Neidio i'r prif gynnwy

Bwletin Arsylwi - Mawrth 2024

Bwletin Arsylwi Insight Bulletin

Croeso i'n rhifyn diweddaraf o Fwletin Arsylwi AGIC

Bob chwarter, rydym yn rhannu ein newyddion diweddaraf ac yn tynnu sylw at themâu allweddol a gwersi a ddysgwyd sy'n codi yn ein gwaith. Mae'n rhan o'n hymrwymiad i ddeall disgwyliadau ein rhanddeiliaid yn well, mynd ati i ymgysylltu, rhannu ein canfyddiadau ac adrodd ar ein gweithgarwch.

Rydym yn credu ei bod yn werthfawr iawn rhannu gwersi a ddysgwyd a phrofiadau o'n gwaith. Rydym am i wasanaethau gofal iechyd fyfyrio ar ein canfyddiadau a mesur eu gwasanaethau eu hunain yn erbyn y canfyddiadau, er mwyn sbarduno gwelliannau i wasanaethau. Rydym yn gobeithio y bydd modd i'r canfyddiadau a ddangosir yn y bwletin hwn gael eu trosglwyddo rhwng sefydliadau, ac ar draws y gwasanaeth iechyd ehangach er mwyn cefnogi gwelliannau ym mhob rhan o'r system.

Fel rhan o'n hymrwymiad cyson i welliant parhaus, yn y rhifyn hwn rydym yn edrych yn fanwl ar yr argymhellion a nodwyd yn dilyn ein hadolygiad o'r trefniadau rhyddhau cleifion o wasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM).

Yn sgil ein gwaith arolygu a sicrwydd rydym wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau, sy'n tynnu sylw at feysydd i'w gwella ac arferion da, ochr yn ochr â phroblemau difrifol o ran systemau a diogelwch cleifion yn y GIG ac ymhlith darparwyr gofal iechyd annibynnol.

Yn y rhifyn hwn, rydym hefyd yn tynnu sylw at ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-2023, gan edrych yn ôl ar ein gwaith a'n canfyddiadau allweddol dros gyfnod o 12 mis, lle gwnaethom ymgymryd â 178 o ddarnau o waith arolygu a sicrwydd.

Rydym yn myfyrio ar gynhadledd gyntaf Partneriaeth Ewropeaidd y Sefydliadau Goruchwylio Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'w chynnal yng Nghymru, a elwir hefyd yn EPSO. Mae EPSO yn fforwm gwerthfawr lle mae arolygiaethau a rheoleiddwyr o Ewrop a thu hwnt yn rhannu gwersi a ddysgwyd a datblygiadau arloesol. 

Cynhaliwyd ein cynhadledd wyneb yn wyneb gyntaf i'n holl staff ers y pandemig, er mwyn ailgysylltu a rhannu gwersi a ddysgwyd. Ymunodd y siaradwr ysbrydoledig Nazir Afzal OBE â ni, a siaradodd am anghydraddoldebau ym maes gofal iechyd a chymelliant gan arweinwyr.

Gobeithio y bydd cynnwys y bwletin hwn yn rhoi gwybodaeth a dirnadaethau defnyddiol i chi.

Mae eich adborth yn hollbwysig i ni o ran gwella'r ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn rhannu negeseuon allweddol â chi, felly beth am achub ar y cyfle i roi eich adborth i ni drwy'r arolwg hwn.

Diolch.

Diweddariad Busnes

Ein Hadroddiad Blynyddol Diweddaraf

arolygiaeth gofal iechyd cymru adroddiad blynyddol 2022-2023

Rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol diweddaraf ar gyfer 2022-2023, yn crynhoi ein gweithgarwch, gan gynnwys arolygu gwasanaethau gofal iechyd y GIG a gwasanaethau gofal iechyd annibynnol. Mae'r adroddiad yn nodi'r pwysau parhaus ar wasanaethau gofal iechyd ledled Cymru, ac yn tynnu sylw at risgiau yn ymwneud â gofal brys, pryderon ynghylch staffio, llif cleifion gwael a'r gallu i gael apwyntiadau.

Mae'r adroddiad yn amlinellu sut rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar ddiogelwch cleifion drwy ein gwaith arolygu a sicrwydd drwy herio gwasanaethau gofal iechyd i edrych am ffyrdd gwahanol o weithio i wella canlyniadau i gleifion.

Mae ein hadroddiad yn nodi sut y gwnaethom gyflawni ein swyddogaethau ledled Cymru, gan geisio sicrwydd ar ansawdd a diogelwch gofal iechyd drwy amrywiaeth o weithgareddau.

Yn ystod y flwyddyn, rydym wedi cynnal 178 o ddarnau o waith arolygu a sicrwydd ac wedi ymdrin â 659 o bryderon gan y cyhoedd a staff gofal iechyd.

EPSO yng Nghymru

EPSO yng Nghymru

Gwnaethom gynnal cynhadledd gyntaf Partneriaeth Ewropeaidd y Sefydliadau Goruchwylio Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (EPSO) i'w chynnal yng Nghymru fis Hydref diwethaf. Cynhaliwyd 35ain gynhadledd EPSO yn stadiwm byd-enwog y Principality yng Nghaerdydd â 74,000 o seddi, sy'n gartref i rygbi Cymru. Daeth niferoedd da o weithwyr proffesiynol arolygu a rheoleiddio iechyd a gofal cymdeithasol o Ewrop, Asia, Awstralia, Seland Newydd a'r Dwyrain Canol i'r gynhadledd. 

Bu'r gynhadledd yn llwyfan ardderchog i rwydweithio a rhannu gwersi ar amrywiaeth o bynciau megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, dulliau effeithiol o reoleiddio ac arolygu, gan gynnwys ffocws ar ddiwylliannau gwella mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion.

Edrychwch ar ein fideo byr o'r uchafbwyntiau.

Ein Hymrwymiad i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), byddwn yn cyhoeddi ein strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y cyd yn y gwanwyn. Nod y strategaeth yw sbarduno gwelliannau a dangos ein hymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, er mwyn mynd i'r afael â'n cyfrifoldebau cymdeithasol fel rheoleiddwyr ac arolygiaethau i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael gafael ar ofal o ansawdd da.

Bydd y strategaeth yn annog gwell defnydd o wybodaeth am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i lywio ein gwaith rheoleiddio, arolygu a sicrwydd. Byddwn, yn ein tro, yn fwy ymwybodol o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn eu deall yn well, a'r camau gweithredu sydd eu hangen i wella'r gwasanaethau gofal iechyd a ddarperir i gymunedau amrywiol ledled Cymru.

Bydd y strategaeth ar y cyd hefyd yn gwella cysylltiadau a phrosesau rhannu gwybodaeth, gan gynnwys arferion da i wella ansawdd y gofal a ddarperir gan wasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau gofal plant ledled Cymru.

Rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar Fonitro Iechyd Meddwl ar gyfer 2022-2023

Monitro Ysbytai Iechyd Meddwl, Ysbytai Anableddau Dysgu a'r Ddeddf Iechyd Maddwl Adroddiad Blynyddol 2022 -2023

Mae'r adroddiad yn nodi ein gweithgareddau sicrwydd a'n canfyddiadau yn ystod y cyfnod o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023, ac mae'n ystyried y safonau gofal a ddarparwyd gan wasanaethau gofal iechyd meddwl ac anableddau dysgu ledled Cymru yn ystod y cyfnod hwn.

Mae gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu yn parhau i wynebu llawer o heriau sy'n effeithio ar ganlyniadau i gleifion. Mae pwysau difrifol ar welyau cleifion mewnol o hyd ac mae byrddau iechyd a darparwyr gofal annibynnol yn wynebu llawer o heriau wrth ddarparu ystod o wasanaethau amrywiol i gleifion sy'n agored i niwed.

Er bod ein gwaith wedi ein galluogi i arsylwi ar rai enghreifftiau o arferion da mewn agweddau gwahanol ar ddarparu gwasanaethau, roedd angen gwelliant sylweddol yn aml ac roedd cryn dipyn o amrywiaeth o ran ansawdd y gofal a ddarparwyd.

Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2022-23 ar y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid

trefniadau diogelu rhag colli rhyddid adroddiad monitro blynyddol ar gyfer gofal cymdeithasol a iechyd 2022-23

Rydym ni, ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), yn gyfrifol am fonitro'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) a chyflwyno adroddiadau arnynt, a bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar y ceisiadau a gyflwynir i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol.

Ymhlith y canfyddiadau allweddol mae cynnydd yn nifer y ceisiadau a gyflwynir i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ac oedi mawr wrth ddyrannu ceisiadau, edrych arnynt a'u hawdurdodi.

Hyfforddiant i Arolygwyr yn sgil Digwyddiad yn ymwneud ag OFSTED

Fel arolygiaeth a rheoleiddiwr, rydym wedi myfyrio ar yr adroddiad ar Atal Marwolaethau yn y Dyfodol a gyhoeddwyd gan y crwner mewn perthynas ag Ofsted. Ofsted yw'r Swyddfa Safonau mewn Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau. Mae Ofsted yn arolygu gwasanaethau sy'n darparu addysg a sgiliau i ddysgwyr o bob oedran. Mae Ofsted hefyd yn arolygu ac yn rheoleiddio gwasanaethau sy'n gofalu am blant a phobl ifanc.

Yn unol ag ethos AGIC, mae ein gwaith arolygu a sicrwydd yn broses gefnogol, sy'n anelu at helpu i sbarduno a llywio gwelliannau. Fel rhan annatod o'r dull gweithredu hwn, rydym yn anelu at ymgysylltu mewn ffordd gadarnhaol ac adeiladol â staff drwy gydol y broses arolygu. O ystyried natur debyg ein rolau a'n swyddogaethau, rydym wedi gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i ddatblygu hyfforddiant pwrpasol i'n harolygwyr er mwyn cydnabod y materion a nodwyd gan y crwner.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn canolbwyntio ar alluogi arolygwyr a thimau i adnabod arwyddion o ofid meddwl o ganlyniad i arolygiadau, a sut i ymdrin â'r amgylchiadau hyn, gan gynnwys sut i gyfleu negeseuon anodd gan gefnogi iechyd meddwl a llesiant ar yr un pryd.

Mae AGIC yn gobeithio y bydd y camau hyn yn gwella'r ffordd y mae'n cyflawni ei swyddogaethau ac yn gwella'r profiad i'r rhai sy'n destun arolygiad.

Diweddariad ar Weithgarwch

Diweddariad ar Weithgarwch

Yn dilyn ymchwiliad troseddol diweddar, defnyddiodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ei phwerau cyfreithiol o ganlyniad i achos o dorri Deddf Safonau Gofal 2000.

Mae'n dilyn tystiolaeth bod gwasanaeth yn darparu triniaethau laser esthetig mewn clinig yng Nghaerdydd heb gofrestriad.

Rhoddwyd y rhybuddiad hwn ar ôl canfod bod y lleoliad yn gweithredu heb gofrestriad.

Fel rheoleiddiwr gwasanaethau gofal iechyd annibynnol yng Nghymru, rydym yn ymrwymedig i weithredu pan na chaiff safonau eu cyrraedd. Pan na fydd darparwr gofal iechyd annibynnol yn cydymffurfio â gofynion rheoliadol, byddwn yn gweithredu.

Mae'n ofynnol i ysbytai, clinigau ac asiantaethau meddygol annibynnol gofrestru ag AGIC.

 

Ydych chi eisoes wedi cofrestru ac am roi gwybod i ni bod rhywbeth wedi newid?

Os ydych wedi'ch cofrestru â ni a bod angen i chi newid cylch gwaith neu gwmpas y gwasanaethau rydych yn eu darparu, neu os yw'r person cyfrifol ar gyfer eich lleoliad wedi newid, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.

Er mwyn gwneud newidiadau i'ch cofrestriad ewch i'n gwefan i gael manylion llawn a'r ddogfennaeth berthnasol.

Gweithgarwch Sicrwydd ac Arolygu

Rydym yn arolygu gwasanaethau'r GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau er mwyn nodi meysydd y mae angen eu gwella. Yn dilyn ein gwaith arolygu a sicrwydd, byddwn yn cyhoeddi adroddiad sy'n amlinellu ein canfyddiadau a'n hargymhellion.

Newidiadau i'r Broses Gyhoeddi

Mae ein polisi cyhoeddi yn nodi ein bwriad, ar gyfer mathau penodol o arolygiadau, i roi manylion am ganfyddiadau arolygiadau i'r cyfryngau a rhanddeiliaid allweddol eraill, cyn iddynt gael eu cyhoeddi ac o dan embargo. Byddwn yn dilyn y broses hon ar gyfer arolygiadau o Adrannau Achosion Brys a Gwasanaethau Mamolaeth, p'un a oedd canfyddiadau'r arolygiad yn gadarnhaol neu'n negyddol. Caiff y broses hon ei defnyddio hefyd ar gyfer mathau eraill o arolygiad pan fydd y canfyddiadau yn arwyddocaol. Mae'r penderfyniad i gyflwyno'r broses hon yn cyflawni ymrwymiad strategol AGIC i sbarduno gwelliannau i systemau a gwasanaethau gofal iechyd.

Am ragor o wybodaeth: https://www.agic.org.uk/arolygu-gofal-iechyd

Adroddiadau Arolygu

Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i sbarduno gwelliannau drwy weithio'n glyfar, gwnaed penderfyniad i beidio â chyhoeddi adroddiad cryno ar wahân i'r cyhoedd ar ôl arolygiad. Bydd hyn yn helpu i symleiddio ein prosesau o ran effeithlonrwydd ac yn gwneud y defnydd gorau posibl o'n hadnoddau. Byddwn yn parhau i gyhoeddi adroddiad arolygu llawn a fydd yn cynnwys gwell crynodeb gweithredol ar ddechrau'r adroddiad.

Astudiaeth Achos o dan y Chwyddwydr - Arolygwyr yn nodi bod angen gwneud gwelliannau ar unwaith mewn ysbyty iechyd meddwl arbenigol yn Wrecsam

ward alwen a ward brenig ty grosvenor ysbyty iechyd meddwl

Gwnaethom gynnal arolygiad lle rhoddwyd rhybudd o ysbyty iechyd meddwl annibynnol Tŷ Grosvenor yn Wrecsam. Mae'r gwasanaeth yn darparu gofal arbenigol i ddynion dros 18 oed â chyflyrau iechyd meddwl a/neu anhwylderau personoliaeth.

Drwy ein proses pryderon, cawsom ein hysbysu nad oedd gan yr ysbyty weithdrefnau digonol ar waith mewn perthynas â rheoli meddyginiaethau. Yn dilyn arolygiad dilynol o'r ysbyty, penderfynodd AGIC y dylid gweithredu'r broses ar gyfer Gwasanaeth sy'n Peri Pryder yn achos Tŷ Grosvenor ym mis Tachwedd 2023. Mae'r broses hon yn rhan o weithdrefnau Uwchgyfeirio a Gorfodi AGIC ar gyfer sicrhau bod camau gweithredu cyflym yn cael eu cymryd lle ceir methiannau sylweddol o fewn gwasanaeth, neu pan fydd pryderon yn cronni am leoliad gofal iechyd.

Canfu'r arolygiad sawl mater lle roedd angen sicrwydd ar unwaith o ganlyniad i achosion o ddiffyg cydymffurfio mewn perthynas â chymhwyso'r Ddeddf Iechyd Meddwl, gan gynnwys cofnodi'r feddyginiaeth a roddir i gleifion yn anghywir.

Gwnaethom barhau i ymgysylltu ag Elysium Healthcare, sef cwmni rheoli Tŷ Grosvenor, i geisio sicrwydd pellach, ac ym mis Ionawr 2024, roeddem yn fodlon bod gwelliannau digonol wedi cael eu gwneud. Cafodd yr ysbyty ei isgyfeirio o fod yn Wasanaeth sy'n Peri Pryder yn dilyn hynny.

Mae'r cyhoeddiadau allweddol diweddaraf yn cynnwys:

Mae pob adroddiad a gyhoeddir ar gael yma: Dod o hyd i adroddiad arolygu.

Eisiau gwybod pryd y bydd adroddiadau AGIC yn cael eu cyhoeddi? Edrychwch ar ein Hamserlen Gyhoeddi.

Adolygiadau Cenedlaethol

Rydym yn cyhoeddi nifer o adolygiadau cenedlaethol a lleol bob blwyddyn.

Mae ein hadolygiadau yn ein helpu i werthuso'r ffordd y caiff gwasanaethau gofal iechyd eu darparu yng Nghymru.

Adolygiad ar y cyd o drefniadau amddiffyn plant (JICPA) ym Mhowys

Cyngor sir powys, bwrdd iechyd addysgu powys heddlu dyfed powys. Adroddiad ar yr Arolygiad ar y cyd o drefniadau anddiffyn Plant

 

Ar y cyd ag Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS), Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn, gwnaethom gynnal arolygiad ar y cyd o'r ymateb amlasiantaethol i gam-drin ac esgeuluso plant ym Mhowys.

Mae'r adroddiad yn nodi manteision gweithio mewn partneriaeth a gweithio amlasiantaethol. Roedd camau gweithredu fel arfer yn cael eu cymryd o fewn terfynau amser priodol, ac roedd cymorth a mesurau diogelwch ar waith i ddiwallu anghenion plant.

Fodd bynnag, mae'r adroddiad hefyd yn gwneud rhai argymhellion ar gyfer gwella, er enghraifft ei gwneud yn bosibl i blant gymryd rhan fwy gweithredol mewn fforymau gwneud penderfyniadau a'r angen i symleiddio systemau ar gyfer cofnodi gwybodaeth am ddiogelu.

Adolygiad Cymru Gyfan o Benderfyniadau Na Cheisier Dadebru Cardio-anadlol (DNACPR)

Nod ein hadolygiad yw ystyried yr arferion sydd ar waith pan gaiff penderfyniadau DNACPR eu cymhwyso at gleifion sy'n oedolion (dros 18 oed), ac a gaiff safbwyntiau ac ystyriaethau cleifion eu parchu. Bydd yr adolygiad yn anelu at ateb y cwestiwn canlynol - “A yw penderfyniadau DNACPR yn cael eu cyfleu mewn ffordd barchus i gleifion a'r rhai hynny sy'n agos atynt, ac a ydynt yn cael eu cofnodi a'u cyfleu'n glir rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol”.

Daw'r adolygiad i ben drwy gyhoeddi adroddiad cenedlaethol yn ystod gwanwyn 2024.

Sut mae gwasanaethau yn cefnogi anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru?

Rydym yn arwain adolygiad ar y cyd ag AGC ac Estyn i ystyried sut mae gwasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau plant yn cefnogi anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Nod yr adolygiad ar y cyd yw ystyried a yw plant a phobl ifanc yn cael cymorth amserol ac effeithiol i ddiwallu eu hanghenion iechyd meddwl. Daw'r adolygiad i ben drwy gyhoeddi adroddiad cenedlaethol ar y cyd yn ystod hydref 2024.

Bydd yr adroddiad yn nodi themâu allweddol a meysydd lle ceir arferion da a bydd yn gwneud argymhellion lle caiff gwelliannau gofynnol eu nodi drwy gydol yr adolygiad. 

Dysgu a Dealltwriaeth

Rhannu Dysgu a dealltwraeth er mwyn gwella gofal iechyd

Adolygu Trefniadau Rhyddhau Cleifion o Wasanaethau Iechyd Meddwl

Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd AGIC ei hadroddiad ar ôl adolygiad yn asesu ansawdd y trefniadau rhyddhau a oedd ar waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) ar gyfer oedolion a oedd yn cael eu rhyddhau o wasanaethau iechyd meddwl i gleifion mewnol i'r gymuned.

Gwnaeth yr adroddiad 40 o argymhellion ar gyfer gwella, ac wrth ystyried canfyddiadau'r adolygiad, roeddem am ddeall a oedd y materion a nodwyd yn codi mewn gwasanaethau iechyd meddwl eraill yng Nghymru. Felly, gofynnwyd i bob bwrdd iechyd ystyried yr adroddiad ac ymateb i'r argymhellion.

Cafodd AGIC ymatebion gan bob un o'r byrddau iechyd a dadansoddodd y wybodaeth a'r dystiolaeth ategol. Roedd ansawdd a manylder yr ymatebion yn amrywio, a'n bwriad yw y bydd yr ymarfer hwn yn llywio'r gweithgarwch sicrwydd parhaus rydym yn ei gynnal mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl. Y maes pwysicaf y mae angen ei gryfhau yw cyfathrebu a'r system rheoli cofnodion clinigol, er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael eu rhyddhau'n ddiogel ac yn parhau i gael gofal diogel ac amserol.

Er mwyn cael rhagor o ddeunydd darllen ar y materion a nodwyd o ymatebion y byrddau iechyd, ewch i'n hadran Dysgu a Dealltwriaeth.

Ymunwch â Ni!

Cyflwynodd Deddf Iechyd Meddwl 1983 y gwasanaeth Meddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn i ddiogelu hawliau cleifion a gedwir dan y Ddeddf, sydd naill ai'n gwrthod y driniaeth a ragnodwyd gan y clinigwr cymeradwy, neu y bernir nad yw'n alluog i gydsynio.  O Dachwedd 2008, cyflwynodd y Ddeddf Iechyd Meddwl ddiwygiedig fesurau diogelu ychwanegol yn ymwneud â thriniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth a therapi electrogynhyrfol. 

Nid rôl y SOAD yw rhoi ail farn glinigol yn y ffurf feddygol a ddeallir yn gonfensiynol, ond penderfynu a oes modd amddiffyn y driniaeth a argymhellir yn glinigol ac hefyd os oes ystyriaeth ddyladwy wedi cael ei rhoi i farn a hawliau'r claf. 

Mae'r Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn yn seiciatrydd ymgynghorol annibynnol a benodwyd gan AGIC i ymgymryd â'r swyddogaeth statudol hon ar ran Gweinidogion Cymru, a dim ond 'dod' yn SOAD pan gaiff ei benodi i roi ail farn ar unigolyn. AGIC sy'n gyfrifol am benodi SOADs ac am yr Gwasanaeth Adolygu ar gyfer Iechyd Meddwl.  

Mae manylion llawn y swydd wag a manylion am sut i wneud cais i'w gweld ar: Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn (SOAD) | Arolygiaeth Gofal Cymru (agic.org.uk)

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 30 Ebrill 2024.

Dweud eich Dweud

Rydym am glywed eich barn! Ewch i'n gwefan lle mae nifer o arolygon i gleifion ar agor ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu eich barn.

Mae pob arolwg sydd ar agor gennym bellach ar gael ar dudalen arolygon ein gwefan.

Munud i'w sbario? Hoffem gael eich barn chi ar ein Bwletin Arsylwi – dim ond ychydig o gwestiynau a dyna'r cyfan!