Neidio i'r prif gynnwy

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn dynodi'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd yn Wasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol

Yn dilyn arolygiad dirybudd a gynhaliwyd ym mis Mai 2026, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi dynodi'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd, yn Sir Ddinbych, yn Wasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol.

Ysbyty Glan Clwyd, Adran Achosion Brys, Rhyl  Gwasanaethau sydd Angen eu Gwella'n Sylweddol

 

Gwnaed y dynodiad hwn yn unol â phroses Gwasanaeth sy'n Peri Pryder AGIC ac mae'n adlewyrchu'r pryderon a nodwyd yn ystod yr arolygiad mewn perthynas ag arweinyddiaeth, llywodraethu a rheoli risg yn yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae angen gwneud gwelliannau i gefnogi gofal sydd bob amser yn ddiogel ac yn cael ei reoli'n dda, wedi'i ategu gan brosesau arwain a goruchwylio effeithiol, ac mae'n dangos bod AGIC yn disgwyl gwelliant clir a brys, wedi'i gefnogi gan drefniadau goruchwylio cryfach, gyda phrosesau monitro a chamau dilynol gwell i olrhain cynnydd. 

Er bod AGIC yn cydnabod y galw sylweddol sydd ar wasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng, mae'r penderfyniad hwn yn seiliedig ar b'un a yw systemau, atebolrwydd a phrosesau goruchwylio yn ddigon cadarn i reoli'r pwysau hynny yn ddiogel a lleihau'r risg o amrywiaeth o ran gofal.

Roedd yr adran yn destun trefniadau Gwasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol yn flaenorol rhwng mis Mai 2022 a mis Awst 2024. Mae'r dynodiad diweddaraf hwn yn dangos nad yw'r gwelliannau a wnaed yn ystod y cyfnod hwnnw wedi cael eu cynnal.

Ers yr arolygiad, mae AGIC wedi ymgysylltu'n agos â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a bydd yn parhau i fonitro cynnydd drwy ei phroses Gwasanaeth sy'n Peri Pryder. Mae hyn yn cynnwys gweithgarwch ymgysylltu strwythuredig, camau gweithredu y cytunwyd arnynt a gweithgarwch sicrwydd parhaus nes y bydd AGIC yn fodlon bod y gwelliannau angenrheidiol wedi cael eu gwneud.

Rôl AGIC yw nodi pryderon a sicrhau bod gwasanaethau yn cymryd y camau sydd eu hangen i wella a darparu gofal diogel. Dylai cleifion y mae angen gofal brys neu ofal mewn argyfwng arnynt barhau i ddefnyddio'r adran. 

Caiff yr adroddiad arolygu llawn, sy'n nodi canfyddiadau manwl, ei gyhoeddi ym mis Medi 2026.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

“Rydym wedi dynodi'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Glan Clwyd yn Wasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol yn dilyn pryderon ynghylch arweinyddiaeth, llywodraethu a rheoli risg.

Mae'r dynodiad hwn yn golygu ein bod yn disgwyl gwelliant clir a brys, wedi'i gefnogi gan drefniadau goruchwylio ac atebolrwydd cryfach.

Er ein bod yn cydnabod y pwysau y mae adrannau achosion brys yn eu hwynebu, mae'n rhaid i wasanaethau roi trefniadau effeithiol ar waith i reoli'r pwysau hynny yn ddiogel. Byddwn yn parhau i fonitro cynnydd yn agos a byddwn yn adrodd ar ein canfyddiadau llawn ym mis Medi.”