Arolygiad yn dangos cynnydd parhaus yng ngwasanaethau mamolaeth Ysbyty Singleton, ynghyd â meysydd i'w gwella ymhellach
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei chanfyddiadau yn dilyn arolygiad o'r gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Singleton, a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Cynhaliwyd yr arolygiad dros dri diwrnod ym mis Chwefror 2026 ac roedd yn canolbwyntio ar ansawdd a diogelwch y gofal a ddarperir i fenywod, babanod a theuluoedd ar draws y gwasanaethau mamolaeth, a phrofiad pobl o'r gwasanaethau hynny. Nododd y tîm arolygu gynnydd clir a chyson ers arolygiadau blaenorol. Fodd bynnag, nododd y tîm hefyd bryderon ynghylch amseroldeb y gofal a ddarperir i fenywod ar y ward ôl-enedigol, yn ogystal â'r pwysau sydd ar y staff ym mhob rhan o'r gwasanaeth.
Gwelodd yr arolygwyr dystiolaeth o welliant parhaus ers arolygiadau blaenorol yn 2023 a 2024. Roedd hyn yn cynnwys gwaith amlddisgyblaethol mwy effeithiol, gwell trefniadau trosglwyddo meddygol, mwy o sefydlogrwydd o ran arweinyddiaeth a systemau cliriach ar gyfer adolygu risgiau i'r cleifion ac uwchgyfeirio pryderon. Roedd yr adborth a gafwyd gan fenywod a theuluoedd yn gadarnhaol ar y cyfan, ac yn adlewyrchu gwasanaeth mamolaeth ymatebol a thosturiol. Dywedodd y rhan fwyaf o'r menywod wrth yr arolygwyr eu bod wedi cael eu trin ag urddas a pharch, eu bod yn teimlo eu bod wedi cael eu clywed, a'u bod wedi cael eu cynnwys mewn penderfyniadau am eu gofal. Gwelodd yr arolygwyr enghreifftiau o ryngweithio pwyllog, proffesiynol a pharchus rhwng y staff a'r menywod, a gwnaethant nodi bod gofal un i un yn ystod genedigaeth yn cael ei ddarparu'n gyson, a bod partneriaid geni'r menywod yn gallu bod yn bresennol.
Nododd yr arolygwyr fod y trefniadau goruchwylio ac atebolrwydd ar lefel uwch wedi'u cryfhau ers arolygiadau blaenorol, gyda gwell gwelededd o risgiau yn darparu fframwaith mwy cadarn i gefnogi dysgu a gwelliant parhaus ym mhob rhan o'r gwasanaeth. Gwelwyd cynnydd hefyd o ran trefniadau trosglwyddo meddygol, yn enwedig drwy ddefnyddio sgrymiau diogelwch dyddiol i rannu gwybodaeth a rheoli risgiau, a thrwy roi system Sgoriau Rhybudd Cynnar Mamolaeth Cymru Gyfan ar waith, sy'n helpu'r staff i adnabod pan y gall cyflwr menyw fod yn gwaethygu. Gwelwyd bod trefniadau atal a rheoli heintiau, prosesau rheoli meddyginiaethau a diogelu yn sefydledig, gyda systemau clir i gefnogi gofal diogel.
Er gwaethaf y gwelliannau hyn, nododd yr arolygwyr heriau y mae'n rhaid cymryd camau pellach yn eu cylch. Er bod adborth gan y staff yn fwy cadarnhaol mewn rhai meysydd, cyfeiriodd y staff at bwysau parhaus, gwnaethant ddweud eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gorweithio, a gwnaethant fynegi pryderon ynghylch hyfforddiant a datblygiad proffesiynol. Er bod adborth ôl-enedigol yn gadarnhaol ar y cyfan, roedd rhai o'r menywod yn feirniadol o'r oriau ymweld cyfyngedig a phrinder staff yn ystod y cyfnodau hyn i ymateb i'w hanghenion mewn modd amserol. Roedd hyn yn effeithio ar urddas y cleifion ac yn tynnu sylw at effaith pwysau ehangach ar y gwasanaeth. Roedd adborth y staff hefyd yn adleisio'r profiadau a rannwyd gan fenywod a theuluoedd ar y ward ôl-enedigol.
Yn ogystal, nododd yr arolygwyr, er bod trefniadau goruchwylio ac atebolrwydd ar lefel uwch wedi gwella, mae'n rhaid eu gwella ymhellach i sicrhau bod risgiau'n cael eu nodi a'u huwchgyfeirio yn gyson a bod camau'n cael eu cymryd mewn perthynas â nhw. Roedd hyn yn cynnwys cryfhau prosesau uwchgyfeirio pan nad oes adolygiadau clinigol amserol ar lefel uwch ar gael. Gwelodd yr arolygwyr nad oedd y Cynnig Rhagweithiol, sy'n sicrhau bod pobl yn cael cynnig gwasanaethau yn Gymraeg heb orfod gofyn amdanynt, yn cael ei roi ar waith yn gyson yn y gwasanaeth. Mae angen gwneud gwaith pellach i gryfhau mynediad teg i ofal, yn enwedig ymysg aelodau newydd o'r staff.
Nododd yr arolygwyr nad oedd gwiriadau o gyfarpar adfywio babanod newydd-anedig yn cael eu cwblhau a'u cofnodi yn gyson, sy'n creu risg na fydd y cyfarpar yn barod i'w ddefnyddio mewn argyfwng. Gofynnodd AGIC felly am sicrwydd ar unwaith ynghylch y trefniadau hyn. Cafodd yr arolygwyr sicrwydd bod yr holl gyfarpar yn bresennol, ei fod yn gweithio, a'i fod wedi cael ei wirio ar adeg yr arolygiad. Ers hynny, mae'r bwrdd iechyd wedi amlinellu camau i gryfhau'r prosesau a'r trefniadau goruchwylio er mwyn sicrhau bod y gwiriadau hyn yn cael eu cynnal yn rheolaidd. Nododd yr arolygwyr hefyd fod staff wedi dweud ei bod hi weithiau'n anodd cael gafael yn gyflym ar gyfarpar meddygol hanfodol yn ystod cyfnodau prysur, fel cyfarpar monitro curiad calon babanod (peiriannu CTG), cyfarpar monitro pwysedd gwaed a thermomedrau.
Mae AGIC wedi parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd ers yr arolygiad ac wedi cael cynllun gwella cynhwysfawr sy'n nodi sut y bydd y gwasanaeth yn mynd i'r afael â'r materion a nodwyd. Bydd AGIC yn monitro cynnydd i gael sicrwydd bod y gwelliannau hyn yn cael eu cyflwyno a'u cynnal.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:
"Mae'r arolygiad hwn yn dangos bod cynnydd parhaus yn dechrau gwneud gwahaniaeth yn Ysbyty Singleton, gyda gwelliannau clir mewn arweinyddiaeth, trefniadau ar gyfer nodi a rheoli risgiau, ac ansawdd y gofal y mae menywod yn ei gael. Er bod cynnydd yn amlwg, rhaid i'r bwrdd iechyd roi blaenoriaeth glir i gynnal y momentwm hwn er mwyn sicrhau bod gwasanaethau bob amser yn ddiogel, yn effeithiol ac yn cynnig profiad cadarnhaol i fenywod a theuluoedd. Rydym yn disgwyl i'r bwrdd iechyd adeiladu ar y cynnydd sydd wedi'i wneud a chyflawni gwelliannau amlwg, mesuradwy i fenywod, babanod a theuluoedd, a byddwn yn parhau i fonitro hyn yn agos."