Bob chwarter, rydym yn rhannu diweddariadau ac yn tynnu sylw at themâu allweddol sy'n dod i'r amlwg o'n gwaith wrth helpu i wella gwasanaethau ar draws y system gofal iechyd. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ymgysylltu â rhanddeiliaid, rhannu'r gwersi a ddysgwyd, ac adrodd ar ein gweithgarwch.

Yn y rhifyn hwn, rydym yn nodi sut mae ein harolygiadau gofal iechyd yn ystyried y Gymraeg, gan gefnogi pobl i gael gofal yn eu dewis iaith. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i'r Cynllun Gweithredu Mwy na Geiriau, sef strategaeth Llywodraeth Cymru i atgyfnerthu'r defnydd o'r Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.
Rydym yn ystyried ein gwaith arolygu diweddar yn fanylach, gan rannu tystiolaeth o sut mae gwasanaethau yn darparu gofal i bobl yn eu dewis iaith ac yn cefnogi cynnydd cenedlaethol o ran darpariaeth Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys themâu a gwybodaeth allweddol o weithgarwch arolygu Cymraeg a dwyieithog, gan ganolbwyntio ar Gam Gweithredu 10 – cynllunio gweithlu sydd â sgiliau Cymraeg a Cham Gweithredu 38 – ymgorffori'r Cynnig Rhagweithiol o Strategaeth Mwy na Geiriau. Rydym hefyd yn ystyried themâu'r Gymraeg o'n hymgynghoriad ar Strategaeth 2026–2030.
Mae'r Cynnig Rhagweithiol yn ganolog i strategaeth Mwy na Geiriau. Mae'n golygu darparu gwasanaethau yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdanynt. Mae'r dull rhagweithiol hwn yn helpu i greu amgylchedd cefnogol lle mae pobl yn teimlo'n hyderus y bydd eu hanghenion iechyd a gofal yn cael eu diwallu.
Mae Strategaeth Mwy na Geiriau yn pennu'r cyfeiriad cenedlaethol, ac mae'r Cynnig Rhagweithiol yn sicrhau y caiff camau ymarferol eu cymryd i'w gyflawni. Yn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), rydym yn asesu'r Cynnig Rhagweithiol fel un o elfennau allweddol gofal diogel ac urddasol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae'r bwletin hwn yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol hefyd:
- Cyhoeddi ein Strategaeth 2026-2030 – strategaeth sy'n ymwneud â gweithredu, ac sy'n anelu at wella gofal iechyd i bobl ledled Cymru nawr ac yn y dyfodol
- Cyhoeddi ein Cynllun Gweithredol diweddaraf – ein blaenoriaethu a'n camau gweithredu ar gyfer 2026-2027
- Penderfyniad AGIC i ddynodi'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd yn Wasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol.
- Ein Llawlyfr SOAD – canllawiau i feddygon a benodir i roi ail farn ar gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, gan gynnwys adolygu ac awdurdodi triniaeth i gleifion
- Ein datganiad ar Ddyfarniad y Goruchaf Lys ar Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid
- Y wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgarwch arolygu ar gyfer darparwyr gofal iechyd y GIG a darparwyr gofal iechyd annibynnol
Rydym yn gobeithio y bydd y bwletin hwn yn addysgiadol ac yn ddefnyddiol. Mae eich adborth yn ein helpu i wella'r ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn rhannu negeseuon allweddol – a fyddech cystal â chymryd eiliad i gwblhau ein harolwg byr.
Diolch.

Dysgu a Deall
Y Gymraeg mewn arolygiadau gofal iechyd: Gwybodaeth a chynnydd

Yn y rhifyn hwn, rydym yn nodi sut mae ein harolygiadau gofal iechyd yn ystyried y Gymraeg, gan gefnogi pobl i gael gofal yn eu dewis iaith. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i strategaeth Mwy na Geiriau Llywodraeth Cymru ac i gyflawni'r Cynnig Rhagweithiol yn ymarferol.
Rydym hefyd yn rhannu canfyddiadau allweddol o weithgarwch arolygu diweddar, gan dynnu sylw at ymarfer da a'r ffordd y mae gwasanaethau yn atgyfnerthu'r ddarpariaeth Gymraeg ledled Cymru.
Gellir darllen mwy o wybodaeth a'r canfyddiadau llawn ar ein tudalen we.
Yr hyn a glywsom yn ein hymgynghoriad ar y Strategaeth: themâu sy'n ymwneud â'r Gymraeg

O fis Medi i fis Rhagfyr 2025, gwnaethom lansio ein hymgynghoriad ar Strategaeth 2026–2030. Cawsom dros 1,300 o ymatebion dros gyfnod o 12 wythnos.
Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn adlewyrchu awydd gwirioneddol i ni wella gofal iechyd yng Nghymru. Ochr yn ochr â chydnabyddiaeth i aelodau o staff sy'n darparu gofal ymroddedig a thosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, rhannodd ymatebwyr safbwyntiau clir ynghylch yr heriau y maent yn eu hwynebu wrth gael gafael ar wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru, gan gyfeirio at anghysondeb o ran y gallu i gael gafael ar ofal drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn nodi nad yw'r Cynnig Rhagweithiol bob amser yn cael ei ddarparu'n ymarferol.
Er bod llawer o staff yn mynd allan o'u ffordd i gyfathrebu yn Gymraeg, mae materion ehangach yn y system fel prinder staff dwyieithog, hyder isel a hyfforddiant anghyson yn golygu bod y profiad a gaiff pobl yn aml yn methu â chyrraedd y safonau disgwyliedig.
Roedd pobl yn nodi cyswllt cryf rhwng dewis iaith ac urddas, eglurder a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a gwnaethant fynegi awydd i'r Gymraeg gael ei hystyried yn gliriach wrth arolygu, adrodd a chynllunio'r gweithlu. Gwnaethant bwysleisio bod angen darpariaeth Gymraeg ymarferol fwy cyson ar draws gwasanaethau er mwyn gwneud gwelliant ystyrlon.
Diweddariad Busnes
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cyhoeddi strategaeth newydd feiddgar i wella gofal iechyd yng Nghymru
Cynllun beiddgar i roi pobl yn gyntaf, llywio gwelliannau ar draws gwasanaethau, a chymryd camau lle mae'r risg fwyaf i ddiogelwch cleifion. Mae'r strategaeth, sydd wedi'i llywio gan safbwyntiau 2,353 o gleifion, gofalwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac aelodau o'r cyhoedd, yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl: gofal diogel ac effeithiol, mynediad amserol, dulliau cyfathrebu clir, a gwasanaethau sydd wedi'u dylunio o amgylch profiadau go iawn.
Darllenwch ein Strategaeth ar gyfer 2026–2030
Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Gweithredol ar gyfer 2026-2027

Mae ein Cynllun Gweithredol ar gyfer 2026–2027 yn amlinellu ein blaenoriaethau a'r camau gweithredu rydym yn bwriadu eu cymryd i gefnogi gofal iechyd diogel o ansawdd uchel yng Nghymru.
Mae'r cynllun, sydd wedi'i lywio gan ein Strategaeth 2026–2030, yn canolbwyntio ar bedair blaenoriaeth allweddol i lywio gwelliannau ar draws gwasanaethau:
- Rhoi Pobl yn Gyntaf
- Dysgu a Gweithio Gyda'n Gilydd
- Buddsoddi yn Ein Pobl
- Cymryd Camau sydd o Bwys.
Darllenwch ein Cynllun Gweithredol ar gyfer 2026–2027
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn dynodi'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd yn Wasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol

Yn dilyn arolygiad dirybudd a gynhaliwyd ym mis Mai 2026, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi dynodi'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd, yn Sir Ddinbych, yn Wasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol.
Ceir rhagor o wybodaeth ar ein gwefan
Cyhoeddi Llawlyfr SOAD newydd

Mae AGIC wedi cyhoeddi Llawlyfr SOAD newydd, sy'n cynnig canllawiau ymarferol i feddygon sy'n rhoi barn annibynnol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Mae'r llawlyfr yn nodi rôl a swyddogaeth Meddygon a Benodir i roi Ail Farn o ran diogelu, yn amlinellu'r broses asesu ac ardystio, ac yn tynnu sylw at ystyriaethau allweddol fel ymgysylltu â chleifion, awdurdodi triniaethau, a'r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau clir. Caiff ei ddiweddaru'n rheolaidd, a chroesewir adborth er mwyn sicrhau bod y canllawiau'n parhau'n berthnasol.
Dyfarniad y Goruchaf Lys ar Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid

Mae Arolygiaeth gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn gyfrifol am fonitro sut y caiff Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid eu rhoi ar waith ac yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar y canfyddiadau ar y cyd.
Yn dilyn Dyfarniad y Goruchaf Lys ar 2 Mehefin 2026, bu newid sylweddol i'r ffordd y caiff achos o amddifadu o ryddid ei nodi, ac mae'r dyfarniad hwn yn dod i rym ar unwaith.
Diweddariadau Gweithgarwch

Gweithgarwch Sicrwydd ac Arolygu
Rydym yn arolygu gwasanaethau'r GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yn erbyn amrywiaeth o safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau er mwyn nodi meysydd y mae angen eu gwella. Yn dilyn ein gwaith arolygu a sicrwydd, byddwn yn cyhoeddi adroddiad sy'n amlinellu ein canfyddiadau a'n hargymhellion. Gwyliwch sut rydym yn gwirio gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru drwy wylio'r fideo byr hwn.
Mae'r adroddiadau arolygu diweddaraf yn cynnwys:
Mawrth 2026 – Arolygiad AGIC yn codi pryderon ynghylch yr amgylchedd gofal mewn ysbyty iechyd meddwl arbenigol ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Mawrth 2026 – Arolygiad yn canfod pryderon o ran diogelwch a'r amgylchedd mewn ysbyty iechyd meddwl arbenigol yng Nghaerdydd
Swyddi gwag

Mae Adolygwyr Cymheiriaid yn chwarae rhan bwysig wrth ein helpu ni i roi sicrwydd annibynnol ar ansawdd, diogelwch, ac effeithiolrwydd gwasanaethau gofal iechyd. Maent yn cyfrannu gwybodaeth arbenigol a phrofiad go iawn at ein timau arolygu, gan ein helpu ni i nodi arferion da, nodi lle mae angen gwneud gwelliannau, a sicrhau canlyniadau gwell i gleifion.
Rydym wrthi'n recriwtio ar gyfer sawl rôl allweddol, gan gynnwys Meddygon a Benodir i roi Ail Farn (SOAD), Adolygwyr Cymheiriaid Nyrsys Practis ac Adolygwyr Cymheiriaid Deintyddol. Mae'r swyddi hyn yn cynnig cyfle unigryw i gyfrannu at y broses o reoleiddio a gwella gwasanaethau gofal iechyd ledled Cymru.
Dweud Eich Dweud

Rydym am glywed eich barn! Mae amrywiaeth o arolygon cleifion yn weithredol ar hyn o bryd ar ein gwefan, ac rydym yn croesawu eich barn.
Gellir dod o hyd i'r holl arolygon gweithredol ar ein tudalen arolygon.
Oes gennych chi funud? Hoffem glywed eich barn am ein Bwletin Arsylwi – dim ond ychydig o gwestiynau sydd i'w hateb!