Neidio i'r prif gynnwy

Ydych chi'n ymwybodol o Rybuddion Diogelwch Cleifion?

Canllawiau i ddarparwyr gwasanaethau cofrestredig

Canllawiau a'ch cyfrifoldebau!

Fel darparwr gwasanaeth cofrestredig, rydym am eich atgoffa o'ch cyfrifoldeb o dan Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 a Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017.

Yn unol â'r rheoliadau hyn, fel y person cyfrifol, rhaid i chi fod yn ymwybodol o unrhyw arweiniad a gyhoeddir gan yr awdurdod cofrestru neu'r corff arbenigol priodol mewn perthynas â thrin a defnyddio meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys gwneud trefniadau priodol ar gyfer caffael, cofnodi, trin, defnyddio, cadw'n ddiogel, dosbarthu, gweini a gwaredu meddyginiaethau ac unrhyw ddyfeisiau meddygol yn ddiogel a ddefnyddir yn neu at ddibenion eich sefydliad neu asiantaeth.

Fel yr unigolyn cofrestredig, rhaid i chi amddiffyn cleifion rhag y risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio a rheoli meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol mewn ffordd anniogel, a sicrhau y gall cleifion a staff gael cyngor a gwybodaeth ynghylch unrhyw feddyginiaethau neu ddyfeisiau meddygol a ddefnyddir yn eich lleoliad.

Yn unol â hyn, dylech sicrhau eich bod yn gyfarwydd â'r rhybuddion diogelwch cleifion a gyhoeddir i roi gwybodaeth i chi gan Lywodraeth Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Mae'r bwletinau hyn yn rhoi cyngor ar ddiogelwch i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a'ch cleifion. Eich cyfrifoldeb chi yw gweithredu ar y rhybuddion gwybodaeth a'u rhannu â'ch cydweithwyr. Mae'r rhain yn aml yn amrywio o rybuddion, negeseuon adalw a gwybodaeth am ddiogelwch sy'n ymwneud â meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol.

Gellir gweld rhai ohonynt drwy ddilyn y dolenni cysylltiedig.