Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Cenedlaethol ar y Cyd: Sut mae gwasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau plant yn cefnogi anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru?

Byddwn yn arwain adolygiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn i archwilio sut mae gofal iechyd, addysg a gwasanaethau plant yn cefnogi anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru.

logos of Healthcare Inspectorate Wales, Estyn and Care Inspectorate Wales

Mae amrywiaeth o wybodaeth a ddelir gan AGIC yn dangos bod y galw am gymorth iechyd meddwl yn uwch o lawer na chapasiti'r gwasanaeth. Mae hwn yn fater cenedlaethol, sydd wedi gwaethygu yn sgil pandemig COVID-19, a arweiniodd at sefyllfa lle roedd nifer uchel o blant a phobl ifanc yn aros cyfnodau estynedig am asesiad ac ymyriad gan wasanaethau CAMHS arbenigol. O ganlyniad, gall hyn olygu nad yw pobl yn cael y cymorth sydd ei angen ac, mewn rhai achosion, bydd eu cyflwr iechyd meddwl yn dirywio ymhellach. 

Nod ein hadolygiad ar y cyd yw ystyried a yw plant a phobl ifanc yn cael cymorth amserol ac effeithiol i ddiwallu eu hanghenion iechyd meddwl. Bydd ein hadolygiad yn canolbwyntio ar blant rhwng 11 ac 16 oed mewn addysg orfodol ac yn ystyried y gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi eu hanghenion iechyd meddwl o fewn gwasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau plant, cyn cael eu hatgyfeirio at wasanaethau CAMHS arbenigol neu cyn cael eu hasesu ganddynt. 

Mae ein gwaith ymchwil a'n gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi helpu i lywio cwmpas ein gwaith i ateb y cwestiwn canlynol:

  • Sut mae gwasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau plant yng Nghymru yn cefnogi anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc, pan fyddant yn aros am asesiad, neu'r rhai nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer ymyriad gan wasanaethau CAMHS arbenigol?

Mae ein llinellau ymholi allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • A yw gwasanaethau addysg a gwasanaethau phlant yn rhoi cymorth effeithiol i blant a phobl ifanc sydd â chyflyrau iechyd meddwl newydd neu gyflyrau sy'n bodoli eisoes?
  • Pa wasanaethau sydd ar gael i reoli anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc ledled Cymru?
  • A oes ymyriadau gofal iechyd amserol a chyfartal ar gael i blant a phobl ifanc er mwyn cefnogi eu hanghenion iechyd meddwl?
  • Pa lwybrau atgyfeirio sydd ar waith gan wasanaethau gofal iechyd a gwasanaethau awdurdodau lleol er mwyn i blant a phobl ifanc allu cael gafael ar wasanaethau CAMHS arbenigol, ac a ydynt yn effeithiol?
  • Sut mae gwasanaethau yn ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i blant a phobl ifanc y mae angen cymorth iechyd meddwl arnynt, a'r rhai y mae amddifadedd economaidd-gymdeithasol yn effeithio arnynt?
  • A yw ymyriadau gofal iechyd yn ddigonol i gefnogi anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc, pan fyddant yn aros am asesiad, neu'r rhai nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer ymyriad gan wasanaethau CAMHS arbenigol?

Daw'r adolygiad i ben drwy gyhoeddi adroddiad cenedlaethol ar y cyd yn ystod hydref 2024. Bydd yr adroddiad yn nodi themâu allweddol a meysydd lle ceir arferion da a bydd yn gwneud argymhellion lle caiff gwelliannau gofynnol eu nodi drwy gydol ein hadolygiad. Os caiff unrhyw bryderon brys eu nodi yn ystod ein hadolygiad, cânt eu codi'n brydlon â darparwyr gofal iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau plant neu Lywodraeth Cymru. Yn ogystal, lle byddwn o'r farn bod hynny'n briodol, caiff unrhyw ganfyddiadau interim eu cyfleu i'n rhanddeiliaid, darparwyr gofal iechyd, gwasanaethau plant a gwasanaethau addysg fel y bo'n briodol.

Gellir dod o hyd i'r cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad isod.

Dweud eich Dweud

Hoffem ddysgu mwy am eich profiadau ac a ydych wedi defnyddio neu wedi cael profiad o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) neu unrhyw gymorth arall tebyg. 

Drwy dreulio ychydig funudau yn cwblhau'r arolwg hwn, byddwch yn helpu i lywio dyfodol cymorth i bobl ifanc ledled Cymru. 

Amdani! Cwblhewch yr arolwg heddiw i fod yn rhan o'r newid!