Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Cymru Gyfan o Benderfyniadau Na Cheisier Dadebru Cardio-anadlol (DNACPR)

Nod ein hadolygiad yw ystyried yr arferion sydd ar waith pan gaiff penderfyniadau DNACPR eu cymhwyso at gleifion sy'n oedolion (dros 18 oed), ac a gaiff safbwyntiau ac ystyriaethau cleifion eu parchu.

Byddwn yn ystyried a yw penderfyniadau DNACPR yn adlewyrchu blaenoriaethau'r unigolyn, yn ogystal â'r gofynion a ffefrir ganddo o ran gwybodaeth, ac a gaiff penderfyniadau DNACPR eu cofnodi a'u cyfleu'n glir rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ac â'r cleifion a'r rhai hynny sy'n agos atynt.

Mae ein gwaith ymchwil a'n gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi helpu i lywio cwmpas ein gwaith, sef sut i ateb y cwestiwn canlynol:

  • A yw penderfyniadau DNACPR yn cael eu cyfleu mewn ffordd barchus i gleifion a'r rhai hynny sy'n agos atynt, ac a ydynt yn cael eu cofnodi a'u cyfleu'n glir rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol?

Bydd ein llinellau ymholi allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • A yw'r ddogfennaeth DNACPR sydd wedi'i chynnwys fel rhan o gofnodion meddygol (ac nid dim ond y ffurflenni DNACPR) yn gadarn?
  • A yw'r ddogfennaeth DNACPR yn adlewyrchu'r cyfathrebu a fu â'r claf, a'r rhai hynny sy'n agos at y claf, yn briodol?
  • A oes tystiolaeth fod penderfyniadau DNACPR yn cael eu cyfleu i wahanol dimau gofal iechyd?
  • Sut mae clinigwyr yn ystyried anghenion cyfathrebu pobl er mwyn sicrhau eu bod yn deall y broses ar gyfer gwneud penderfyniadau DNACPR yn llawn?
  • Pa fesurau sydd ar waith gan sefydliadau gofal iechyd i sicrhau bod clinigwyr yn ystyried cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wneud penderfyniadau DNACPR?

Daw'r adolygiad i ben drwy gyhoeddi adroddiad cenedlaethol yn ystod gwanwyn 2024. Bydd yr adroddiad yn nodi themâu allweddol a meysydd lle ceir arferion da a bydd yn gwneud argymhellion lle caiff gwelliannau gofynnol eu nodi drwy gydol ein hadolygiad.

Mae'r cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad ynghlwm isod.

Holiadur Staff (Arolwg ar gau)

Rydym yn ceisio casglu gwybodaeth i gadarnhau gwybodaeth a sgiliau staff sy'n gysylltiedig â'r broses DNACPR. 

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r arolwg byr hwn mewn perthynas ag ymwneud proses Gwneud Penderfyniadau DNACPR.

Holiadur Cyhoeddus (Arolwg ar gau)

Rydym yn ceisio casglu gwybodaeth er mwyn canfod lefel gwybodaeth a phrofiad y cyhoedd sy'n gysylltiedig â'r broses DNACPR.

Byddem yn gwerthfawrogi pe byddech yn cwblhau'r arolwg byr hwn mewn perthynas â'r penderfyniad a wneir dros unigolion Na Cheisier Dadebru Cardio-anadlol (DNACPR).

Drwy'r arolwg hwn, rydym yn anelu at ddeall yn well a gaiff penderfyniadau DNACPR eu cyfleu'n barchus i gleifion a'r rhai sy'n agos atynt.

Mae copi caled o'r arolwg ar gael yn y dogfennau isod, neu os hoffech gwblhau'r arolwg dros y ffôn, cysylltwch â ni.