Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi rhybudd i ddarparwr sy'n defnyddio gwasanaethau laser heb eu cofrestru

Yn dilyn ymchwiliad troseddol diweddar, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi defnyddio ei bwerau cyfreithiol o ganlyniad i dorri Deddf Safonau Gofal 2000.

Mae'n dilyn tystiolaeth o wasanaeth yn darparu triniaethau laser esthetig mewn clinig yng Nghaerdydd heb fod wedi cofrestru. 

Mae cyfanswm o chwe trosedd wedi'u cyflawni, dwy gan unigolyn am gynnal neu reoli sefydliad heb gofrestru yn unol ag Adran 11 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, gyda phedair trosedd bellach yn cael eu cyflawni gan y cwmni cyfyngedig am ddarparu'r fath wasanaethau. 

Fel rheoleiddiwr gwasanaethau gofal iechyd annibynnol yng Nghymru, mae AGIC yn ymrwymedig i weithredu pan na chaiff safonau eu cyrraedd. Pan na fydd darparwr gofal iechyd annibynnol yn cydymffurfio â gofynion rheoliadol, byddwn yn gweithredu. 

Mae'n ofynnol i ysbytai, clinigau ac asiantaethau meddygol annibynnol gofrestru ag AGIC. Cyhoeddwyd y rhybudd hwn ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod y lleoliad yn gweithredu heb gofrestriad.

Os ydych yn bwriadu defnyddio gwasanaeth gofal iechyd annibynnol, cadarnhewch fod y gwasanaeth hwnnw wedi'i gofrestru ag AGIC gan ddefnyddio'r cyfleuster chwilio ar ein gwefan. Os na allwch ddod o hyd i'r gwasanaeth neu os oes gennych wybodaeth am ddarparwr gofal iechyd heb ei gofrestru yng Nghymru, hoffem glywed gennych chi.

Darperir gwasanaethau gofal iechyd mewn nifer o wahanol ffyrdd a gan amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Os bydd unrhyw amheuaeth ynghylch yr angen i gofrestru, fe'ch cynghorir i gysylltu ag AGIC i gael cyngor drwy gwblhau a chyflwyno Ffurflen Ymholiad Cofrestru.