Arolygiad yn canfod pryderon o ran diogelwch a'r amgylchedd mewn ysbyty iechyd meddwl arbenigol yng Nghaerdydd
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei chanfyddiadau yn dilyn arolygiad dirybudd o wasanaethau iechyd meddwl arbenigol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Cynhaliwyd yr arolygiad dros dri diwrnod ym mis Mawrth 2026, gan asesu ansawdd, diogelwch a phrofiad y claf ar dri ward sy'n darparu gofal arbenigol i unigolion dros 65 oed â dementia neu salwch meddwl difrifol.
Gwelodd yr arolygwyr enghreifftiau o ryngweithio tosturiol a pharchus rhwng y staff a'r cleifion, gyda gofal yn cael ei ddarparu mewn ffordd bwyllog. Roedd tystiolaeth bod opsiynau llai cyfyngol yn cael eu hystyried, a bod cyfyngiadau yn cael eu cymhwyso mewn ffordd gymesur. Roedd y cleifion yn cael cymorth i gynnal eu llesiant drwy weithgareddau a chyfleoedd ystyrlon, gan gynnwys sesiynau therapiwtig a sesiynau hamdden. Roedd gofal yn cael ei gynllunio wedi'i deilwra at yr unigolyn ac yn cael ei ddogfennu'n effeithiol, gyda chyfraniad cadarn gan y tîm amlddisgyblaethol a threfniadau da ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd lle y bo'n briodol. Dywedodd y cleifion wrth yr arolygwyr eu bod yn teimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu cefnogi, ac roedd gofal yn cael ei roi mewn modd amserol ac ymatebol ar y cyfan.
Fodd bynnag, nododd yr arolygiad lawer o bryderon mewn perthynas â diogelwch cleifion, glendid a chyflwr amgylchedd y wardiau, yr oedd angen gweithredu ar unwaith yn eu cylch. Roedd yn siomedig nodi bod rhai o'r materion hyn wedi cael eu nodi yn ystod arolygiad blaenorol, gan godi pryderon o ran effeithiolrwydd prosesau goruchwylio a gallu'r bwrdd iechyd i wneud gwelliannau a'u cynnal.
Defnyddiodd AGIC ei phroses sicrwydd ar unwaith i geisio sicrwydd gan y bwrdd iechyd mewn perthynas â diogelwch amgylcheddol, rheoli risgiau'n ymwneud â phwyntiau clymu ac atal a rheoli heintiau. Roedd hyn yn dilyn pryderon sylweddol am gyflwr a glendid amgylcheddau'r wardiau, gan gynnwys risgiau'n ymwneud â phwyntiau clymu hygyrch, peryglon amgylcheddol ac ardaloedd o'r wardiau a oedd mewn cyflwr gwael, nad oeddent yn cefnogi urddas na diogelwch cleifion mewn modd cyson.
Ni chafodd AGIC sicrwydd bod trefniadau atal a rheoli heintiau yn gyson effeithiol. Nododd yr arolygwyr broblemau helaeth o ran glendid, gan gynnwys llwch, malurion a staeniau yn yr ardaloedd i gleifion. Nid oedd y toiledau mewn rhai ardaloedd yn cael eu glanhau i safon dderbyniol ac nid oedd rhai o'r cyfleusterau ar gael i'w defnyddio am gyfnodau estynedig. Roedd pryderon hefyd nad oedd y trefniadau cymorth domestig yn ddigonol. Mewn rhai achosion, roedd yn ofynnol i'r staff clinigol ymgymryd â dyletswyddau glanhau, gan roi mwy o bwysau ar dimau sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi.
Er bod trefniadau cadarn ar waith o ran diogelu, rheoli digwyddiadau a chynllunio gofal, nododd yr arolygwyr nad oedd y prosesau archwilio lleol yn nodi nac yn ysgogi gwelliannau mewn meysydd risg allweddol mewn modd dibynadwy. Nid oedd y prosesau llywodraethu na'r prosesau goruchwylio a oedd ar waith gan yr uwch-arweinwyr bob amser yn effeithiol wrth nodi risgiau, eu huwchgyfeirio a'u trin.
Nododd yr arolygwyr hefyd bwysau mewn perthynas â'r gweithlu, gan gynnwys bylchau o ran cydymffurfiaeth â hyfforddiant gorfodol a diffyg canllawiau clir ar gyfer trefniadau staffio yn ystod y nos. Roedd y materion hyn yn lleihau'r sicrwydd bod staff yn cael cymorth cyson i gynnal gofal diogel.
Ers hynny, mae'r bwrdd iechyd wedi nodi'r camau gweithredu a gymerwyd a'r gwelliannau a gynlluniwyd, gan gynnwys ymdrin â risgiau diogelwch, cynnal gwaith glanhau trylwyr, atgyfnerthu prosesau rheoli heintiau, gwella prosesau cynnal a chadw a gwella prosesau goruchwylio. Bydd AGIC yn parhau i fonitro cynnydd er mwyn sicrhau y caiff y gwelliannau hyn eu rhoi ar waith a'u cynnal.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
“Yn ystod yr arolygiad hwn, gwelwyd staff ymroddedig yn darparu gofal tosturiol a pharchus o dan amgylchiadau heriol. Fodd bynnag, nodwyd pryderon sylweddol am amgylchedd y wardiau a methiant i ymdrin â risgiau hysbys, yn enwedig mewn perthynas â glendid, diogelwch a phrosesau goruchwylio. Er bod yr heriau sy'n gysylltiedig ag ystadau iechyd meddwl sy'n heneiddio i'w gweld ledled Cymru ac nad ydynt yn unigryw i'r gwasanaeth hwn, mae'r effaith ar gleifion yn yr achos hwn yn sylweddol. Rhaid i'r bwrdd iechyd nawr ddangos gwelliannau clir a pharhaus er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael gofal mewn amgylchedd diogel a glân sy'n cael ei gynnal a'i gadw'n dda. Byddwn yn parhau i fonitro'r cynnydd yn agos.”