Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar Fonitro Iechyd Meddwl ar gyfer 2022-2023

Mae'r adroddiad yn nodi ein gweithgareddau sicrwydd a'n canfyddiadau yn ystod y cyfnod o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023, ac mae'n ystyried y safonau gofal a ddarparwyd gan wasanaethau gofal iechyd meddwl ac anableddau dysgu ledled Cymru yn ystod y cyfnod hwn.

Monitro Ysbytai Iechyd Meddwl, Ysbytai Anableddau Dysgu a’r Ddeddf Iechyd Meddwl Adroddiad Blynyddol 2022-2023

Yn ystod ein hymweliadau arolygu yn 2022-23, gwnaethom ganolbwyntio ar nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys: 

  • Ystyried a yw cleifion yn cael eu cadw'n gyfreithlon ac a yw'r gofal a'r driniaeth yn briodol 
  • Ystyried a yw cleifion yn cael gwybodaeth am eu hawliau, pan gânt eu cadw, ac yn rheolaidd wedi hynny. Byddwn hefyd yn ystyried a yw cleifion yn deall arwyddocâd eu cyfnod cadw ai peidio 
  • Ystyried a yw'r driniaeth yn ystyried dymuniadau'r claf ac a yw'n teimlo ei fod yn cael ei drin ag urddas a pharch. 

Mae gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu yn parhau i wynebu llawer o heriau sy'n effeithio ar ganlyniadau i gleifion. Mae pwysau difrifol ar welyau cleifion mewnol o hyd ac mae byrddau iechyd a darparwyr gofal annibynnol yn wynebu llawer o heriau wrth ddarparu ystod o wasanaethau amrywiol i gleifion sy'n agored i niwed. Eleni, rydym wedi ehangu ein rhaglen arolygu er mwyn cynnwys gwasanaethau cymunedol.

Un agwedd gadarnhaol yn ein harolygiadau oedd y graddau roedd cleifion a pherthnasau yn gwerthfawrogi ansawdd y rhyngweithio rhwng staff a chleifion. Gwelsom y staff yn ymgysylltu â'r cleifion mewn modd cadarnhaol ac yn rhoi esboniad priodol iddynt er mwyn sicrhau eu bod yn deall y gofal a'r driniaeth roeddent yn eu cael.

Mae rhai meysydd yn parhau i beri pryder i ni, sef: 

  • Heriau o ran y gweithlu – problemau wrth recriwtio a chadw staff 
  • Rheoli meddyginiaethau – amrywiaeth o faterion yn ymwneud â storio, rhoi ac archwilio meddyginiaethau 
  • Arsylwi ar gleifion – hyfforddiant ar gyfer staff, diffyg cofnodion effeithiol ac adolygiadau amserol o bolisïau/gweithdrefnau 
  • Gwybodaeth i gleifion – diffyg gwybodaeth i gleifion am bynciau allweddol 
  • Asesiadau risg a dogfennau cynllunio gofal – gan gynnwys methiant i gwblhau asesiadau risg a'u hadolygu mewn modd amserol 
  • Yr amgylchedd gofal – diffyg trefniadau i archwilio a rheoli risgiau pwyntiau clymu amgylcheddol 
  • Llywodraethu – diffyg trefniadau i archwilio a goruchwylio meysydd allweddol, gan gynnwys hyfforddiant 

Yn ystod y cyfnod adrodd, gwnaethom gynnal cyfanswm o 22 o arolygiadau ar y safle mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd yn y GIG ac mewn ysbytai annibynnol. Yn y cyfanswm o 22 o arolygiadau ar y safle, gwnaethom ymweld â thri Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMCau) ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Gwnaethom adolygu 902 o hysbysiadau a gafwyd am ddigwyddiadau yn ymwneud â diogelwch cleifion mewn lleoliadau gofal iechyd meddwl ac anableddau dysgu annibynnol. 

Cawsom hefyd 694 o geisiadau am ymweliad gan Feddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn. Mae hyn yn ostyngiad yn nifer y ceisiadau o 759 ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022.

Er bod ein gwaith wedi ein galluogi i arsylwi ar rai enghreifftiau o arferion da mewn agweddau gwahanol ar ddarparu gwasanaethau, roedd angen gwelliant sylweddol yn aml ac roedd cryn dipyn o amrywiaeth o ran ansawdd y gofal a ddarparwyd.

Monitro Ysbytai Iechyd Meddwl, Ysbytai Anableddau Dysgu a’r Ddeddf Iechyd Meddwl Adroddiad Blynyddol 2022-2023