Defnyddiwch y ffurflen hon i ddweud wrthym am y gwasanaeth rydych am ei ddarparu. Er mwyn ein helpu i benderfynu a oes angen i chi gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) atebwch yr holl gwestiynau a rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl.
Byddwn yn gwneud penderfyniad ar sail y wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn y ffurflen hon. Fodd bynnag, os bydd eich amgylchiadau'n newid mewn unrhyw ffordd yn dilyn ein hymateb, dylech wirio â ni unwaith eto.
Mae'n drosedd o dan Adran 11 o'r Ddeddf Safonau Gofal i gynnal neu reoli sefydliad gofal iechyd annibynnol neu practis deintyddol preifat heb gofrestru. Gall methu â chofrestru pan fo angen arwain at gamau cyfreithiol yn eich erbyn.
Llenwch y ffurflen isod os gwelwch yn dda. Os yw'n well gennych, mae fersiwn Word y gellir ei hargraffu hefyd ar gael i'w lawrlwytho isod.
Dogfennau
-
Ffurflen Ymholiad Cofrestru , math o ffeil: DOC, maint ffeil: 213 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:213 KB