Mae arolygiad AGIC yn codi pryderon ynghylch yr amgylchedd gofal mewn ysbyty iechyd meddwl arbenigol ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn arolygiad o Glinig Caswell, gwasanaeth iechyd meddwl diogelwch canolig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae’r clinig yn Ysbyty Glanrhyd, y mae’r ystad ehangach yn eiddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Roedd yr arolygiad yn canolbwyntio ar ansawdd a diogelwch y gofal a ddarperir i gleifion, a pha mor dda y mae'r gwasanaeth yn cefnogi urddas, diogelwch ac adferiad therapiwtig.
Canfu'r arolygwyr bod y cleifion yn nodi profiadau cadarnhaol o ofal ar y cyfan ac yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan staff caredig a pharchus. Canfu'r arolygwyr hefyd enghreifftiau o ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gweithio amlddisgyblaethol effeithiol, a goruchwyliaeth dda o ofynion y Ddeddf Iechyd Meddwl. Fodd bynnag, codwyd pryderon sylweddol ynghylch cyflwr yr amgylchedd gofal ac agweddau ar ddiogelwch a sicrwydd.
Yn ystod yr arolygiad, dywedodd y cleifion eu bod yn teimlo'n ddiogel ar y wardiau ar y cyfan ac yn gwybod sut i godi pryderon pe bai angen. Arsylwodd yr arolygwyr ar ryngweithiadau parchus rhwng y staff a'r cleifion, a chanfuwyd ffocws cryf ar iechyd corfforol cleifion, gan gynnwys asesiadau cynhwysfawr, monitro rheolaidd, a mynediad at wasanaethau meddyg teulu a gwasanaethau ataliol. Roedd y gwaith o gynllunio gofal a thriniaeth yn canolbwyntio ar yr unigolyn gan mwyaf, gweithio amlddisgyblaethol effeithiol, a goruchwyliaeth dda o ofynion y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Nododd yr arolygiad hefyd feysydd arfer da, gan gynnwys rheoli meddyginiaethau'n effeithiol, a phwyslais clir ar ddulliau is-gyfeirio a'r dulliau lleiaf cyfyngol. Roedd trefniadau monitro’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn gadarn, ac roedd gan gleifion fynediad at eiriolaeth a gwybodaeth am eu hawliau. Disgrifiodd y staff arweinwyr lefel ward fel rhai hawdd mynd atynt a chefnogol yn eu hymarfer o ddydd i ddydd. Yn ogystal, nododd yr arolygwyr feysydd arfer da fel yr ystafell ddeintyddol ar y safle, gan ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel ac amserol i gleifion.
Fodd bynnag, cododd yr arolygwyr bryderon sylweddol am yr amgylchedd ffisegol, gan ganfod bod yr amgylchedd yn annerbyniol ar gyfer gwasanaeth iechyd meddwl diogelwch canolig, ac nad oedd yn cefnogi gofal diogel, urddasol a therapiwtig. Gwelodd yr arolygwyr dystiolaeth glir o ddirywiad amgylcheddol yn fewnol ac yn allanol, gan gynnwys difrod dŵr, gwaith pren wedi'i ddifrodi, atgyweiriadau dros dro i'r lloriau, a dodrefn a strwythurau awyr agored a oedd yn anniogel neu mewn cyflwr gwael. Roedd cyflwr y gerddi a'r ardaloedd awyr agored yn cyfyngu ar eu gwerth therapiwtig, ac roedd angen hebryngwr i fynd yno gyda'r cleifion oherwydd y peryglon hysbys. Roedd y problemau hirsefydlog hyn o ran yr ystad a chynnal a chadw yn cynyddu'r risgiau atal a rheoli heintiau, yn rhoi pwysau ychwanegol ar staff, ac yn adlewyrchu'r pryderon a nodwyd yn flaenorol drwy arolygiadau cynharach AGIC a thrwy adolygiadau allanol eraill.
Ers hynny mae AGIC wedi ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, sy'n berchen ar ystad Glanrhyd, ac wedi cael sicrwydd bod cyllid cyfalaf wedi'i sicrhau a bod cyfrifoldebau am waith adferol wedi'u hegluro. Fodd bynnag, bydd yn cymryd amser i ddatrys y problemau hyn yn llawn, ac mae'n parhau i fod yn hanfodol i'r cleifion gael gofal mewn amgylchedd sy'n ddiogel ac yn therapiwtig.
Nododd yr arolygwyr anghysondebau hefyd mewn gwiriadau diogelwch rheolaidd. Roedd y rhain yn cynnwys bylchau yng nghofnodion y gwiriadau cyfarpar brys, rhestrau gwirio diogelwch anghyflawn, a gwiriadau pwyntiau clymu anghyflawn, yn enwedig y tu allan i oriau.
Cafodd dau bryder diogelwch di-oed eu huwchgyfeirio yn ystod yr arolygiad ac ymdriniwyd â nhw ar y pryd. Canfu'r arolygwyr fod rhai o baneli arsylwi'r ystafelloedd gwely wedi'u gorchuddio, a oedd yn lleihau gallu'r staff i arsylwi'r cleifion. Nododd yr arolygwyr hefyd anghysondebau o ran storio a hygyrchedd cyfarpar y risg o bwyntiau clymu ar draws wardiau, a allai fod wedi gohirio ymateb y staff mewn argyfwng. Codwyd hyn gydag uwch-arweinwyr, a chymerwyd camau ar unwaith i wella'r trefniadau storio a sicrhau bod y cyfarpar i'w gweld yn glir ac ar gael yn rhwydd.
Roedd meysydd pellach i'w gwella yn cynnwys problemau atal a rheoli heintiau sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd, problemau gyda chyfleusterau golchi dillad, a dibyniaeth ar gofnodion papur, a oedd yn cynyddu'r llwyth gwaith a'r dyblygu. Dywedodd rhai o'r cleifion fod cyfyngiadau ar ddefnyddio ffonau symudol yn cyfyngu ar eu cyswllt â theulu a rhwydweithiau cymorth, ac roeddent yn teimlo bod hyn yn effeithio ar eu llesiant a'u hadferiad. Tynnodd yr arolygwyr sylw hefyd at yr angen i gryfhau hyfforddiant staff, gwella cyfathrebu ac arweinwyr gweladwy, a sicrhau bod y gwersi sy'n cael eu dysgu o ddigwyddiadau ac adborth gan gleifion yn cael eu rhannu'n gyson ar draws y gwasanaeth.
Mae AGIC wedi nodi disgwyliadau clir ar gyfer gwella a bydd yn parhau i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i geisio sicrwydd bod y camau gweithredu gofynnol yn cael eu rhoi ar waith a'u cynnal. Bydd AGIC yn monitro cynnydd i sicrhau bod y cleifion yn cael gofal mewn amgylchedd sy'n ddiogel, yn urddasol ac yn cefnogi eu hadferiad.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
“Canfu ein harolygiad staff ymroddedig oedd yn gweithio’n galed i ddarparu gofal parchus, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac roedd yn gadarnhaol clywed bod llawer o gleifion yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi'n dda. Fodd bynnag, gwnaethom hefyd nodi pryderon difrifol ynghylch yr amgylchedd ffisegol ac agweddau ar ddiogelwch y mae angen gwelliant brys a chynaledig arnynt. Er ein bod yn cydnabod nad yw'r pwysau sy'n gysylltiedig ag ystadau iechyd meddwl sy'n heneiddio yn unigryw i Glinig Caswell a'u bod yn amlwg mewn gwasanaethau eraill ledled Cymru, nid yw hyn yn lliniaru'r effaith ar y bobl sy'n cael gofal yn y gwasanaeth hwn. Er ei bod yn galonogol bod camau gweithredu wedi'u cymryd ar unwaith i fynd i'r afael â rhai risgiau yn ystod yr arolygiad, rydym yn disgwyl i'r bwrdd iechyd ddangos cynnydd clir wrth fynd i'r afael â'r materion ehangach a nodwyd er mwyn sicrhau bod y cleifion yn cael gofal mewn amgylchedd sy'n ddiogel, yn urddasol ac yn cefnogi eu hadferiad."