Neidio i'r prif gynnwy

Arolygwyr yn canfod bod gwasanaethau iechyd meddwl yn Ysbyty Glanrhyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gwella

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (15 Chwefror) yn dilyn arolygiad o'r gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghlinig Angelton, sy'n rhan o Ysbyty Glanrhyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a gaiff ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Clinig Angelton Ysbyty Glanrhyd Iechyd Meddwl Arbenigol

Cynhaliwyd yr arolygiad dros dridiau ym mis Tachwedd 2023, ac roedd yn canolbwyntio ar Wardiau 1 a 2, sy'n darparu gofal i bobl hŷn sydd wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl difrifol a dementia. 

Nododd yr arolygwyr fod y staff yn ymrwymedig i ddarparu gofal diogel ac effeithiol, ac roedd yn gadarnhaol gweld bod llawer o welliannau wedi'u gwneud ers ein harolygiad blaenorol yn 2022. Ar y cyfan, cawsom sicrwydd fod polisïau, prosesau ac archwiliadau sefydledig ar waith gan y gwasanaeth i reoli risgiau a threfniadau iechyd a diogelwch. Nodwyd gennym fod prosesau archwilio ychwanegol wedi cael eu cyflwyno ers yr arolygiad diwethaf, er mwyn ymdrin â'r meysydd allweddol i'w gwella, megis hapwiriadau misol gan yr uwch-nyrsys a gwiriadau diogelwch dyddiol o'r drysau. Er gwaethaf y gwelliannau hyn, canfu'r arolygwyr sawl risg diogelwch bosibl, gan gynnwys defnydd anghyson o larymau diogelwch personol y staff a hygyrchedd y cyfarpar achub bywyd brys. Fodd bynnag, aeth staff yr ysbyty ati i unioni'r pryderon hyn yn ystod yr arolygiad. 

Gwelodd yr arolygwyr y staff yn dangos parch wrth ryngweithio â'r cleifion drwy gydol yr arolygiad. Roedd y staff yn dangos agwedd llawn gofal a dealltwriaeth tuag at y cleifion, ac yn cyfathrebu gan ddefnyddio iaith briodol ac effeithiol. Roedd gan bob claf ei ystafell wely a'i ystafell ymolchi ei hun a oedd yn cynnal ei breifatrwydd a'i urddas. Roedd cynlluniau gofal y cleifion yn adlewyrchu anghenion a risgiau unigol ac roeddent yn cael eu cynnal i safon uchel.

Roedd ethos cryf o awydd i wella gwasanaethau yn barhaus yn yr ysbyty. Nododd yr arolygwyr fod y staff yn barod i dderbyn ein canfyddiadau a'n hargymhellion ac i ymateb iddynt ac roeddent yn frwdfrydig ac yn uchel eu cymhelliant. Roedd yn amlwg bod y bwrdd iechyd yn ymrwymedig i adolygu lefel y gofal a oedd yn cael ei ddarparu ar y wardiau yn barhaus, ac roedd trefniadau llywodraethu sefydledig ar waith i oruchwylio materion clinigol a gweithredol. Nododd yr arolygwyr nad oedd dyddiad ar sawl un o bolisïau'r bwrdd iechyd neu fod angen eu diweddaru, ac felly nad oedd canllawiau clir i'r staff.  Er y bu gwelliannau amlwg o ran cydymffurfiaeth staff â hyfforddiant gorfodol ers ein harolygiad diwethaf, roedd angen gwneud gwelliannau o hyd. 

Ar adeg ein harolygiad, roedd lefelau staffio'r ysbyty yn cydymffurfio â thargedau'r bwrdd iechyd, ond roedd hi'n destun gofid nodi bod nifer mawr o swyddi parhaol gwag. Dywedwyd wrthym fod yr ysbyty yn gwneud defnydd helaeth o staff asiantaeth i lenwi shifftiau gwag, a oedd yn rhoi pwysau ychwanegol ar staff y wardiau gan fod staff asiantaeth yn llai cyfarwydd â'r cleifion. Roedd rhai aelodau o staff y gwnaethom siarad â nhw yn ystod yr arolygiad o'r farn nad oedd digon o staff ar y wardiau i fodloni'r cynnydd yn y galw gan gleifion.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

Mae'n gadarnhaol gweld bod gwelliannau wedi'u gwneud i sicrhau bod cleifion yn cael gofal diogel ers ein harolygiad diwethaf o'r gwasanaethau iechyd meddwl yn Ysbyty Glanrhyd. Nododd yr arolygwyr rai meysydd y mae angen eu gwella er mwyn lleihau'r risgiau i'r cleifion, y staff ac ymwelwyr. Mae'r bwrdd iechyd wedi llunio cynllun cynhwysfawr sy'n nodi ei gamau gwella a byddwn yn parhau i fonitro ei gynnydd yn ofalus.