/practis. Bydd corff ambarél yn gallu cynnal gwiriadau.

Beth yw rhif fy nhystysgrif/(cofrestriad)?

Y rhif ar ochr dde pob dalen o'r dystysgrif (tua hanner ffordd i lawr/ar waelod), sy'n dechrau â HIW/0...

Mae gan y Rheolwr Cofrestredig a'r Sefydliad wahanol rifau.

Sut galla i wneud cwyn am ddarparwr gofal iechyd annibynnol?

Cysylltwch â'r person neu'r sefydliad sy'n darparu/a oedd yn darparu'r gwasanaeth. Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid bod ganddynt weithdrefn ar gyfer delio â chwynion cleifion.

Gallwch hefyd rannu eich pryderon â ni. Nid ydym yn gallu ymchwilio i gwynion unigol ond gallwn gadarnhau bod y gwasanaeth yn bodloni'r rheoliadau a'r safonau fel y'u nodir yn nhelerau eu cofrestriad â ni. Cysylltwch â ni drwy'r ddolen ganlynol.

Rwyf am ddefnyddio logo AGIC

Dim ond gwasanaethau/practisau sydd wedi cofrestru â ni all ofyn am ganiatâd i ddefnyddio ein logo. Cwblhewch a chyflwynwch y cais hwn.  Ar ôl prosesu'r cais, byddwn yn anfon logo mewn fformat addas i chi ei ddefnyddio.

Dweud eich dweud ar ein proses gofrestru

Rydym wrthi'n ystyried y ffordd rydym yn rheoli'r broses gofrestru er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio yn y ffordd fwyaf craff posibl.

Byddwch cystal â threulio rhywfaint o amser yn ateb y cwestiynau isod yn onest, a chofiwch nad newid y gyfraith yw'r bwriad yma, ond ceisio symleiddio'r broses o gofrestru ag AGIC. Diolch am eich amser a'ch adborth.

Cwblhewch ein harolwg byr.