Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cyhoeddi strategaeth newydd feiddgar i wella gofal iechyd yng Nghymru
Heddiw, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), sef rheoleiddiwr ac arolygiaeth annibynnol gofal iechyd yng Nghymru, yn lansio ei strategaeth ar gyfer 2026-2030 — cynllun beiddgar i roi pobl yn gyntaf, llywio gwelliannau mewn gwasanaethau, a chymryd camau lle mae'r risg fwyaf i ddiogelwch cleifion.

Mae'r strategaeth, sydd wedi'i llywio gan safbwyntiau 2,353 o gleifion, gofalwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac aelodau o'r cyhoedd, yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl: gofal diogel ac effeithiol, mynediad amserol, dulliau cyfathrebu clir, a gwasanaethau sydd wedi'u dylunio o amgylch profiadau go iawn.
Dywedodd pobl Cymru wrthym eu bod yn cydnabod ymrwymiad staff gofal iechyd a'r gofal tosturiol ac ymroddedig sy'n cael ei ddarparu, ond roeddent yn glir ynghylch yr heriau sy'n bodoli o hyd. Dywedwyd wrthym am anawsterau wrth gael gwasanaethau, o drefnu apwyntiadau â meddyg teulu ac apwyntiadau deintyddol i wynebu amseroedd aros hir am ddiagnosis a thriniaeth. Mewn cymunedau gwledig, mae rhwystrau o ran trafnidiaeth a phwysau ar wasanaethau yn cynyddu anghydraddoldebau, ac mae rhai pobl yn teimlo nad oes ganddynt ddewis ond troi at ofal brys pan nad yw gwasanaethau a gynlluniwyd ar gael.
Dywedwyd wrthym nad yw ansawdd a diogelwch y gofal yr un fath ym mhob man, yn enwedig mewn gwasanaethau brys, mamolaeth ac iechyd meddwl. Rhannwyd pryderon ynghylch achosion o oedi o ran gofal dilynol, a phwysau parhaus ar lefelau staffio. Dywedodd llawer nad yw gwasanaethau bob amser yn cydweithio'n dda, gyda diffyg cyfathrebu rhwng timau a systemau digidol nad ydynt wedi'u cydgysylltu, a bod hyn yn arwain at ansicrwydd ymhlith cleifion a theuluoedd ynghylch yr hyn sy'n digwydd a'r hyn a fydd yn digwydd nesaf o ran eu gofal.
Roedd galw clir am ddarpariaeth Gymraeg fwy rhagweithiol, a chymorth gwell i bobl o gymunedau amrywiol. Dywedodd y staff a gymerodd ran wrthym eu bod yn aml yn teimlo nad oes digon o staff ar gael ac nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi, a bod cefnogi llesiant staff yn hanfodol i wella profiadau cleifion.
Ar yr un pryd, tynnodd ymatebwyr sylw at enghreifftiau o arloesi, gwaith tîm a gwasanaethau lleol yn gweithio'n greadigol i wella canlyniadau. Mae ein strategaeth newydd yn adeiladu ar y momentwm hwnnw drwy nodi sut y bydd AGIC yn nodi ac yn rhannu arferion da ledled Cymru, gan helpu i sicrhau bod gwelliannau'n cael eu gwneud yn gyflymach yn hytrach nag ar wahân. Roedd un neges yn sefyll allan ymhlith yr holl ymatebion: mae pobl am gael eu clywed a'u trin ag urddas, ac maent am weld bod eu hadborth yn arwain at newid gweledol.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr AGIC:
“Mae'r strategaeth hon yn gam pwysig ymlaen i AGIC. Mae'n adlewyrchu ein huchelgais i fod yn rym cryf ac annibynnol dros wella ym maes gofal iechyd. Rydym yn ymrwymedig i roi pobl yn gyntaf, buddsoddi yn ein timau a gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â'r risgiau a'r heriau mwyaf yn y system. Yn anad dim, rydym am wneud gwahaniaeth amlwg i gleifion, cymunedau ac ansawdd gofal ledled Cymru.

Mae'r strategaeth hon yn ymwneud â gweithredu, a'i nod yw gwella gofal iechyd i bobl ledled Cymru nawr ac yn y dyfodol.
Ein Diben
Rydym yn sicrhau bod gofal iechyd yng Nghymru yn ddiogel, yn effeithiol ac o ansawdd uchel.
Ein Gweledigaeth
Dyfodol lle mae gofal iechyd yng Nghymru yn ddiogel, yn effeithiol ac o ansawdd uchel i bawb.
Pedair blaenoriaeth i lywio gwelliant parhaus:
Rhoi Pobl yn Gyntaf
Byddwn yn canolbwyntio ar y risgiau mwyaf y mae pobl a chymunedau yn eu hwynebu wrth iddynt ddefnyddio gwasanaethau gofal iechyd nawr ac yn y dyfodol.
I wneud hyn byddwn yn:
- canolbwyntio ar y risgiau mwyaf y mae pobl sy'n defnyddio gofal iechyd yn eu hwynebu.
- atgyfnerthu'r ffordd rydym yn deall profiadau bywyd a theithiau cleifion.
- gwella'r ffordd rydym yn adrodd ar ganfyddiadau, i'w gwneud yn haws i wasanaethau ddysgu a gweithredu.
- herio anghydraddoldebau a gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o AGIC.
Dysgu a Gweithio Gyda'n Gilydd
Byddwn yn cydweithio â phartneriaid er mwyn rhannu gwersi a ddysgwyd ac ysgogi gwelliannau parhaus.
I wneud hyn byddwn yn:
- meithrin partneriaethau cryf ar draws sector y GIG a'r sector annibynnol.
- rhannu gwybodaeth ac arferion gorau er mwyn llywio gwelliannau.
- defnyddio gwybodaeth i gynllunio adolygiadau yn seiliedig ar yr hyn sydd bwysicaf.
- cynnwys cleifion, gofalwyr a staff rheng flaen yn ein gwaith.
Buddsoddi yn Ein Pobl
Byddwn yn sicrhau bod ein pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a'u grymuso.
I wneud hyn byddwn yn:
- cefnogi a datblygu staff i gynyddu effaith a hyder.
- croesawu arloesedd ac adnoddau digidol.
- atgyfnerthu ein diwylliant cynhwysol drwy ymrwymiadau o ran Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
- creu llwybrau datblygu cliriach a gwella prosesau mewnol.
Cymryd Camau sydd o Bwys
Byddwn yn cymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gofal iechyd ar gyfer dyfodol Cymru.
I wneud hyn byddwn yn:
- rheoleiddio ac arolygu gan ddefnyddio dulliau teg ac arloesol.
- cymryd camau gorfodi pendant lle bo angen.
- atgyfnerthu'r ffordd rydym yn ymateb i bryderon ac achosion o chwythu'r chwiban.
- cyhoeddi gwybodaeth glir am effaith ein gwaith.
Mae'r strategaeth yn seiliedig ar ddeddfwriaeth allweddol yng Nghymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a'r Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu). Mae hyn yn darparu'r fframwaith ar gyfer cyflawni gwelliannau ystyrlon a chynaliadwy.
Y camau nesaf
O heddiw ymlaen, bydd AGIC yn symud o strategaeth i gyflawni. Byddwn yn olrhain cynnydd drwy brosesau llywodraethu a goruchwylio perfformiad cryf ac yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd i ddangos y gwahaniaeth gwirioneddol y mae ein gwaith yn ei wneud i ddiogelwch ac ansawdd gofal iechyd a phrofiad pobl ohono ledled Cymru.
