Neidio i'r prif gynnwy

Gwrando ar Gymru: Yr Hyn y Gwnaethoch ei Ddweud Wrthym yn Ein Hymgynghoriad ar y Strategaeth

Diolch i bawb a gymerodd ran yn ein hymgynghoriad ar y Strategaeth ar gyfer 2026-2030. Dros gyfnod o 12 wythnos, gwnaethom wahodd cleifion, gofalwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, aelodau o'r cyhoedd, a rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru i rannu eu barn a'u profiadau.

Gwrando ar Gymru: Yr Hyn y Gwnaethoch ei Ddweud Wrthym yn Ein Hymgynghoriad ar y Strategaeth

 

Cawsom ymateb arbennig, gyda 2,353 o gyflwyniadau, gan gynnwys 1,384 o arolygon wedi'u cwblhau (15 yn Gymraeg a 1,369 yn Saesneg) a 969 o ymatebion rhannol.

Mae eich barn yn werthfawr iawn ac yn helpu i lywio ein blaenoriaethau a'n camau gweithredu ar gyfer y dyfodol. 

Pwy Wnaeth Ymateb?

  • Roedd yr ymatebwyr yn cynnwys cleifion, gofalwyr di-dâl, staff clinigol presennol ac sydd wedi ymddeol, rheolwyr practis, gweithwyr deintyddol proffesiynol, staff cartrefi gofal, rheolwyr o'r sector cyhoeddus, cynrychiolwyr llywodraeth leol, sefydliadau eirioli, pobl anabl, byrddau iechyd ac Ymddiriedolaethau.

Sut y Gwnaethom Gasglu Adborth

  • Gwnaethom ddefnyddio arolwg ar-lein dwyieithog, digwyddiadau ymgysylltu wyneb yn wyneb, cylchlythyrau dros e-bost, ac ymgyrch yn y cyfryngau cymdeithasol.
  • Cynhaliwyd grwpiau ffocws gydag Age Cymru, Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW), a'r Birth Partner Project (BPP) i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn, menywod, mamau, a theuluoedd yn cael eu clywed.

Yr hyn y gwnaethoch ei ddweud wrthym

Ein Diben a'n Blaenoriaethau

Ein Diben •	Roedd 924 o bobl yn cytuno â'n diben (+180 yn niwtral) •	Dywedodd 813 o bobl nad oedd unrhyw beth ar goll neu'n aneglur   Ein Blaenoriaethau •	Roedd 81% o bobl yn cytuno â blaenoriaeth 1 – Rhoi Pobl yn Gyntaf •	Roedd 81% o bobl yn cytuno â blaenoriaeth 2 – Dysgu a Gweithio Gyda'n Gilydd •	Roedd 82% o bobl yn cytuno â blaenoriaeth 3 – Buddsoddi yn Ein Pobl Roedd 88% o bobl yn cytuno â blaenoriaeth 4 – Cymryd Camau sydd o Bwys

1. Mynediad at Wasanaethau

  • Anawsterau parhaus wrth gael apwyntiadau gyda meddyg teulu, amseroedd aros hir ar gyfer diagnosisau ac atgyfeiriadau, ac anghydraddoldebau gwledig (“loteri cod post”)
  • Mae rhwystrau trafnidiaeth, yn arbennig ar gyfer grwpiau o bobl hŷn a phobl agored i niwed, yn cyfyngu ymhellach ar fynediad
  • Mae systemau meddygon teulu gorlawn yn gorfodi pobl i ddibynnu ar ofal brys oherwydd bylchau mewn gwasanaethau a gynlluniwyd. 

2. Ansawdd a Diogelwch Gofal

  • Safonau amrywiol mewn gwahanol fyrddau iechyd, gyda phryderon penodol mewn perthynas â gofal brys, cleifion mewnol, mamolaeth, ac iechyd meddwl
  • Cawsom wybod am faterion o ran diogelwch cleifion, dulliau rheoli poen annigonol, a diffyg gofal dilynol
  • Mae prinder staff a diffygiad yn effeithio ar ansawdd y gofal a phrofiad y claf.

3. Cyfathrebu a Chydgysylltu

  • Prosesau rhannu gwybodaeth gwael rhwng adrannau a darparwyr; diffyg cofnodion digidol a rennir
  • Arweiniad croes gan feddygon teulu, ysbytai, a gwasanaethau 111
  • Mae cleifion a theuluoedd yn aml yn teimlo nad ydynt yn cael digon o wybodaeth am gynlluniau gofal, hawliau a'r camau nesaf.

4. Cynhwysiant, Y Gymraeg, a Chydraddoldeb

  • Darpariaeth Gymraeg ragweithiol annigonol; bylchau o ran gweithlu dwyieithog
  • Mae achosion o allgáu digidol a phrinder dehonglwyr yn effeithio ar bobl agored i niwed a grwpiau ethnig lleiafrifol
  • Yr angen am ofal sy'n sensitif o safbwynt diwylliant a gwell trefniadau ar gyfer ymgysylltu â chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol.

5. Dulliau Gweithio Cydgysylltiedig

  • Mae diffyg cydgysylltu rhwng gwasanaethau a byrddau iechyd yn effeithio ar barhad, trefniadau rhyddhau cleifion a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Galwadau am fodelau gofal integredig a phrosesau cydweithio gwell rhwng sefydliadau iechyd, sefydliadau gofal cymdeithasol a sefydliadau'r trydydd sector.

6. Ymddiriedaeth, Atebolrwydd ac Ymgysylltu

  • Amheuaeth eang o ran a yw adborth yn arwain at newidiadau, diffyg tryloywder a chamau dilynol amlwg
  • Awydd i ymgysylltu mewn ffordd fwy ystyrlon, dulliau adborth clir, ac atebolrwydd pan fo camgymeriadau'n digwydd
  • Mae ymatebwyr am gael eu clywed, eu parchu, a'u trin fel unigolion.

7. Llesiant y Gweithlu a Chymorth i'r Gweithlu

  • Mae staff yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi ddigon nac yn cael eu cefnogi a bod penderfyniadau i rewi prosesau recriwtio yn effeithio arnynt
  • Galw am ddatblygiad proffesiynol parhaus, cymorth llesiant, ac iawndal teg
  • Nodwyd bod diwylliant cadarnhaol yn y gweithle yn hollbwysig er mwyn cadw staff ac o ran profiad y claf.

8. Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod

  • Prinder cymorth iechyd meddwl, camau dilynol annigonol, a phryderon am sgil-effeithiau meddyginiaeth
  • Mae angen rhoi sylw brys i iechyd menywod (e.e., menopos, endometriosis) a phryderon ynghylch cydsyniad.

9. Cyfyngiadau o ran Adnoddau a Chyllid

  • Mae'r ffaith na chaiff digon o arian ei neilltuo i wasanaethau yn achosi heriau wrth gyflawni blaenoriaethau strategol
  • Galw am fodelau cyllido sy'n dilyn y claf ac yn cefnogi gofal ataliol/gofal yn y gymuned.

Y Camau Nesaf 

Mae eich adborth wedi tynnu sylw at y materion sydd bwysicaf wrth gael gofal iechyd yng Nghymru. Mae eich mewnbwn yn helpu i lywio ein Strategaeth ar gyfer 2026-2030.

Byddwn yn:

  • Troi eich adborth yn gamau gweithredu drwy gynnwys themâu allweddol, fel mynediad, cyfathrebu, cynhwysiant a llesiant staff yn ein blaenoriaethau strategol a'n gwaith sicrwydd yn y dyfodol.
  • Atgyfnerthu'r ffordd rydym yn defnyddio eich mewnbwn i wella ein prosesau ar gyfer casglu gwybodaeth, gwrando ar brofiad y claf a gweithio gyda'r GIG a darparwyr annibynnol.
  • Rhannu eich adborth â phob rhan o'r system gofal iechyd er mwyn i bartneriaid allu defnyddio'r canfyddiadau i gefnogi gwelliant.
  • Bod yn glir ynghylch y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r strategaeth adeg ei chyhoeddi ym mis Ebrill 2026, gan gynnwys sut y gwnaeth themâu'r ymgynghoriad lywio ein blaenoriaethau a'n camau gweithredu.

Caiff ein Strategaeth ar gyfer 2026-2030 ei chyhoeddi ar 1 Ebrill 2026, a bydd yn nodi ein gweledigaeth a'n blaenoriaethau ar gyfer y pedair blynedd nesaf.

Diolch unwaith eto i chi am roi o'ch amser, am eich gonestrwydd ac am eich ymrwymiad i sicrhau bod gofal iechyd yn well i bawb yng Nghymru. Rydym yn ddiolchgar am eich cyfraniad.

Hawdd ei ddarllen: Yr Hyn y Gwnaethoch ei Ddweud Wrthym Am Ein Strategaeth (2026–2030)