Neidio i'r prif gynnwy

Canmol Gwasanaethau Mamolaeth Canolfan Geni Tirion yn Llantrisant

Heddiw, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad, yn dilyn arolygiad o Ganolfan Geni Tirion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, a gaiff ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Canolfan Geni Tirion Ysbyty brenhinol morgannwg gwasanaethau mamolaeth

Cwblhaodd arolygwyr arolygiad dirybudd o wasanaethau mamolaeth yr ysbyty ar ddau ddiwrnod dilynol ym mis Hydref 2023, gan ganolbwyntio ar ofal mamolaeth cynenedigol, gofal mamolaeth yn ystod y cyfnod esgor a gofal mamolaeth ôl-enedigol. 

Nododd yr arolygwyr fod tîm o staff ymroddedig yno a oedd yn ymrwymedig i ddarparu gofal o safon uchel i fenywod a'u teuluoedd. Roedd y staff yn gweithio'n dda fel tîm i roi profiad cadarnhaol i fenywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth a oedd wedi'i deilwra at anghenion yr unigolyn. Roedd y ganolfan yn lân ac yn hygyrch, gan gynnig amgylchedd cartrefol a chroesawgar. Roedd menywod yn cael cyfleoedd i drafod eu hopsiynau geni, gan gynnwys trafodaethau ynghylch risg opsiynau amrywiol. Roedd adnoddau da ar gael yn y ganolfan ac roedd gofal ar gael 24/7, gan gynnwys cymorth bwydo ar y fron. 

Canfu'r arolygwyr lefelau cydymffurfiaeth uchel o ran cwblhau hyfforddiant gorfodol ymhlith y staff, gan gynnwys cyrsiau yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth. Roedd y strwythur rheoli bydwreigiaeth yn darparu llinellau adrodd ac atebolrwydd clir, ac roedd y rheolwyr yn weladwy ac yn hygyrch. 

Roedd prosesau ac archwiliadau sefydledig ar waith i reoli risg, trefniadau iechyd a diogelwch a threfniadau rheoli heintiau. Fodd bynnag, nodwyd mân feysydd i'w gwella, gan gynnwys rhai polisïau a oedd wedi dyddio.

Nododd yr arolygwyr broblemau o ran storio meddyginiaeth a chyfarpar yn ddiogel, ac aeth y staff i'r afael â'r rhain a'u datrys yn gyflym yn ystod y broses arolygu. 

Roedd prosesau clir ar waith ar gyfer rheoli digwyddiadau, ac roedd y staff yn sicrhau bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a'r gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu ar draws y gwasanaeth. Roedd cofnodion yn cael eu cadw mewn ffordd glir a threfnus yn y ganolfan, ac roedd dulliau uwchgyfeirio ac asesiadau risg priodol ar waith. 

Pan ofynnwyd iddynt, dywedodd y staff wrth yr arolygwyr eu bod yn teimlo eu bod wedi'u paratoi'n dda i ymgymryd â'u rôl a'u bod yn cael arfarniadau a chymorth rheolaidd. 

Dylai Canolfan Geni Tirion ganolbwyntio ar ehangu ei chyrhaeddiad er mwyn darparu gwasanaethau i fwy o fenywod beichiog a phobl sy'n rhoi genedigaeth, yn enwedig y rheini o gefndiroedd ethnig amrywiol, gan mai nifer bach iawn o bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol sy'n defnyddio'r ganolfan.

Roedd enghreifftiau o arferion da yn cynnwys trefniadau i annog menywod a phobl sy'n rhoi genedigaeth i roi adborth ar eu profiadau, gan gynnwys yr opsiwn i ymuno â Grŵp Lleisiau Mamolaeth y bwrdd iechyd. 

Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones: 

'Mae'n gadarnhaol gweld tîm o staff ymroddedig sy'n ymrwymedig i ddarparu gofal o safon uchel i fenywod, pobl sy'n rhoi genedigaeth a'u teuluoedd. Rhaid canmol amrywiaeth ac ansawdd y gwasanaethau sydd ar gael i fenywod cyn iddynt roi genedigaeth, yn ystod y cyfnod esgor ac ar ôl rhoi genedigaeth. Byddwn yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw feysydd a oedd yn peri pryder yn deillio o'r arolygiad.’