Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad ar y Cyd: Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) wedi'i gyhoeddi

Mae'r adroddiad yn ymdrin â'r cyfnod rhwng mis Ebrill 2022 a diwedd mis Mawrth 2023.

Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Iechyd 2022-23

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar y cyd wedi cyhoeddi eu hadroddiad monitro blynyddol ar gyfer 2022-23 ar ddefnyddio'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yng Nghymru. 

Oherwydd yr oedi parhaus wrth asesu ceisiadau DoLS, ni allwn bob amser fod yn sicr nad yw hawliau dynol pobl yn cael eu torri drwy gael eu hamddifadu o'u rhyddid yn anghyfreithlon.

Mae AGIC, ar y cyd ag AGC, yn gyfrifol am fonitro'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) a chyflwyno adroddiadau arnynt, a bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar y ceisiadau y mae byrddau iechyd ac awdurdodau lleol yn eu derbyn. 

Datblygwyd DoLS er mwyn sicrhau bod hawliau dynol pobl yn cael eu hamddiffyn a'u cynnal, a bod y gofal y maent yn ei gael er eu lles pennaf ac yn cael ei ddarparu yn y ffordd leiaf cyfyngol.

Mae'r trefniadau diogelu hyn yn gymwys i bobl dros 18 oed na allant gydsynio i driniaeth neu ofal mewn ysbyty neu gartref gofal. Maent yn darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer achosion o amddifadu unigolion o'u rhyddid er mwyn atal achosion o dorri'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Prif ganfyddiadau:

  • Bu cynnydd o 18% yn nifer y ceisiadau DoLS a aseswyd gan yr awdurdodau lleol o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Bu cynnydd o 32% yn nifer y ceisiadau DoLS a aseswyd gan fyrddau iechyd yn 2022-23 o gymharu â'r ffigurau a welwyd yn 2021-22.
  • Mae'r oedi hir cyn dyrannu, asesu ac awdurdodi ceisiadau yn parhau i olygu bod llawer o bobl yng Nghymru yn cael eu hamddifadu o'u rhyddid, heb fod unrhyw amddiffyniad cyfreithiol ar waith nac unrhyw gyfle i herio wrth aros i benderfyniad gael ei wneud. Rhaid i'r cyfnod o amser y mae'n ei gymryd i asesu ceisiadau wella a rhaid iddynt gael eu cwblhau o fewn y terfyn amser statudol.
  • Daw llawer o awdurdodiadau brys i ben cyn y gellir cynnal yr asesiadau DoLS gofynnol. Gallai fod o fudd i rai awdurdodau lleol a byrddau iechyd adolygu eu gweithdrefnau presennol ar gyfer awdurdodiadau brys ar y cyd â'r awdurdodau rheoli. 
  • Ni all y rhan fwyaf o awdurdodau lleol a byrddau iechyd ddyrannu nifer y ceisiadau a geir am awdurdodiadau pellach. Rhaid i bob corff goruchwylio sicrhau y caiff hawliau pobl eu hamddiffyn, ac y caiff yr asesiadau ar gyfer pob cais eu cynnal o fewn y nifer o ddiwrnodau a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer DoLS.
  • Mae defnydd awdurdodau lleol a byrddau iechyd o amodau yn amrywio, gyda rhai rhanbarthau yn eu defnyddio'n fwy nag eraill. Dylai cyrff goruchwylio sicrhau y caiff amodau eu defnyddio lle bo angen a'u bod yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i bobl, gan gynnwys lleihau neu roi'r gorau i'r amddifadu.
  • Caiff y rhan fwyaf o bobl eu cefnogi a'u cynrychioli mewn materion sy'n ymwneud â'u hamddifadu o'u rhyddid. Rhaid i gyrff goruchwylio barhau i sicrhau y caiff “cynrychiolydd person perthnasol” ei benodi ar gyfer pob awdurdodiad. 

Darllenwch yr adroddiad llawn a'r holl ganfyddiadau allweddol isod.