Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau SOAD - Llawlyfr SOAD

canllawiau - llawlyfr SOAD

 Mae'r llawlyfr SOAD hwn yn dyst i waith llawer o gydweithwyr yn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) sydd wedi rhoi o'u hamser a'u profiad, SOADs sydd wedi rhannu eu gwybodaeth ac arfer da, a'r gymuned ehangach o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol sydd wedi rhoi adborth. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at y llawlyfr SOAD hwn.

 Bwriedir i'r llawlyfr hwn roi arweiniad cyffredinol i SOADs ynghyd ag amlinelliad o arfer da. Dyma ein hymgais gyntaf, a byddwn yn adolygu'r llawlyfr yn rheolaidd. Nid yw'n ganllaw cyflawn gan mai ei nod yw mynd i'r afael â'r prif elfennau a allai fod yn ddefnyddiol i SOADs yn unig.

Cysylltwch ag AGIC os bydd gennych ymholiadau cymhleth neu sefyllfaoedd penodol nad ydynt yn cael eu trafod yn y llawlyfr hwn.

 Mae'r fersiwn hon o'r llawlyfr yn gywir ar adeg cyhoeddi. Byddwn yn parhau i'w ddiweddaru yn y dyfodol. Os hoffech gael y fersiwn electronig ddiweddaraf, cysylltwch ag AGIC. Noder y gall fod angen i rai dolenni neu wybodaeth gael eu diweddaru dros amser. Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw ddiwygiadau y mae angen eu gwneud. 

Manteisiaf ar y cyfle hwn i ddiolch i bob Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn (SOADs) nawr ac yn y gorffennol am eu gwaith ystyrlon i ddiogelu cleifion sy'n cael eu trin o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl (y Ddeddf). 

Dr Bala Oruganti meddyg a benodwyd i roi ail farn arweiniol AGIC arolygiaeth gofal iechyd cymru ebrill 2026

Cyflwyniad

Bwriedir i'r llawlyfr hwn roi canllaw cyffredinol. 

Dylid ei ddarllen ar y cyd â chanllawiau eraill gan AGIC a chanllawiau eraill sy'n ymwneud â'r Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae dyletswydd gyfreithiol ar AGIC i benodi a chynnal rhestr o ymarferwyr meddygol cymwysedig priodol i roi barn annibynnol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn diogelu hawliau cleifion a sicrhau bod cleifion yn cael triniaeth seiciatrig briodol o dan y ddeddfwriaeth berthnasol. 

Caiff meddygon a benodwyd i roi ail farn (SOADs) eu penodi gan AGIC ond ni chânt eu cyflogi gan AGIC. Eu rôl yw rhoi barn annibynnol ar driniaeth ac felly maent yn cyflawni swyddogaeth ddiogelu bwysig. 

Pwyntiau pwysig i'w nodi

  1. Os ydych yn cyflwyno CO3 ond nad ydych wedi gallu cwrdd â'r claf wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy gynhadledd fideo (er enghraifft, os bydd yn gwrthod eich gweld neu siarad â chi), disgrifiwch pa gamau rydych wedi eu cymryd i geisio cysylltu â'r claf. Efallai na fydd yn briodol cyflwyno CO3 heb derfyn amser, yn enwedig os bydd yn awdurdodi dosau o feddyginiaethau uwchlaw'r hyn a nodir yn Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain (BNF) neu drefniadau meddyginiaeth cymhleth. Os bydd gennych unrhyw amheuon, trafodwch y mater â'r SOAD Arweiniol.
  2.  Er bod eich barn feddygol bob amser yn annibynnol, gallai fod yn briodol ichi ofyn i AGIC am gyngor ar sut i gwblhau ffurflen neu sefyllfa sy'n codi yn ystod asesiad, yn enwedig os ydych yn newydd i'r rôl. 
  3. Mae adborth gan Feddygon a Benodwyd i Roi Ail Farn yn bwysig er mwyn diweddaru'r canllaw hwn, sicrhau ei fod yn berthnasol o hyd, a nodi pynciau ac achosion i'w cyflwyno yn seminar flynyddol SOAD. Rydym yn croesawu awgrymiadau bob amser. 
  4. Gallai SOADs gymryd saib o'r gwaith hwn am resymau personol neu broffesiynol. Nid oes angen tynnu eich enw oddi ar y rhestr SOAD os na allwch ymgymryd â gwaith SOAD am gyfnod. Rhowch wybod i dîm gweinyddol AGIC os bydd hyn yn berthnasol ichi, neu os bydd gennych unrhyw gyfnodau o absenoldeb wedi'u cynllunio, fel na fyddant yn cysylltu â chi yn ystod yr adeg honno.
  5. Dylech gysylltu â ni os hoffech wneud mwy o waith SOAD ar unrhyw adeg.
  6. Rydym yn aml yn cael trafferth dod o hyd i SOADs ar gyfer rhai ardaloedd daearyddol (er enghraifft, Gogledd Cymru). Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw gynigion yn fawr. 
  7. Rhowch wybod i dîm gweinyddol AGIC os caiff asesiad SOAD ei ganslo a'ch bod eisoes wedi dechrau ar y broses ac wedi gwneud swm rhesymol o waith. Bydd hyn yn cynnig cyfle i drafod a fyddai'n briodol ichi hawlio ffi.
  8.  Gall AGIC dynnu enw meddyg oddi ar y rhestr SOAD os nad ydym yn fodlon ei fod yn parhau i fodloni'r meini prawf i'w gynnwys ar y rhestr, neu os nad ydym yn fodlon ar ansawdd ei waith er ei fod wedi cael awgrymiadau ar sut i wella.
  9. Ar hyn o bryd nid oes terfyn ar sawl asesiad SOAD y gallwch eu cynnal bob dydd. Chi sy'n penderfynu beth sy'n addas ac yn briodol. Mae gwaith SOAD yn hyblyg iawn. Gallwch wneud cynifer o asesiadau neu gyn lleied o asesiadau bob mis ag yr hoffech ond rydym yn gobeithio y byddwch yn cynnig gwneud o leiaf 20 asesiad mewn blwyddyn. 
  10. Rydym yn gwerthfawrogi ymateb cynnar i geisiadau am asesiadau fel y gall ein staff gweinyddol ddyrannu SOADs ar gyfer asesiadau yn effeithlon. Disgwylir i asesiadau gael eu cynnal wyneb yn wyneb, ac eithrio os byddwch yn nodi'n benodol mai dim ond ar sail rithwir y byddwch yn cynnig asesiad. Mae angen i chi fod yn glir ynghylch hyn pan fyddwch yn cynnig gwneud unrhyw waith.

Diben SOAD

  • Llais i gleifion, gwrando ar gleifion
  • Diogelu'r rhai a allai gael eu gorfodi i gael triniaeth
  • Sicrhau bod y claf neu'r rhai sydd ag awdurdod i wneud penderfyniadau am ei driniaeth iechyd meddwl, yn cael eu clywed (fel dirprwyon llys a deiliaid atwrneiaethau). Mae dymuniadau gorau a lles pennaf yn dylanwadu ar benderfyniadau a wneir gan ddirprwyon.
  • Diogelu'r rhai nad oes ganddynt alluedd neu'r rhai sy'n gwrthod triniaeth ar sail galluedd ar gyfer y rhai y mae'r SOAD yn ardystio triniaeth ar eu cyfer.

Rôl y Meddyg a Benodwyd i Roi Ail Farn

  • diogelu hawliau cleifion a gedwir o dan y Ddeddf sydd naill ai'n gwrthod y driniaeth a ragnodwyd gan y Clinigydd Cymeradwy neu yr ystyrir nad oes ganddynt y gallu i gydsynio. 
  • Mae SOAD yn gweithio fel unigolyn a rhaid iddo lunio ei farn broffesiynol ei hun 
  • Nid rhoi ail farn glinigol yw rôl y SOAD ond penderfynu 
    • a yw'r driniaeth a argymhellir yn briodol ac 
    • a oes ystyriaeth ddyledus wedi cael ei rhoi i farn a hawliau'r claf ac
    • a yw'r driniaeth yn anghenraid meddygol ac er lles pennaf y claf

Proses SOAD

  1. Mae bwrdd iechyd yn anfon atgyfeiriad SOAD1 neu SOAD2 at AGIC drwy e-bost neu'r porth diogel.
  2. Mae staff gweinyddol AGIC yn sicrhau bod y cais yn gyflawn ac yn dyrannu rhif achos i bob atgyfeiriad.
  3. Mae SOADs yn cael e-bost gyda rhifau achosion (fel arfer ddwywaith yr wythnos). Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth megis SOAD1 neu SOAD2, meddyginiaeth a/neu Therapi Electrogynhyrfol (ECT), p'un a yw'r claf yn gwrthod rhoi cydsyniad neu nad oes ganddo'r gallu i gydsynio, manylion y bwrdd iechyd a'r ysbyty ac unrhyw achosion o wrthdaro sydd wedi cael eu nodi.
  4. Dylai SOADs ymateb yn brydlon os gallant dderbyn unrhyw atgyfeiriadau. Os ydynt yn dymuno cynnal asesiadau rhithwir, dylent nodi hynny'n glir oherwydd fel arall, disgwylir y byddant yn gweld y claf wyneb yn wyneb.
  5. Dylai SOADs ddarllen y wybodaeth a gaiff ei lanlwytho i borth Objective Connect, cysylltu â'r ysbyty a threfnu ymweliad. 
  6. Bydd y SOAD am gyfweld â'r claf yn breifat os bydd hynny'n bosibl. Gall eraill fod yn bresennol os bydd y claf a'r SOAD yn cytuno ar hynny neu os credir y gallai'r claf beri risg sylweddol o niwed corfforol i'r SOAD neu eraill.
  7. Dylai'r SOAD ymgynghori â'r unigolyn sy'n gyfrifol am y driniaeth a rhaid iddo ymgynghori â dau ymgynghorai statudol. Dylai'r SOAD hefyd fod yn barod i ymgynghori ag ystod ehangach o bobl broffesiynol sy'n ymwneud â gofal y claf.  
  8. (A) Lle mae adrannau 57, 58 neu 58A yn berthnasol: Mae'n rhaid i un ymgynghorai statudol fod yn nyrs; ni chaiff y llall fod yn nyrs nac yn feddyg meddygol.

    (B) Lle mae adran 4A yn berthnasol: ni chaiff o leiaf un ymgynghorai statudol fod yn feddyg meddygol ac nid oes angen iddo fod yn nyrs. Ni chaiff y naill ymgynghorai neu'r llall fod y clinigydd sy'n gyfrifol am y driniaeth arfaethedig neu'r clinigydd cyfrifol.

    (C) Rhaid i'r ddau ymgynghorai fod wedi ymwneud yn broffesiynol â thriniaeth feddygol y claf.

        (D) Gall ymgyngoreion statudol gynnwys y canlynol: nyrs, fferyllydd, gweithiwr cymdeithasol, therapydd galwedigaethol, seicolegydd, therapydd celf neu seicotherapydd, neu unigolion eraill sydd â chofrestriad proffesiynol ac sy'n ymwneud â gofal y claf.

    9. Ar ôl cwblhau'r adolygiad a'r ymgyngoriadau, dylai'r SOAD gwblhau'r dystysgrif berthnasol, ei llofnodi a'i dyddio, a'i lanlwytho i Objective Connect.

  10. Dylai'r SOAD gwblhau ffurflen SOAD3 a'r ffioedd a'r ffurflen telerau ac amodau, yna eu lanlwytho i Objective Connect fel y gall staff gweinyddol dynnu'r cais oddi ar dudalen y SOAD a chyflwyno'r anfoneb i'r tîm cyllid.

   11. Disgwylir i'r SOAD gadw unrhyw nodiadau perthnasol a gymerwyd am bedair wythnos ac yna eu darnio'n ddiogel. 

Ymarfer ar gyfer meddyginiaeth ar ôl y 3 mis cyntaf

  • Rhaid nodi'n glir y mathau penodol o driniaeth y maent yn berthnasol iddynt.
  • Dylid rhestru'r holl gyffuriau perthnasol, gan gynnwys meddyginiaethau “yn ôl yr angen” a chyffuriau ar gyfer sgil-effeithiau, naill yn ôl eu henw neu'r dosbarthiadau a ddisgrifir yn Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain (BNF) neu Llyfr Fformiwlâu Cenedlaethol Prydain electronig (eBNF).
  • Os caiff cyffuriau eu nodi yn ôl dosbarth, dylai'r dystysgrif nodi'n glir nifer y cyffuriau a awdurdodir ym mhob dosbarth, a ph'un a oes unrhyw gyffuriau yn y dosbarth wedi'u heithrio.
  • Dylai'r dos uchaf a'r llwybr rhoi ar gyfer pob cyffur neu gategori o gyffuriau a gynigir gael eu nodi'n glir.
  • Dylai copi o'r dystysgrif gyfredol gael ei gadw gyda chofnod rhoi meddyginiaeth y claf ac yn nodiadau'r claf.

Y broses asesu

   1. Pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch gan y clinigydd cyfrifol/clinigydd cymeradwy sy'n gyfrifol am y driniaeth a'r ymgyngoreion ac o'r deunydd achos?

  • Beth yw'r fformiwleiddiad ar gyfer problemau'r claf ac a yw'r fformiwleiddiad yn gywir
  • Pa driniaeth mae'r claf yn ei chael ar hyn o bryd?
  • Pa gynllun triniaeth y gwneir cais amdano a beth yw'r rhesymeg dros y cynllun?
  • Pa driniaethau eraill (nad ydynt yn ffarmacolegol) sydd wedi cael eu hystyried?
  • Beth yw risgiau a manteision y driniaeth arfaethedig, gan gynnwys baich unrhyw sgil-effeithiau?
  • A yw'r driniaeth yn angenrheidiol yn feddygol? 
  • Beth yw barn y claf am y driniaeth, ac a yw'r farn hon wedi cael ei hystyried?
  • Beth yw barn y tîm ar alluedd? (Fel arfer, caiff y cais am SOAD ei gyflwyno yn dilyn asesiad o alluedd, ond gall fod gan aelodau gwahanol o'r tîm safbwyntiau gwahanol.)
  • Sut bydd y clinigydd cyfrifol yn gwybod bod y driniaeth wedi gweithio?

   2. Ffoniwch yr ysbyty cyn eich ymweliad i sicrhau NAD yw'r claf ar gyfnod o absenoldeb neu wedi symud ward neu ysbyty (Mae hyn yn digwydd yn rheolaidd.)

   3. Beth os bydd y claf yn gwrthod siarad â chi?

  • Mae'n arfer da gweld y claf neu gadarnhau'n uniongyrchol â'r claf ei fod yn gwrthod (Nid yw hyn bob amser yn bosibl wrth weithio o bell, felly mae angen disgrifiad da arnoch o ymateb y claf)
  •  Gallwch barhau â'r asesiad hyd yn oed os bydd y claf yn gwrthod cymryd rhan
  •  Mae'n dderbyniol peidio â gweld claf sydd â Gorchymyn Triniaeth Gymunedol ond dylid cynnig asesiad o hyd.
  • Dylai asesiadau cleifion gael eu cynnal yn breifat fel arfer, ond mae eithriadau yn berthnasol, er enghraifft:

      - e.e. mae'r claf yn agored i niwed ac yn dymuno gweld wyneb cyfarwydd.   

      - mae materion yn ymwneud â risg

  • Asesiadau anodd

    - Mae'r claf yn cael ei gadw ar wahân

    - Mae'r claf yn cael ei wahanu am gyfnod hirdymor

   4. Beth fyddwch chi'n chwilio amdano pan fyddwch yn cyfweld â'r claf? 

Rydym i gyd yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol, ond mae meysydd allweddol i'w harchwilio yn cynnwys:

  • Annog y claf i ymgysylltu â'r cyfweliad ac esbonio diben eich rhyngweithio. *           
  • Deall hanes ei gyswllt â gwasanaethau
  • Nodi pa symptomau sydd ganddo nawr
  • Archwilio pa sgil-effeithiau y mae'n eu cael o'i driniaeth
  • Asesu ei ddealltwriaeth o'i anhwylder meddyliol a'r driniaeth ar ei gyfer.
  • Nodi beth yw ei ddealltwriaeth, os o gwbl, o gynllun triniaeth y clinigydd cyfrifol ar gyfer y dyfodol?
  • Archwilio ei farn ar risg ganfyddedig.

Mae angen ichi hefyd wneud penderfyniad ynghylch angenrheidrwydd meddygol y cynllun arfaethedig a galluedd y claf.

Dylech ddiolch i'r claf am ei amser ar ddiwedd y cyfweliad. Peidiwch â sôn am eich casgliadau.

   5. Ysgrifennu Cynlluniau Triniaeth

  (A) Mae cynllun triniaeth SOAD yn nodi'r paramedrau ar gyfer triniaeth – nid yw hwn yn gyfarwyddyd i'r clinigydd cyfrifol/clinigydd cymeradwy sy'n gyfrifol am y driniaeth. Mae'n rhaid iddo fod yn ddealladwy i glinigwyr cyfrifol a nyrsys sy'n rhoi meddyginiaethau

  • Mae'n dderbyniol defnyddio BNF papur neu eBNF at ddibenion cyfeirio wrth gwblhau cynlluniau triniaeth. (Gall fod yn ddefnyddiol dyfynnu rhif cyfeirnod yr argraffiad os ydych yn defnyddio BNF papur).
  • Cofiwch fod y BNF yn newid dros amser yn yr un modd ag ymarfer clinigol. Er enghraifft, nodwch y pryderon cynyddol am valproate a'r canllawiau diogelwch diweddaraf.
  • Os caiff cyffuriau eu nodi yn ôl dosbarth, dylai'r dystysgrif nodi'n glir nifer y cyffuriau a awdurdodir ym mhob dosbarth, a ph'un a oes unrhyw gyffuriau yn y dosbarth hwnnw wedi'u heithrio. Dylai'r dos uchaf a'r llwybr rhoi ar gyfer pob cyffur neu gategori o gyffuriau a gynigir gael eu nodi'n glir. 

  (B) Gall y cynllun triniaeth fod yn gwbl benodol – nodi meddyginiaethau ardystiedig a dosau

  • Zuclopentixol decanoate hyd at 400 mg yr wythnos
  • Mianserin hyd at 30 mg y dydd

Cyffredinol, gan ganiatáu hyblygrwydd o fewn y BNF:

  • Un depot gwrthseicotig o fewn terfynau'r BNF  (neu hyd at 67% o derfynau'r BNF os ydych yn dewis)
  • Un gwrth-iselydd drwy'r geg o fewn terfynau'r BNF   (neu hyd at 67% o derfynau'r BNF os ydych yn dewis)

Cymysgedd o gynlluniau penodol a chyffredinol:

  • Un depot gwrthseicotig o fewn terfynau'r BNF
  • Un gwrth-iselydd drwy'r geg o fewn terfynau'r BNF
  • Yn ôl yr angen ar gyfer aflonyddwch 
  • Promethazine drwy'r geg neu'n fewngyhyrol (yn rheolaidd a/neu yn ôl yr angen): 25 mg – 50 mg, hyd at 100 mg o fewn 24 awr

   (C) Cynlluniau triniaeth – nodi terfynau'r BNF

Y prif bryder yw amlgyffuriaeth gwrthseicotig a thriniaeth â dosau uchel o gyffuriau gwrthseicotig. Cofiwch Ddatganiad Consensws y Coleg Brenhinol y Seiciatryddion neu unrhyw ganllawiau lleol sydd ar gael.

Caiff lefelau dosau eu cyfrifo gan ddefnyddio'r “dull canran”

  • Ar gyfer pob cyffur gwrthseicotig y gwneir cais amdano, beth yw'r ganran o uchafswm y BNF sy'n cael ei ddefnyddio?
  • Mae meddyginiaeth reolaidd ac yn ôl yr angen ill dwy yn cyfrif tuag at y terfyn o 100. Er enghraifft,
  • Zuclopentixol decanoate 600 mg yr wythnos = 100%
  • Olanzapine (drwy'r geg neu'n fewngyhyrol) ar gyfer tawelyddu 10 mg o fewn   
  • 24 awr = 50%     

Total = 150% of BNF limits, therefore high dosage

  • Ystyriwch fod yn benodol wrth awdurdodi meddyginiaeth yn ôl y gofyn. Un ffordd o eirio hyn yw:
  • Un depot/LAI (Meddyginiaeth Hirdymor drwy Chwistrell) gwrthseicotig o fewn terfynau'r BNF
  • Yn ôl yr angen ar gyfer aflonyddwch difrifol: olanzapine drwy'r geg neu'n fewngyhyrol hyd at 10 mg mewn 24 awr

(yn debygol o fod ochr yn ochr â meddyginiaethau eraill y gofynnwyd amdanynt)  

   (D) Sicrhau bod yr hyn rydych yn ei feddwl ac yn ei ysgrifennu yn digwydd

  • Cofiwch y gall CO3 bara am amser hir ac y gall clinigwyr cyfrifol newid – o rywun rydych yn ei adnabod yn dda i rywun cwbl newydd. Felly, dylai cynlluniau triniaeth fod yn glir ac yn benodol.
  • Defnyddiwch ddisgrifyddion testun y BNF, er enghraifft: “Un gwrth-iselydd drwy'r geg o fewn terfynau'r BNF.”
  • Gallwch fod yn fwy penodol os ydych yn dymuno, er enghraifft: “Un atalydd ailgydio serotonin dewisol drwy'r geg i drin symptomau obsesiynol.”
  • Yn aml, hoffech fod yn benodol wrth ardystio triniaethau atodol - er enghraifft atgyfnerthu aripiprazole mewn dosau isel i fynd i'r afael â hyperprolactinemia.
  • Gallwch bennu terfynau amser ar gyfer rhannau o'r driniaeth.
  • Dylid nodi unrhyw feddyginiaethau all-drwydded
  • Rydych yn cynghori y dylid monitro neu rydych yn nodi y caiff triniaeth ei rhoi yn unol â pholisi Rhagnodi Cyffuriau Gwrthseicotig Dos Uchel HDAT.

   (E) pan nad yw'r BNF yn ddefnyddiol

Nid yw'r BNF yn ymdrin â rhai triniaethau cyffredin, er enghraifft:

  • Clonazepam ar gyfer mania ac i reoli aflonyddwch ymddygiadol acíwt
  • Lorazepam a promethazine i dawelyddu

Argymhellir y dylid nodi'r rheswm, y llwybr rhoi, y cyffur a'r amrediad dos ardystiedig. Dylech ystyried gwneud hyn ar gyfer unrhyw driniaeth “all-drwydded”. 

Ardystio triniaethau gwrthseicotig i reoli problemau ymddygiadol sy'n gysylltiedig â dementia, anableddau dysgu/awtistiaeth, neu anhwylder personoliaeth

Argymhellir y dylid ystyried yn ofalus a yw'r driniaeth yn “angenrheidiol yn feddygol”. Os byddwch yn dod i'r casgliad ei bod yn angenrheidiol, mae'n ymddangos yn dderbyniol i gyfeirio at derfynau triniaethau gwrthseicotig cydnabyddedig y BNF.

Gallai fod yn briodol cyfyngu ar ddosau a nodi'r triniaethau gwrthseicotig a ddefnyddir (er enghraifft, risperidone am nifer o resymau a clozapine ar gyfer Anhwylder Personoliaeth Ansefydlog Emosiynol (EUPD)) ac mae hyn yn cyd-fynd â'r sail dystiolaeth.

Proses ardystio SOAD - Ysgrifennu rhesymau

Egwyddorion cyffredinol

Rhaid i'r rhesymau drafod “angenrheidrwydd meddygol” y driniaeth a gaiff ei hardystio ac, ar gyfer CO3 a CO6, yr asesiad o alluedd y claf

  • Ar gyfer CO3, os byddwch yn asesu bod gan yr unigolyn alluedd ond yn awdurdodi triniaeth, bydd angen ichi roi rhesymau cymhellol dros wneud hynny (gweler Jones 24ain argraffiad 1- 770 tud. 370.)
  • Nodwch yn glir pa dystiolaeth y gwnaethoch ei hystyried.
  • Ystyriwch gynnwys dyfyniadau uniongyrchol gan y claf.
  • Cofiwch gynnwys barn y claf ac esbonio os, a pham roeddech yn anghytuno.
  • Os oedd gwahaniaeth barn broffesiynol, esboniwch pam y gwnaethoch ddewis yr hyn a wnaethoch.
  •  
  • Mae'n ddefnyddiol cael strwythur ar gyfer eich rhesymau …
  • … ond mae'n bwysig nad yw'r rhesymau yn hollol fformiwläig neu'n gyffredinol a'u bod yn ymwneud â manylion penodol yr achos.
  • Gallwch ddatblygu eich ffordd eich hun o weithio.
  • Rydym yn bwriadu llunio canllawiau ar resymu sy'n nodi sut y caiff gwaith SOAD ei asesu a gweithredu fel ysgogiad defnyddiol 
  • Mae angen i resymau bwyso a mesur risgiau a manteision y driniaeth arfaethedig.
  • Peidiwch ag anghofio ystyried problemau iechyd corfforol perthnasol.

Agweddau penodol i'w cynnwys wrth ysgrifennu rhesymau

 1. Tystiolaeth o anhwylder meddyliol a'i ddifrifoldeb

  1. Dylai'r SOAD gofnodi diagnosis y clinigydd cyfrifol, gan gynnwys manylion digonol am hanes a derbyniadau blaenorol, yn ogystal â'r derbyniad presennol, i ddisgrifio anhwylder y claf yn yr adran Rhesymau.
  2. Dylai'r SOAD gofnodi nodweddion allweddol ymddygiad a chyflwr meddyliol y claf (o'r cyfweliad) neu annormaleddau perthnasol o'r cofnod clinigol yn yr adran Rhesymau.
  3. Dylai'r SOAD gofnodi effaith anhwylder meddyliol y claf ar ei ymddygiad a'i allu i fod yn aelod gweithredol o gymdeithas yn yr adran Rhesymau.               
  4. Dylai'r SOAD gofnodi hanes risg allweddol gan gynnwys niwed diweddar neu niwed blaenorol i bobl eraill, hunan-niwed, neu niwed i'r claf ei hun neu nodi nad oes hanes risg ar gael yn yr adran Rhesymau. 

 2. Cynllun Triniaeth y clinigydd cyfrifol a Thrafodaeth ag ymgyngoreion

  1. Dylai'r SOAD gofnodi'r drafodaeth ag ymgyngoreion yn yr adran Rhesymau.
  2. Dylai'r SOAD gofnodi'r cynllun triniaeth amlinellol ar adeg yr asesiad y mae'r clinigydd cyfrifol/clinigydd cymeradwy sy'n gyfrifol am driniaeth wedi gwneud cais amdano, yn yr adran Rhesymau.    

 3. Barn y claf ar y cynllun triniaeth

  1. Dylai'r SOAD gofnodi a gafodd y cyfweliad ei gynnal wyneb yn wyneb neu o bell.
  2. Dylai'r SOAD gofnodi barn y claf ar y driniaeth gyfredol neu'r driniaeth arfaethedig, gan gynnwys manteision posibl a sgil-effeithiau gwirioneddol neu bosibl, gan ddefnyddio dyfyniadau uniongyrchol pan fo hynny'n bosibl.     
  3. Os na fydd y claf yn siarad neu os na fydd yn fodlon cydweithredu, dylid dogfennu esboniad clir, ynghyd â'r ymdrechion a wnaed i gyfweld/trafod â'r claf. 

4. Cymeradwyo'r cynllun triniaeth

  1. A yw'r cynllun triniaeth, fel yr ardystiwyd, yn cynnwys rhesymeg glir yn yr adran Rhesymau gan gynnwys, lle bo angen, a oes dewisiadau amgen wedi cael eu hystyried?  
  2. Rhaid i'r SOAD roi rhesymau penodol dros gefnogi triniaethau gwrthseicotig uwchlaw terfynau'r BNF – boed hynny fel cyffur unigol neu'n gronnol (gan gynnwys meddyginiaeth yn ôl yr angen a meddyginiaethau depot).
  3. Rhaid i'r SOAD ddynodi a yw'r driniaeth a awdurdodir yn  “driniaeth briodol” ai peidio.     

O dan y Ddeddf ddiwygiedig, rhaid i SOADs sy'n cymeradwyo triniaeth ardystio “ei bod yn briodol rhoi'r driniaeth”. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r driniaeth fod 

  • “…yn briodol yn achos [y claf], gan ystyried natur a difrifoldeb yr anhwylder meddyliol sydd ganddo a holl amgylchiadau eraill ei achos; ac
  • “yn driniaeth a roddir er mwyn lliniaru'r anhwylder neu un neu fwy o'i symptomau neu arwyddion, neu eu hatal rhag gwaethygu.”  

Mae'r ffactorau i'w hystyried yn cynnwys:

  • Barn a dymuniadau'r claf o ran triniaeth 
  • Y rhagbenderfyniadau cymwys
  • Iechyd corfforol a sut mae hyn yn dylanwadu ar driniaeth
  • Anableddau (corfforol, synhwyraidd, meddyliol neu'n ymwneud â chyfathrebu)
  • Diwylliant, ethnigrwydd, oedran, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd a chredoau
  • Lleoliad y driniaeth sydd ar gael
  • Goblygiadau ar gyfer cydberthnasau teuluol a chymdeithasol 
  • Ystyriaethau o ran addysg, gwaith a chyflogaeth
  • Y canlyniadau os na fydd y claf yn cael triniaeth
  • Parodrwydd i dderbyn triniaeth 
  • Pryd y mae'n briodol rhoi'r ymyriad yn ystod cwrs o driniaeth

   d. Dylai'r SOAD nodi -wrth ystyried awdurdodi triniaeth heb gydsyniad - a yw'r driniaeth yn angenrheidiol o safbwynt meddygol a therapiwtig?

   e. Wrth ystyried awdurdodi triniaeth heb gydsyniad, dylai'r SOAD hefyd nodi a yw'r driniaeth er lles pennaf y claf. 

 5. Asesiad o alluedd

  1. Dylai'r SOAD gofnodi galluedd y claf yn glir. Dylai'r SOAD esbonio'r sail dros ei gasgliad ynghylch galluedd, gan roi rhesymau clir.  

Dylai hefyd ystyriwch gofnodi'n benodol pa bwyntiau penodol y mae'r claf yn eu methu yn yr asesiad o alluedd.

Anallu i wneud penderfyniadau

At ddibenion adran 2, nid yw unigolyn yn gallu gwneud penderfyniad drosto'i hun os nad yw'n gallu - 

  1. deall y wybodaeth sy'n berthnasol i'r penderfyniad,
  2. cofio'r wybodaeth honno,
  3. defnyddio neu bwyso a mesur y wybodaeth honno fel rhan o'r broses o wneud y penderfyniad, neu
  4. gyfleu ei benderfyniad (boed hynny ar lafar, gan ddefnyddio iaith arwyddion neu drwy unrhyw ddull arall).

Cyfreithlondeb Ardystiadau

Bydd angen i SOADs osgoi gwneud gwallau wrth gwblhau Ardystiadau, gan y gallant eu hannilysu. Er enghraifft:

  • Heb gofnodi ail ymgynghorai er bod angen un
  • Tystysgrif heb ei llofnodi
  • Tystysgrif heb ei dyddio neu ddyddiad anghywir
  • Defnyddio'r dystysgrif anghywir ar gyfer ECT neu feddyginiaeth
  • Methiant i ddileu cymalau galluedd nad ydynt yn gymwys
  • Defnyddio ymgynghorai nad yw'n broffesiynol
  • Trawsnodi enwau neu ddynodiadau yn y blychau anghywir

Gwrthdaro buddiannau

Er mwyn osgoi achosion o wrthdaro buddiannau:

  • Peidiwch â rhoi barn SOAD ar glaf pan fyddwch wedi eistedd ar Dribiwnlys ar ei gyfer ac i'r gwrthwyneb. Y rheol yw ddwy flynedd.  
  • Osgowch wneud unrhyw waith SOAD o fewn eich bwrdd iechyd eich hun - ac ar gyfer blwyddyn ar ôl ichi ei adael.
  • Osgowch gyn-gleifion bob amser. 
  • Mae'n amhosibl osgoi clinigwyr cyfrifol rydych yn eu hadnabod.  
  • Efallai yr hoffech osgoi cleifion eich partner.

Cwestiynau cyffredin gan weinyddwyr y Ddeddf Iechyd Meddwl a gweithwyr proffesiynol eraill

  1.  Awdurdodi meddyginiaethau---Dosbarth, llwybr, dos 
  • Rhaid nodi'n glir y mathau penodol o driniaeth y mae'r awdurdodiad yn berthnasol iddynt.
  • Dylid rhestru'r holl gyffuriau perthnasol, gan gynnwys meddyginiaethau “yn ôl yr angen” a rhai a ragnodir ar gyfer sgil-effeithiau, naill yn ôl eu henw neu'r dosbarthiadau a ddisgrifir yn y BNF neu'r eBNF.
  • Os caiff cyffuriau eu nodi yn ôl dosbarth, dylai'r Dystysgrif nodi'n glir nifer y cyffuriau a awdurdodir ym mhob dosbarth, a ph'un a oes unrhyw gyffuriau yn y dosbarth hwnnw wedi'u heithrio.
  • Dylai'r dos uchaf a'r llwybr rhoi ar gyfer pob cyffur neu gategori o gyffuriau a gynigir gael eu nodi'n glir.
  • Dylai copi o'r Dystysgrif gyfredol gael ei gadw gyda chofnod rhoi meddyginiaeth y claf ac yn nodiadau'r claf.

   2.  O safbwynt Clozapine - A oes angen cwblhau cais ac awdurdodiad SOAD yn ystod y tri mis cyntaf.

  • Nid oes angen awdurdodiad yn ystod y tri mis cyntaf. Mae Clozapine yn dilyn yr un gofynion â thriniaethau meddygol eraill.
  • Ar ôl tri mis, nid yw Clozapine a roddwyd yn fewngyhyrol wedi'i drwyddedu yn y DU, a dylid ei ddefnyddio yn unol â phrotocol darparwr lleol. Gellir ei ddefnyddio fel opsiwn yn ystod camau titradu cynnar cleifion ar clozapine a dim ond mesur byrdymor ydyw.
  • Mater i ddarparwyr yw datblygu protocol ar gyfer y defnydd o'r feddyginiaeth ddidrwydded (a chymharol gostus) hon. Yn gyffredinol, caiff y gwaith hwn ei arwain gan y Prif Fferyllydd a'r Cyfarwyddwr Meddygol. 
  • Ni fyddai darparwyr yn Lloegr fel arfer yn ystyried defnyddio clozapine mewngynhyrol o dan Adran 62; fodd bynnag, ni fyddai'n anghyfreithlon ar yr amod y gellid dangos y meini prawf ar gyfer anghenraid o dan Adran 62.

   3. Mae gennym glaf sydd wedi newid yr enw a nodir ar CO3 drwy Weithred Newid Enw. A oes angen inni lenwi Adroddiad 1 neu unrhyw ffurflenni adolygu o ganlyniad i hyn?

  • Nid yw newid cyfeiriad ar ôl CO3 yn annilysu'r ffurflen. Gan ddefnyddio'r un egwyddor, nid yw newid enw yn ei hannilysu chwaith.
  • Dylai'r staff sy'n ymwneud â hyn gofnodi'r newid enw drwy Weithred Newid Enw yn nodiadau achos y claf.
  • Nid oes angen newid yr enw ar CO3 oni bai ei bod yn bryd adnewyddu'r cyfnod cadw a bod yr awdurdod cadw yn defnyddio'r enw newydd ar bapurau cadw. Bryd hynny, byddai'n synhwyrol gwneud cais i SOAD.

Yn y pen draw, gall fod angen i'r bwrdd iechyd gael cyngor cyfreithiol ar y mathau hyn o ffurflenni.

   4. Ymholiad gan weinyddydd y Ddeddf Iechyd Meddwl-Nid yw'r ganolfan ECT o'r farn bod y SOAD wedi cynnwys digon o wybodaeth ar Ffurflen C06 i esbonio'r triniaethau. O'r hyn y gallaf ei gasglu, maent yn credu y dylai fod wedi crybwyll ‘ECT cynnal a chadw’. 

  • Nid oes gofyniad cyfreithiol i grybwyll ECT cynnal a chadw ond gall fod yn ddefnyddiol.

Mae'n bwysicach cofnodi nifer y triniaethau ECT. O safbwynt ymarferol, mae'n ddefnyddiol nodi'r triniaethau ECT a roddwyd, a'r rhai i'w rhoi cyn defnyddio'r ffurflen CO6 newydd. Mae hyn yn gyson ag arfer cyffredin o dan adran 62, lle y defnyddir yr ymadrodd “cynnwys triniaethau blaenorol o dan adran 62” yn aml.

   5. Cais am Valproate ar gyfer unigolyn o dan 55 oed

Gofynion Valproate yr MHRA - Darllenwch wybodaeth yr MHRA am Valproate.  

  • Os bydd Clinigydd Cyfrifol (RC) yn bwriadu defnyddio Valproate ar gyfer claf o dan 55 oed, mae'n rhaid iddo ofyn am ail farn leol. 
  • Ni ddylid defnyddio SOADs fel yr ail “arbenigwr annibynnol”. Os bydd y meddyg lleol sy'n rhoi ail farn yn cytuno â phenderfyniad y clinigydd cyfrifol, yna gall y clinigydd cyfrifol ofyn am asesiad SOAD (lle bo hynny'n gymwys, fel unrhyw feddyginiaethau eraill). 
  • Pan fydd SOAD yn trafod y cynllun triniaeth â'r clinigydd cyfrifol, dylai'r SOAD ofyn a yw gofynion yr MHRA wedi cael eu bodloni. 
  • Os bydd y SOAD yn awdurdodi Valproate, dylai nodi, fel amod, ar ffurflenni CO3 neu CO7, bod yn rhaid bodloni gofynion yr MHRA.

   6. Cyffuriau lleihau gorbryder - CO3

Mae clinigwyr cyfrifol wedi gofyn weithiau p'un a yw cofnod ar gyfer “cyffur lleihau gorbryder rheolaidd” yn cwmpasu meddyginiaethau eraill heblaw am Benzodiazepines a Buspirone (sydd wedi'u cynnwys yn llawn ym mhennod gorbryder y BNF), er enghraifft, gwrth-iselyddion neu Pregabalin. 

Yn y gorffennol, rydym wedi ystyried na fyddai hyn yn addas i gynnwys rhai o'r cyffuriau eraill fel gwrth-iselyddion a ragnodir ar gyfer gorbryder neu Pregabalin. 

Fodd bynnag, rydym nawr o'r farn ei bod yn rhesymol i SOAD ysgrifennu cofnod ar gyfer “cyffur lleihau gorbryder” rheolaidd gyda'r bwriad y dylai hwn gwmpasu unrhyw gyffur a drwyddedir ar gyfer gorbryder neu anhwylder gorbryder. 

Os hoffech awdurdodi mathau o feddyginiaeth neu gyffuriau penodol, nodwch hynny yn eich cofnodion gan wneud hynny mor glir â phosibl i'r clinigwyr cyfrifol. 

Os oes meddyginiaeth na hoffech ei hawdurdodi, dylech nodi hynny'n glir yn eich cofnodion hefyd. 

enghreifftiau o gofnodion CO3:

  • Fluoxetine (drwy'r geg, rheolaidd) all-drwydded ar gyfer gorbryder, hyd at uchafswm dos dyddiol o X mg y dydd
  • SSRI rheolaidd a gymerir drwy'r geg ar gyfer gorbryder, yn unol â chanllawiau dosau ac amlder y BNF lle caiff ei drwyddedu ar gyfer gorbryder; neu, os caiff SSRI ei ddefnyddio ar sail all-drwydded ar gyfer gorbryder, (ac mae'r SOAD yn dymuno awdurdodi hyn) yn unol â chanllawiau dosau ac amlder y BNF ar gyfer iselder (neu nodwch y terfynau priodol) 
  • Gwrth-iselydd wedi'i drwyddedu ar gyfer gorbryder, yn unol â chanllawiau dosau ac amlder y BNF ar gyfer y rheswm hwnnw
  • Os hoffech awdurdodi Pregabalin, nodwch fod y Pregabalin ar gyfer anhwylder gorbryder cyffredinol

   7. Mae'r claf yn gwrthod siarad â'r SOAD neu nid yw ar gael i gymryd rhan mewn cyfweliad. A ellir cyflwyno ffurflen CO3/CO7 o hyd? 

Mae'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn nodi bod swyddogaethau'r SOAD yn cynnwys cyfweld â'r claf, cynnal archwiliad meddygol ac edrych ar gofnodion meddygol. Fel arfer, byddai disgwyl i'r SOAD gyfweld â'r claf fel rhan o'i asesiad. 

Mae disgwyl i'r SOAD ymgynghori â'r claf oni bai ei bod yn anymarferol gwneud hynny. Mewn amgylchiadau o'r fath, gellir cyflwyno tystysgrif heb gynnal cyfweliad neu ymgynghoriad.  Mae'n arfer da i'r SOAD wneud pob ymdrech resymol i gyfweld â'r claf. 

Os na fydd claf mewnol ar gael, dylid trefnu asesiad arall. Os bydd y claf yn y gymuned, dylid trafod trefnu asesiad arall â'r clinigydd cyfrifol neu aelodau eraill o staff. Gallai hynny gyd-fynd â chyfarfod CPA, neu apwyntiad claf allanol, neu ymweliad yn y gymuned â CPN. 

Yr egwyddor yw na ddylai fod modd i glaf osgoi triniaeth am ei fod yn osgoi cymryd rhan mewn cyfweliad neu'n gwrthod siarad dro ar ôl tro. Mewn achos o'r fath, efallai y bydd yn rhaid i'r SOAD benderfynu a ddylid dychwelyd i gynnal asesiad arall neu p'un a yw'r seiliau clinigol dros gyflwyno'r CO3 yn ddigonol. Gall ffactorau gynnwys a oes brys i roi'r driniaeth (er enghraifft, ECT) a lefel yr aflonyddwch, fel cyflwr seicotig difrifol. 

I gwblhau CO3, mae'n rhaid i'r SOAD allu penderfynu ar y canlynol: 

  • Galluedd y claf
  • Y tebygolrwydd y bydd y driniaeth o fudd i'r claf
  • Ar gyfer ECT, a oes gan y claf alluedd i roi cydsyniad 

Yn ymarferol, efallai y gall y SOAD ddod i'r casgliadau angenrheidiol ar ôl adolygu'r nodiadau achos, trafod y claf â'r clinigydd cyfrifol, y ddau ymgynghorai statudol ac aelodau eraill o'r tîm gofal a all fod yn ymwybodol o farn y claf ar driniaeth. 

Os caiff tystysgrif ei chyflwyno heb gynnal cyfweliad â'r claf, rydym yn cynghori y dylai'r SOAD ystyried anfon llythyr neu adroddiad yn cofnodi amgylchiadau'r penderfyniad at y clinigydd cyfrifol, yn ogystal ag anfon y ffurflen CO3. Gallai hefyd fod yn briodol cyflwyno CO3 gyda therfyn amser, fel cynghori y dylid cynnal adolygiad ymhen blwyddyn neu o fewn ychydig fisoedd mewn rhai achosion (yn benodol mewn achosion o amlgyffuriaeth neu HDAT). 

   8. Beth fyddai'n cael ei ystyried yn wrthdaro buddiannau ar gyfer SOAD? 

Mae'n amhosibl rhagweld pob sefyllfa.

Yn gyffredinol, dylai SOADs osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau canfyddedig posibl. Os bydd posibilrwydd o hyn, dylid trefnu SOAD arall. Rhowch wybod i'r tîm gweinyddol os ydych o'r farn y gallai fod gwrthdaro buddiannau pan fyddwch yn cael cais am asesiad. 

Cawsom drafodaeth ddefnyddiol yn ddiweddar i ystyried manteision ac anfanteision ein canllawiau blaenorol. 

Gwnaethom gytuno ar y canlynol:

  • Os ydych wedi gweithio fel clinigydd cyfrifol y claf yn y gorffennol, ni ddylech weithio fel SOAD ar gyfer y claf am o leiaf ddwy flynedd. Ar ôl y cyfnod hwnnw, dylai'r claf gytuno y gallwch gynnal yr asesiad. 
  • Os ydych wedi newid byrddau iechyd yn ddiweddar, ni allwch dderbyn atgyfeiriadau gan eich bwrdd iechyd blaenorol am flwyddyn.
  • Os mai chi oedd aelod meddygol y tribiwnlys ar gyfer Gorchymyn Triniaeth Gymunedol cyfredol, ni ddylech weithio fel SOAD ar gyfer y claf dan sylw.
  • Os bydd SOAD yn dod yn glinigydd cyfrifol yn nes ymlaen (er enghraifft, am fod gwasanaethau wedi cael eu had-drefnu, am ei fod wedi newid swydd neu am fod y claf wedi symud i ardal arall) dylid trefnu barn SOAD newydd cyn gynted â phosibl.
  •  Ni chaiff seiciatryddion sy'n gweithio yn y sector preifat asesu cleifion yn eu hysbyty eu hunain nac unrhyw gyfleuster cysylltiedig sy'n eiddo i'r un cwmni.
  •  Mae problemau'n codi weithiau o ran asesiadau SOAD dilynol ar gyfer claf unigol. Er y gallai fod yn briodol i'r un SOAD gynnal asesiad pellach pan fo angen CO3 newydd, AGIC ddylai drefnu hyn. Gall clinigydd cyfrifol neu fwrdd iechyd ofyn am yr un SOAD, ond AGIC sy'n gwneud y penderfyniad terfynol
  • Dylai SOADs wrthod asesiadau os oes unrhyw wrthdaro buddiannau canfyddedig arall posibl (e.e. perthnasau neu ffrindiau personol agos). Os bydd gennych unrhyw amheuon, trafodwch y mater â'r SOAD Arweiniol neu'r Tîm Gweinyddol.

   9. Pa waith papur sydd ei angen os na chaiff y cynllun triniaeth ei gymeradwyo? 

Mae rhai SOADs wedi bod yn ansicr ynghylch a ddylent gyflwyno CO3 os nad ydynt yn cymeradwyo triniaeth. CO3 yw tystysgrif gydsynio'r SOAD ac felly ni ddylid ei chwblhau os ydych yn credu bod y driniaeth yn amhriodol neu os nad yw'n cael ei chynnig mwyach am unrhyw reswm. Yn lle hynny, dylid anfon llythyr byr yn amlinellu eich sefyllfa at y clinigydd cyfrifol. Dylid hefyd gyflwyno copi i AGIC hefyd drwy OC.

Mae bob amser yn ddefnyddiol cael trafodaeth adeiladol â'r clinigydd cyfrifol i weld a oes modd i bawb gytuno. Mae hefyd yn ddefnyddiol gofyn am gyngor gan y SOAD Arweiniol lle bo hynny'n briodol. Gall SOAD ddewis peidio â chyflwyno'r CO3 a chysylltu ag AGIC i gael rhagor o gyngor. Mae modd argymell hefyd y dylai SOAD arall â phrofiad arbenigol weld y claf. 

Mae SOADs weithiau yn cyflwyno CO3 â therfyn amser (er enghraifft, chwe mis) a/neu'n nodi cam gweithredu e.e. cael barn fferyllydd. Cofiwch, os bydd hyn yn rhan o'ch awdurdodiad, rhaid cynnwys hynny yn y disgrifiad o'r driniaeth ar y ffurflen CO3 ei hun, a chyfrifoldeb y clinigydd cyfrifol ydyw i wneud cais am yr ymweliad nesaf gan SOAD.

   10. Beth yw statws CO2 blaenorol pan gaiff ffurflen CO3 ei chyflwyno? 

Mae'n gyfreithlon cael CO2 a CO3 ar waith ar yr un pryd ar gyfer meddyginiaethau gwahanol. Yng Nghymru, nid ydym yn argymell hyn ond rydym yn derbyn ei fod yn ganiataol yn gyfreithlon.

Os caiff ffurflen CO3 ei chyflwyno, mae'n dirymu unrhyw CO2 blaenorol ar gyfer yr un meddyginiaethau. Byddem hefyd yn cynghori trafod â'r clinigydd cyfrifol a ddylai unrhyw rai o'r meddyginiaethau sy'n weddill gael eu cynnwys ar y CO3 neu a oes gan y claf alluedd o hyd i gydsynio i rai eitemau. 

Os caiff meddyginiaeth a oedd wedi'i rhestru ar CO2 yn flaenorol ei hychwanegu at CO3, dylai'r SOAD hysbysu'r clinigydd cyfrifol bod angen y CO2 newydd (neu gall y SOAD gyflwyno un ar yr un pryd â'r CO3). At hynny, gall y SOAD benderfynu, ar ôl trafod â'r clinigydd cyfrifol, y dylid cynnwys yr holl feddyginiaethau ar y CO3. Yn y pen draw, penderfyniad y SOAD yw hwn. 

Ni fydd ffurflenni CO2 neu CO3 yn ddilys pan na fydd claf yn cael triniaeth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl mwyach.

   11. A oes angen i SOADs awdurdodi meddyginiaeth yn benodol fel meddyginiaeth gudd, mewn achosion pan gaiff ei ddefnyddio'n gudd?

  • NID mater i'r SOAD yw hwn (Ond mae'n fater pwysig i'r Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl)
  • Ni ddylid gwneud sylwadau ar feddyginiaeth “gudd” yn y cynllun triniaeth ardystiedig
  • Yn lle hynny, gallwch gynnwys geiriad yn yr adran Rhesymau sy'n debyg i'r canlynol:

“Nodaf y cynigir rhoi meddyginiaeth yn gudd, bydd angen dilyn polisïau a gweithdrefnau priodol” –

Yna mater i'r clinigydd cyfrifol fydd penderfynu beth i'w ddweud wrth y claf. 

Cwestiynau cyffredin gan SOADs: presgripsiynu all-drwydded, CO3 a materion eraill sy'n ymwneud â meddyginiaethau

   C1. Sut dylai SOAD ymateb i gais i gymeradwyo defnydd didrwydded o feddyginiaeth drwyddedig (rhagnodi all-drwydded)? 

Mae'r mater hwn wedi cael ei godi gan nifer o SOADs a bwriedir i'r canlynol roi canllaw cyffredinol. 

Mae llawer o'r triniaethau a ddefnyddir mewn ymarfer seiciatreg yn rheolaidd yn feddyginiaethau trwyddedig a ddefnyddir at ddibenion didrwydded. Mae SOADs hefyd wedi gofyn am ganllawiau ar sut i ystyried ceisiadau i gymeradwyo triniaethau newydd neu ‘gyfuniadau didrwydded’ efallai nad ydynt yn gyfarwydd â nhw. 

egwyddorion cyffredinol:

  • •    ni ddylai unrhyw SOAD deimlo bod rhwymedigaeth arno i gymeradwyo triniaeth sydd y tu hwnt i'w arbenigedd. Pe bai'r driniaeth y tu hwnt i'ch arbenigedd neu'ch profiad, dylid dychwelyd yr atgyfeiriad at AGIC fel y gellir ei ddyrannu i SOAD arall. 
    •    Pan ystyried rheswm didrwydded, dylai SOADs gyfeirio at gyhoeddiad Coleg Brenhinol y Seiciatryddion CR210 - Use of Licensed Medicines for Unlicensed Applications in Psychiatric Practice (2il argraffiad, 2017). 
    •    Os ceir tystiolaeth o gefnogi effeithiolrwydd y driniaeth arfaethedig ac os bydd y SOAD yn cytuno â'r rhesymeg glinigol, yna gellir cyflwyno Ffurflen CO3. Ar gyfer triniaethau gwrthseicotig dos uchel, gellir cyfeirio at Ddatganiad Consensws Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar Feddyginiaethau Gwrthseicotig Dos Uchel (CR190, Mai 2014). 
    •    Gallai SOADs gyfeirio hefyd at ganllawiau neu brotocolau lleol eraill yn y cynllun triniaeth a awdurdodir ar y CO3. 
    •    Dylai SOADs ystyried yn ofalus yr hyn a gofnodir yng nghynllun triniaeth CO3. Lle mae SOAD yn cymeradwyo defnyddio meddyginiaeth am reswm nad yw wedi'i thrwyddedu ar ei gyfer, dylai: 
    •    nodi'r rheswm penodol a nodi'n glir nad yw'r defnydd wedi'i drwyddedu. 
    •    nodi'r dos a awdurdodwyd, gan gynnwys dosau unigol, y cyfnodau rhwng dosau (lle bo hynny'n briodol), a'r uchafswm dos dyddiol bob amser.
    •    Os oes terfyn amser ar gymeradwyo, nodwch hynny'n glir, ynghyd ag unrhyw adolygiadau sydd eu hangen cyn parhau â'r driniaeth.
    •     neu nodi prosesau monitro ar gyfer iechyd corfforol, fel profion gwaed. Gellid argymell bod opsiynau o ran meddyginiaeth yn cael eu hadolygu gan fferyllydd clinigol â phrofiad ym maes iechyd meddwl. Os bydd y feddyginiaeth yn cynnwys therapi cyfunol, gellid, er enghraifft, gyfeirio at ganllawiau uchel eu parch, fel Canllawiau Rhagnodi Maudsley ar amrediadau dosau. Fel arall, gellid cynnwys cyfeiriad penodol at y llenyddiaeth yn y cynllun triniaeth ar Ffurflen CO3. Mae enghreifftiau yn cynnwys defnyddio meddyginiaethau gwrthseicotig eraill i atgyfnerthu Clozapine.

Y clinigydd cyfrifol sy'n atgyfeirio sy'n gyfrifol am sicrhau bod copi o unrhyw lenyddiaeth neu gyfeiriadau ar gael i'r SOAD eu gweld a bod rhesymeg glir dros ddefnyddio'r feddyginiaeth wedi'i chofnodi yn y nodiadau achos. 

Mae SOADs wedi cael ceisiadau i gydsynio i driniaethau sydd heb eu profi yn eu barn nhw ac roedd ganddynt amheuon ynghylch a ddylid eu cynnwys ar ffurflen CO3. Ar y naill law, mae pryder bod amrywiaeth eang o gynhyrchion yn cael eu cynnwys yn amhriodol ar Ffurflen CO3 a'u bod yn cael dilysrwydd fel triniaethau er nad ydynt yn ddilys o bosibl mewn gwirionedd. Ar y llaw arall, mae rhan o'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn cyfeirio at unrhyw feddyginiaeth sy'n cael ei “rhoi fel triniaeth ar gyfer Anhwylder Meddyliol neu am fod gan y claf anhwylder meddyliol” ac a ddylai, felly, gael ei chynnwys os bwriedir i'r driniaeth gael ei defnyddio at y diben hwn. Os oes unrhyw amheuaeth, mae'n fwy diogel, yn ôl pob tebyg, i ychwanegu meddyginiaeth at gynllun triniaeth. Wrth i'r dystiolaeth ddatblygu, gall y cyngor mewn perthynas ag unrhyw feddyginiaeth newid, felly, dros amser. Dim ond canllaw cyffredinol yw hwn ac mae croeso i SOADs gysylltu ag AGIC i drafod sefyllfaoedd penodol. Rydym yn croesawu adborth fel y gallwn ddatblygu'r canllawiau hyn ymhellach.

Gallai fod yn ddefnyddiol darllen:

  • Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, Use of licensed medicines for unlicensed applications in psychiatric practice (2il argraffiad) (CR210, Rhagfyr 2017)
  • GMC, Prescribing unlicensed medicines – ethical guidance
  • Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, Datganiad consensws ar feddyginiaeth gwrthseicotig dos uchel (CR190, Mai 2014)

   C2. A ddylai triniaethau ar gyfer dibyniaeth ar gyffuriau a/neu alcohol gael eu cynnwys ar CO3? 

Am driniaethau ar gyfer dibyniaeth ar gyffuriau fel methadon, neu ar gyfer alcohol fel Antabuse, y cawn ein holi fwyaf. Mae'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn nodi nad yw dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, neu ddefnydd o alcohol o gyffuriau yn unig yn golygu bod gan berson anhwylder meddyliol. 

Weithiau, gall fod yn briodol cynnwys hyn ar dystysgrif CO3 os yw'n ffurfio rhan o'r cynllun triniaeth cyffredinol ar gyfer seicosis a achoswyd gan gyffuriau. Fodd bynnag, yn gyffredinol, am nad yw dibyniaeth ar gyffuriau wedi'i chynnwys fel anhwylder meddyliol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, ni fyddai'n briodol cynnwys triniaeth ar gyfer dibyniaeth ar gyffuriau yn unig ar ffurflen CO3. 

Os oes unrhyw amheuaeth, holwch un o'r uwch-feddygon SOAD neu'r SOAD Arweiniol.

   C3. A ddylai meddyginiaeth ar gyfer Problemau Iechyd Corfforol a Sgil-effeithiau gael ei chynnwys ar CO3? 

Gall y rhan fwyaf o feddyginiaethau ar gyfer sgil-effeithiau corfforol meddyginiaeth seicotropig (e.e. Procyclidine neu Kwells) gael eu rhagnodi ar ffurflenni CO3. Pan fydd claf yn datblygu sgil-effeithiau o ganlyniad i feddyginiaeth seiciatrig ac yn gwrthod y feddyginiaeth a fwriadwyd i liniaru'r sgil-effeithiau hynny er mwyn atal y driniaeth ar gyfer anhwylder meddyliol rhag cael ei rhoi, bydd y feddyginiaeth i leihau'r sgil-effeithiau yn dod yn rhan hanfodol o'r driniaeth ar gyfer yr anhwylder meddyliol ac, felly, gellir ei nodi ar y ffurflen CO3. 

Fodd bynnag, ni fyddai meddyginiaethau ar gyfer iechyd corfforol, fel meddyginiaethau diabetig rheolaidd a hormon thyroid yn cael eu cynnwys ar CO3 fel arfer. 

Bydd achosion yn codi bob amser lle mae ansicrwydd ynghylch a ddylid cynnwys meddyginiaeth ar y ffurflen CO3, e.e. Propranolol, y gellir ei ddefnyddio ar gyfer pwysedd gwaed uchel a gorbryder. Mewn achosion o'r fath, dylid penderfynu pa un yw'r prif ddiben. Os bydd amheuaeth, dylid cynnwys y feddyginiaeth ar y ffurflen CO3.

   C4. A ddylid cynnwys olew pysgod (omega-3) ar T3B? 

Os bydd y clinigydd cyfrifol yn defnyddio olew pysgod fel triniaeth atodol ar gyfer sgitsoffrenia, yna gellir ei ystyried yn driniaeth ar gyfer anhwylder meddyliol a gellir ei gynnwys yn CO3. Os caiff ei gymryd fel atchwanegiad deietegol, yna nid oes angen ei gynnwys. Byddai ffurflen CO2 yn cael ei llenwi os oes gan y claf alluedd a'i fod yn cydsynio. Fodd bynnag, os bydd y claf yn cydsynio, ni fyddem o'r farn ei fod yn achos difrifol o dorri'r ddeddfwriaeth os na chaiff ei gynnwys ar gynllun triniaeth CO2, gan mai dim ond atchwynegiad dietegol ydyw.

   C5. A ddylid cynnwys cynnyrch homeopathig a llysieuol anfferyllol ar CO3? 

Mae SOADs wedi holi am hyn ac mae rhai clinigwyr cyfrifol yn teimlo bod perthnasau wedi rhoi pwysau arnynt i gynnwys y rhain ar gynllun triniaeth ar gyfer CO3. Yn gyffredinol, nid oes sail dystiolaeth dros ddefnyddio'r math hwn o feddyginiaeth ar gyfer anhwylder meddyliol ac nid yw'n briodol ei chynnwys ar ffurflen CO3 ar gyfer cleifion na allant roi cydsyniad neu nad ydynt yn rhoi cydsyniad. 

Os hoffai claf gynnwys cynhyrchion o'r fath ar ei ffurflen CO2, ni fyddem yn gwrthwynebu ond nid ydym o'r farn bod angen gwneud hynny. Gallai fod yn briodol cynnwys eurinllys, am fod rhywfaint o dystiolaeth o adolygiad Cochrane. Fodd bynnag, dylai SOADs wybod bod y BNF yn cynghori na ddylai gael ei argymell na'i ragnodi ar gyfer iselder, am y gall ysgogi ensymau sy'n metaboleiddio cyffuriau, ac mae nifer o ryngweithiadau wedi cael eu nodi. 

Credwn y dylai SOADs gymryd gofal os byddant yn cael cais i gynnwys eitemau ar ffurflenni CO2 neu CO3 i roi dilysrwydd i driniaethau amhriodol, amgen neu gyflenwol nad oes sail dystiolaeth ar eu cyfer (ac/neu nad oes ganddynt arbenigedd yn eu cylch), neu fel dull o gael cyllid gan ysbytai ar gyfer cynnyrch anfferyllol sydd ar gael dros y cownter. 

Os bydd claf yn defnyddio cynnyrch homeopathig anfferyllol yn barod, gallai fod yn briodol ei gynnwys ar dystysgrif CO2 os yw'r claf wedi dewis cymryd y feddyginiaeth hon o'r blaen a'i fod yn cael therapi sefydledig. Byddai gennym bryderon ynghylch dechrau cynhyrchion o'r fath ar gais partïon eraill fel perthnasau. Fodd bynnag, nid ydym o'r farn y gellir ei ystyried yn driniaeth ar gyfer anhwylder meddyliol ac, felly, ni ddylid ei gynnwys ar CO3.

   C6. A ddylai meddyginiaeth ar gyfer ADHD gael ei chynnwys ar T3B?

 Mae ADHD yn debygol o fod yn ddiagnosis cydafiachedd ac, yn y sefyllfa hon, dylai pob meddyginiaeth seicotropig gael ei chynnwys ar ffurflen CO3 neu CO2. Noder bod gan rai oedolion feddyginiaethau penodol ar gyfer ADHD â rhesymau didrwydded.

   C7. Meddyginiaethau eraill 

Clonazepam: Pe bai'n cael ei ddefnyddio fel cyffur lleihau gorbryder, byddai hyn yn rheswm didrwydded. 

Melatonin: Caiff ei drwyddedu ar gyfer defnydd byrdymor ymhlith oedolion dros 55 oed ar gyfer insomnia. 

Rhaid i'r SOAD lunio barn glinigol ynghylch a yw'r feddyginiaeth cael ei defnyddio fel triniaeth ar gyfer yr anhwylder meddyliol. Dylid cofnodi hyn yn glir.

   C8. Materion yn ymwneud â chyffuriau sefydlogi hwyliau   

Gellir ystyried bod geiriad sampl o gofnod cyffredinol yn CO3 sy'n cwmpasu unrhyw gyffur sefydlogi hwyliau a gymerir drwy'r geg yn awdurdodi unrhyw un o'r 4 meddyginiaeth ganlynol:

 “Un cyffur sefydlogi hwyliau a gymerir drwy'r geg a roddir yn rheolaidd (sy'n cwmpasu un o blith Lithiwm, sodiwm valproate, asid valproic (cymysgeddau fel Depakote), Lamotrigine neu Carbamazepine) a roddir yn unol â chanllawiau dosau ac amlder y BNF.” 

Os bydd y claf yn fenyw o oedran geni plant, yna dylech ychwanegu'r frawddeg: 

“Os caiff sodiwm valproate neu asid valproic eu rhagnodi, yna dylid eu rhagnodi ar y cyd â rhagofalon ychwanegol y Rhaglen Atal Beichiogrwydd.” 

Gallai fod yn briodol enwi cyffuriau sefydlogi hwyliau yn unigol os byddwch yn dymuno gwneud hynny. Er enghraifft, er mwyn eithrio valproate ar gyfer menywod o oedran geni plant. Sicrhewch eich bod hefyd yn gyfarwydd â'r canllawiau diweddaraf ar y defnydd o valproate ar gyfer dynion. 

Mae'n arfer gorau crybwyll profion gwaed ar gyfer lithiwm ond nid yw hyn yn hanfodol. (Yn wahanol i brofion gwaed Clozapine y mae'n rhaid eu nodi ar CO3.)

   C9. Beth yw cyngor y Comisiwn ar Midazolam at ddibenion tawelyddu brys? 

Mae hyn wedi bod yn berthnasol ym maes seiciatreg o ganlyniad i brosesau gweithgynhyrchu ysbeidiol a phroblemau'n ymwneud â chyflenwad Lorazepam mewngyhyrol ers 2011. Rydym yn cynghori SOADs i barhau i drafod y gofynion ar gyfer meddyginiaeth ‘yn ôl yr angen’ yn fanwl â'r clinigydd cyfrifol. Dylid ystyried a fyddai Lorazepam drwy'r geg yn unig yn ddigonol i'r claf. 

Mae Midazolam wedi'i restru yn adran statws epilepticws y BNF ac nid yw wedi'i drwyddedu i reoli ymddygiad aflonydd neu dreisgar acíwt. Dylai'r cofnod yng nghynllun triniaeth CO3 ar gyfer Midazolam mewngyhyrol gofnodi'r rheswm (tawelyddu'n gyflym) a nodi'n glir y ffaith mai defnydd didrwydded o Midazolam yw hwn. Dim ond pan na fydd cyflenwadau o Lorazepam mewngyhyrol ar gael y bydd hyn ar gael i'w ddefnyddio. Os bydd hyn yn digwydd, dylid hefyd nodi hyn yn y cofnod. 

Dylai'r SOAD nodi'n glir yng nghofnod cynllun triniaeth CO3 y dos y mae'n ei awdurdodi (gan nad oes amrediad dosau yn y BNF ar gyfer y rheswm hwn). Dylai'r daflen rhagnodi meddyginiaeth/rhagnodi electronig gael ei hysgrifennu i sicrhau na fydd yn bosibl i Lorazepam mewngyhyrol a Midazolam mewngyhyrol gael eu rhoi i'r claf gyda'i gilydd. Hynny yw, dylid cofnodi’n glir mai dim ond pan na fydd Lorazepam mewngyhyrol ar gael y dylid defnyddio Midazolam mewngyhyrol. 

Mae rhai SOADs wedi codi pryderon am daflenni rhagnodi a allai ei gwneud yn bosibl i nyrsys dibrofiad roi'r ddwy feddyginiaeth. 

Geiriad sampl ar gyfer Midazolam mewngyhyrol ar CO3: 

  • “Gall Midazolam mewngyhyrol gael ei ddefnyddio fel triniaeth amgen i Lorazepam mewngyhyrol os na fydd Lorazepam mewngyhyrol ar gael (defnydd didrwydded o Midazolam).” 
  • “Midazolam mewngyhyrol yn ôl yr angen ar gyfer aflonyddwch difrifol, dim mwy na X mg fesul dos, bwlch lleiaf rhwng dosau o Y awr, hyd at uchafswm dos o Z mg fesul 24 awr.” 

Byddai'n arfer da cyfeirio at unrhyw ganllawiau neu brotocolau lleol ar gyfer defnyddio Midazolam ar y ffurflen CO3, fodd bynnag, dylai'r dosau a awdurdodir gael eu nodi'n benodol o hyd ar y ffurflen.

   C10. Sut y dylid geirio cofnodion CO3 ar gyfer Promethazine ‘yn ôl yr angen’?  

Caiff Promethazine hydroclorid ei drwyddedu at ddibenion “tawelyddu (defnydd byrdymor)”. Mae'n ymddangos mai dosau unigol sydd wedi eu rhestru yn y BNF ac ni cheir gwybodaeth ychwanegol am fylchau rhwng dosau nac uchafswm dosau dyddiol. Cwblhewch y cofnod CO3 gan nodi Promethazine hydroclorid (i wahaniaethu rhwng Promethazine teoclate). 

Geiriad enghreifftiol: 

  • “Promethazine hydroclorid drwy'r geg ‘yn ôl yr angen’ ar gyfer aflonyddwch, uchafswm dos unigol XX mg, amlder lleiaf bob XX awr, hyd at uchafswm o XX mg y dydd (ni ddylai cyfanswm y dos ar y cyd â Promethazine mewngyhyrol ‘yn ôl yr angen’ fod yn fwy na XX mg y dydd).” 
  • “Promethazine hydroclorid mewngyhyrol ‘yn ôl yr angen’ ar gyfer aflonyddwch difrifol, uchafswm dos unigol a mg, amlder lleiaf bob b awr, hyd at uchafswm o c mg y dydd (ni ddylai cyfanswm y dos ar y cyd â Promethazine drwy'r geg ‘yn ôl yr angen’ fod yn fwy na X mg y dydd).” 

Tystysgrifau SOAD

CO1Triniaeth beryglus
CO2Cydsyniad i feddyginiaeth
CO3Meddyginiaeth SOAD
CO4Cydsyniad i ECT
CO5Cydsyniad i ECT o dan 18 oed
CO6ECT - diffyg galluedd
CO7Triniaeth briodol (CTO)
CO8Triniaeth briodol (cydsynio)

Penodau Triniaeth a Rheoli Cod Ymarfer Deddf Iechyd Meddwl 1983

  • Pennod 23 Triniaeth Feddygol Briodol
  • Pennod 24 Triniaeth Feddygol
  • Pennod 25 Triniaeth sy'n ddarostyngedig i reolau a gweithdrefnau arbennig
  • Pennod 26 Ymatebion diogel a therapiwtig i ymddygiad heriol