Neidio i'r prif gynnwy

Gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud i Wasanaethau Iechyd Meddwl Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad (22 Chwefror) yn dilyn arolygiad o wasanaethau iechyd meddwl yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, a gaiff ei reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Ysbyty Brenhinol Morgannwg Ward derbyn, ward 21, ward 22 ac uned Gofal Seiciatrig Dwys

Cynhaliwyd yr arolygiad dros dridiau ym mis Tachwedd 2023, ac roedd yn canolbwyntio ar wardiau arbenigol amrywiol a'r Uned Gofal Seiciatrig Dwys sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion. 

Gwelodd yr arolygwyr dîm o staff gofalgar a phroffesiynol a oedd yn ymrwymedig i ddarparu gofal wedi'i deilwra i gleifion. Ers arolygiad diwethaf AGIC yn 2019, gwnaed ymdrechion sylweddol i fynd i'r afael â'r gwelliannau gofynnol a nodwyd o ran y trefniadau ar gyfer rhyddhau cleifion, cynllunio gofal a gweithgarwch archwilio. 

Gofynnwyd am sicrwydd ar unwaith o ganlyniad i'r lefelau isel o staff a oedd yn cydymffurfio â'r gofynion o ran hyfforddiant gorfodol critigol. Roedd hyn yn cynnwys hyfforddiant cynnal bywyd sylfaenol a hyfforddiant yn dangos sut i dawelu achosion o wrthdaro a sicrhau mai dim ond pan fetho popeth arall y defnyddir grym corfforol i gadw'r cleifion yn ddiogel. Felly, ni allem fod yn sicr bod y staff wedi cael yr hyfforddiant priodol i gynnal safonau proffesiynol. Rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau bod hyfforddiant ar gael a'i fod yn cael ei wneud yn orfodol. 

Roedd y trefniadau ar gyfer rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn enghraifft ganmoladwy o arfer da, a oedd yn cynnwys elfennau o gydweithio da rhwng staff y ward a thimau cymunedol, a chyfraniad clir gan y cleifion. 

Nododd yr arolygwyr fod trefniadau cynllunio gofal o ansawdd rhagorol ar waith, a bod cynlluniau triniaeth y cleifion yn fanwl ac wedi'u teilwra at yr unigolyn. Cafodd hyn ei adlewyrchu yn yr arolygon, lle dywedodd y cleifion wrth yr arolygwyr eu bod yn cael eu trin yn dda gan y staff a'u bod yn cael gofal cynhwysfawr wedi'i deilwra. 

Er gwaethaf y safonau gofal da a welwyd gan yr arolygwyr, roedd nifer mawr o swyddi gwag. Roedd gorddibyniaeth ar staff asiantaeth i gyflenwi shifftiau gwag, a dywedodd y staff wrthym nad oedd digon o adnoddau i fodloni'r galw gan gleifion. Yn ystod yr ymweliad arolygu, ni welwyd rheolwr nos ar y safle a dim ond un nyrs gymwysedig oedd ar bob ward. Er bod systemau ar alwad ar waith, roedd hyn yn peri risgiau posibl i ddiogelwch y cleifion. Rhaid i'r bwrdd iechyd barhau i ganolbwyntio ar recriwtio staff parhaol i swyddi gwag. 

Nodwyd gennym fod y cleifion yn cael eu trin ag urddas a pharch ar y cyfan. Roedd ffonau ar gael i'r cleifion gysylltu â'u teuluoedd ac roedd ystafelloedd preifat ar gael ar gyfer ymweliadau. Roedd dewisiadau cleifion i gloi eu drysau yn cael eu parchu ond roedd modd eu hagor pe byddai angen. Fodd bynnag, roedd rhai ystafelloedd yn cael eu rhannu, a oedd yn effeithio ar breifatrwydd y cleifion. 

Roedd systemau llywodraethu cadarn ac effeithiol ar waith i oruchwylio materion clinigol a gweithredol. Roedd strwythur sefydliadol clir ar waith gyda llinellau rheoli ac atebolrwydd clir. Dywedodd y staff wrth yr arolygwyr eu bod yn fodlon ac yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu rolau. Cafodd yr arolygwyr sicrwydd fod y staff yn ymwybodol o'r gweithdrefnau diogelu i sicrhau bod oedolion agored i niwed a phlant yn cael eu hamddiffyn.

Nododd yr arolygwyr fod archwiliadau a phrosesau da ar waith i reoli risgiau, iechyd a diogelwch a phrosesau rheoli heintiau, a bod sesiynau dadfriffio rheolaidd yn cael eu cynnal yn dilyn digwyddiadau. Gwelodd y tîm arolygu enghreifftiau o'r staff yn tawelu ymddygiadau anodd mewn ffordd gadarnhaol yn ystod yr arolygiad, gan weithredu mewn ffordd gefnogol a chan ddangos parch. 

Dywedodd Prif Weithredwr AGIC, Alun Jones:

“Mae'n gadarnhaol gweld y gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud yn dilyn ein harolygiad diwethaf o'r gwasanaethau iechyd meddwl yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn benodol o ran y trefniadau cynllunio gofal a'r broses ar gyfer rhyddhau cleifion o'r ysbyty. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r bwrdd iechyd er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd parhaus yn erbyn ein canfyddiadau.”