Neidio i'r prif gynnwy

Dyfarniad y Goruchaf Lys ar Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid

Mae Arolygiaeth gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn gyfrifol am fonitro sut y caiff Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid eu rhoi ar waith ac yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar y canfyddiadau ar y cyd.

Dyfarniad  y goruchaf lys ar drefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid

Yn dilyn Dyfarniad y Goruchaf Lys ar 2 Mehefin 2026, bu newid sylweddol i'r ffordd y caiff achos o amddifadu o ryddid ei nodi, ac mae'r dyfarniad hwn yn dod i rym ar unwaith. Darllenwch grynodeb o ddyfarniad y Goruchaf Lys (Saesneg yn unig). 

Mae AGIC yn cydnabod bod hyn wedi achosi rhywfaint o ansicrwydd ac y gall arwain at gwestiynau ynghylch sut y dylid dehongli'r ffactorau gwahanol a'r effaith ar ymarfer. Rydym yn awyddus i ddeall goblygiadau'r dyfarniad hwn.Yr hyn sy'n glir yw y dylid rhoi'r gorau i ddefnyddio dull Gorllewin Swydd Gaer ar unwaith. Bydd angen dehongli'r canllawiau presennol yn unol â hynny, gan aros am ganllawiau swyddogol wedi'u diweddaru gan Lywodraeth y DU.

Mae'r dyletswyddau cyfreithiol o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 yn parhau i fod ar waith ac maent yn cynnwys asesu a yw'r trefniadau yn gyfystyr ag achos o amddifadu o ryddid, gan sicrhau bod gofal yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn diogelu hawliau pobl.

Dylai cyrff a darparwyr cyfrifol ymgyfarwyddo â'r datblygiad cyfreithiol hwn ac addasu eu hymarfer yn unol ag ef, gan geisio cyngor cyfreithiol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith. 

Bydd AGIC yn parhau i gefnogi darparwyr sy'n mabwysiadu dull cymesur wrth aros am ganllawiau pellach.