Neidio i'r prif gynnwy

Y Gymraeg mewn arolygiadau gofal iechyd: Gwybodaeth a chynnydd

Sut mae ein harolygiadau gofal iechyd yn ystyried y Gymraeg, gan gefnogi pobl i gael gofal yn eu dewis iaith. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i strategaeth Mwy na Geiriau Llywodraeth Cymru ac i gyflawni'r Cynnig Rhagweithiol yn ymarferol.

Y Gymraeg mewn arolygiadau gofal iechyd

Helpu i gyflawni Cynllun Gweithredu Mwy na Geiriau

Mae gan AGIC rôl uniongyrchol yn helpu i gyflawni dau gam gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Mwy na Geiriau, sef:

  • Cam Gweithredu 10 : Ystyried y canllawiau cynllunio gweithlu ar gyfer yr iaith Gymraeg yn ein gwaith.
  • Cam Gweithredu 38: Sicrhau bod y cynnig rhagweithiol yn cael ei ymgorffori yn ein gweithgarwch arolygu a chyfeirio sefydliadau sy'n tanberfformio at gefnogaeth a chyngor priodol.

Yr hyn y mae AGIC wedi'i wneud i gefnogi canllawiau cynllunio gweithlu ar gyfer yr iaith Gymraeg

Rydym wedi integreiddio ystyriaethau cynllunio gweithlu ar gyfer yr iaith Gymraeg i'n methodoleg arolygu. Mae hyn yn cynnwys cronfa o gwestiynau sydd wedi'u cynnwys ym mhob llyfr gwaith arolygu, sy'n ymdrin â sgiliau Cymraeg, anghenion cyfathrebu a hygyrchedd. 

Mae cwestiynau'r arolygiad yn cynnwys:

  • Oes modd adnabod staff sy'n siarad Cymraeg?
  • Ydy'r staff yn cael eu helpu i ddatblygu sgiliau Cymraeg?
  • Ydy'r broses ar gyfer cynllunio'r gweithlu yn ystyried anghenion Cymraeg yn y gwasanaeth?

Sut mae AGIC yn asesu'r Cynnig Rhagweithiol

Rydym yn adolygu arferion cyfathrebu, arwyddion, deunyddiau a dulliau adnabod staff dwyieithog fel mater o drefn. Rydym hefyd yn gwirio a yw gwasanaethau yn gofyn beth yw dewis iaith y cleifion ac yn ei gofnodi, sy'n wendid sy'n codi'n rheolaidd.

Mae cwestiynau'r arolygiad yn cynnwys:

  • Sut caiff dewis iaith ei gadarnhau?
    • Oes gwybodaeth ysgrifenedig ar gael yn ddwyieithog? 
    • Ydy'r Cynnig Rhagweithiol yn weladwy ac yn rhagweithiol? 
    • A oes modd i gleifion adnabod siaradwyr Cymraeg? 
    • A gaiff gwasanaethau cyfieithu/dehongli eu defnyddio mewn modd priodol?

Mae ein canfyddiadau yn bwydo i mewn i argymhellion ffurfiol a gwaith monitro dilynol.

Themâu allweddol wrth arolygu ysbytai

Arfer Da:

Nododd arolygwyr fod staff yn gofyn i gleifion nodi eu dewis iaith fel mater o drefn, sy'n helpu i gefnogi gofal mwy personol. Roedd y staff yn hyderus yn defnyddio'r Gymraeg, ac roedd ei defnyddio fel rhan o'r drefn ryngweithio o ddydd i ddydd yn cyfrannu at brofiad mwy cadarnhaol i gleifion.

Roedd y broses gyfathrebu yn gyson barchus a chynhwysol, gyda'r Gymraeg yn cael ei defnyddio'n briodol rhwng staff a chleifion. Roedd deunyddiau gwybodaeth dwyieithog hefyd ar gael, a oedd yn sicrhau y gallai cleifion gael gwybodaeth bwysig yn eu dewis iaith.

Meysydd i'w gwella:

Prin oedd y dystiolaeth o brosesau sicrwydd a goruchwylio lefel uwch mewn perthynas â'r ddarpariaeth Gymraeg, sy'n awgrymu bod angen atgyfnerthu'r trefniadau llywodraethu. Nid oedd cymorth Cymraeg ar gael yn gyson, ac roedd diffyg systemau a phrosesau clir i sicrhau bod dull safonol ar waith.

At hynny, nid oedd ciwiau gweledol, cymhorthion cyfathrebu nac adnoddau ar gyfer adnabod unigolion, fel bathodynnau Iaith Gwaith, yn cael eu defnyddio'n gyson neu o gwbl, a oedd yn ei gwneud hi'n anodd adnabod staff a oedd yn siarad Cymraeg. Hefyd, nifer cyfyngedig o staff oedd yn siarad Cymraeg, ac nid oedd y Cynnig Rhagweithiol yn cael ei roi ar waith fel mater o drefn. Yn gyffredinol, mae angen rhoi systemau cliriach a mwy cadarn ar waith i nodi a chefnogi anghenion iaith cleifion, gan gynnwys gwella'r broses o nodi dewis iaith adeg derbyn cleifion, mynediad gwell at wasanaethau dehongli, a phrosesau cryfach ar gyfer datblygu'r gweithlu er mwyn cefnogi sgiliau Cymraeg ac ymgorffori'r Cynnig Rhagweithiol.

Themâu allweddol wrth arolygu gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu

Arfer Da:

Roedd yn hawdd adnabod staff a oedd yn siarad Cymraeg gan eu bod yn gwisgo laniardiau Iaith Gwaith, ac roedd gwybodaeth ddwyieithog ar gael bob amser i gefnogi cleifion. Roedd gwasanaethau cyfieithu hefyd yn cael eu defnyddio lle bo angen, gan sicrhau y gallai cleifion gael gofal yn eu dewis iaith.

Roedd y cyfathrebu yn barchus, yn gefnogol ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ac roedd anghenion iaith cleifion yn cael eu cofnodi a'u hystyried fel mater o drefn. Roedd tystiolaeth gref fod y Gymraeg yn cael ei defnyddio'n naturiol wrth ryngweithio, ac roedd cleifion yn gallu cyfathrebu'n hyderus yn y Gymraeg a chael gafael ar wybodaeth ddwyieithog drwy gydol eu gofal.

Meysydd i'w gwella:

Prin oedd y dystiolaeth i ddangos bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio'n rheolaidd, ac nid oedd y Cynnig Rhagweithiol yn cael ei hyrwyddo'n glir na'i fonitro'n gyson ym mhob gwasanaeth. Mewn rhai achosion, nid oedd yn amlwg sut roedd dewisiadau iaith cleifion yn cael eu cofnodi na'u defnyddio i lywio'r broses cynllunio gofal, ac roedd adborth yn awgrymu y gellid cyfathrebu mewn ffordd fwy cyson.

At hynny, nid oedd yn hawdd adnabod pob aelod o staff a oedd yn siarad Cymraeg gan nad oeddent bob amser yn gwisgo bathodynnau Iaith Gwaith, gan leihau gwelededd y ddarpariaeth Gymraeg. Yn gyffredinol, mae angen gwneud gwelliannau i atgyfnerthu'r broses o hyrwyddo a monitro'r Cynnig Rhagweithiol, gan sicrhau y caiff prosesau cyfathrebu mwy cyson eu rhoi ar waith, ac y caiff disgwyliadau o ran gwelededd staff sy'n siarad Cymraeg eu hatgyfnerthu.

Themâu allweddol wrth arolygu gwasanaethau deintyddol

Arfer Da:

Roedd gwybodaeth ddwyieithog a chymorth cyfieithu yn cael eu darparu mewn nifer o wasanaethau, gan helpu i sicrhau y gallai gleidion gael gofal yn eu dewis iaith. Roedd staff a oedd yn siarad Cymraeg ar gael neu'n hawdd eu hadnabod mewn rhai lleoliadau, gan gefnogi prosesau cyfathrebu cliriach a gwella profiad y claf.

Mewn enghreifftiau cryfach, roedd dewisiadau iaith cleifion yn cael eu cofnodi fel mater o drefn a'u defnyddio i lywio gofal. Roedd y Cynnig Rhagweithiol yn cael ei ymgorffori mewn ffordd fwy rhagweithiol yn y gwasanaethau hyn, gyda thystiolaeth o fesurau hygyrchedd a oedd wedi'u datblygu'n effeithiol a dull cyson o ddiwallu anghenion o ran y Gymraeg.

Meysydd i'w gwella:

Gwelwyd prosesau gwan neu anghyson ar gyfer rhoi'r Cynnig Rhagweithiol ar waith mewn nifer o wasanaethau, a phrin oedd y dystiolaeth i ddangos bod dewisiadau iaith cleifion yn cael eu cofnodi na'u defnyddio'n rheolaidd i lywio gofal. Mae'r diffyg cysondeb hwn yn awgrymu nad oedd anghenion o ran y Gymraeg bob amser yn cael eu hystyried mewn ffordd systematig wrth ddarparu gwasanaethau.

Roedd bylchau hefyd o ran gwelededd ac argaeledd darpariaeth Gymraeg, gan gynnwys diffyg arwyddion dwyieithog ac anghysondebau o ran deunyddiau gwybodaeth. Ychydig iawn o staff oedd yn siarad Cymraeg mewn rhai gwasanaethau, os o gwbl, a oedd yn lleihau'r cyfleoedd i gleifion gyfathrebu yn Gymraeg. At hynny, roedd dibyniaeth ar ddulliau cyfieithu anffurfiol mewn rhai achosion yn peri risgiau i ansawdd a chywirdeb y cyfathrebu, gan dynnu sylw at yr angen am drefniadau cymorth mwy cadarn a dibynadwy.

Themâu allweddol wrth arolygu Practisau Cyffredinol

Arfer da:

Roedd y Gymraeg i'w gweld yn amlwg ac yn cael ei hintegreiddio'n gadarn mewn sawl gwasanaeth, gydag arwyddion dwyieithog ac enghreifftiau o'r Gymraeg yn cael ei defnyddio'n rheolaidd wrth ryngweithio. Mewn lleoliadau eraill, roedd staff a oedd yn siarad Cymraeg ar gael, ac roedd rhai deunyddiau dwyieithog ar gael, gan helpu i gefnogi dewis cleifion a chynnig mynediad at ofal yn eu dewis iaith.

Meysydd i'w gwella:

Nid oedd dewisiadau iaith yn cael eu cofnodi'n rheolaidd mewn nifer o wasanaethau, gan ddangos nad oedd anghenion cyfathrebu cleifion bob amser yn cael eu nodi na'u hystyried mewn ffordd systematig. Nodwyd hefyd fod y Cynnig Rhagweithiol yn wan neu nad oedd i'w weld o gwbl mewn sawl achos, a oedd yn aml yn gysylltiedig ag arwyddion dwyieithog cyfyngedig a diffyg darpariaeth Gymraeg weladwy.

At hynny, roedd bylchau o ran argaeledd deunyddiau dwyieithog wedi'u hargraffu ac anghysondebau o ran cyfleoedd hyfforddiant i staff i gefnogi anghenion o ran y Gymraeg. Yn gyffredinol, mae'r canfyddiadau hyn yn tynnu sylw at yr angen am ddull mwy cyson a strwythuredig o gofnodi dewisiadau iaith, atgyfnerthu'r Cynnig Rhagweithiol, a gwella gwelededd y ddarpariaeth Gymraeg a gallu'r staff.

Yr hyn a glywsom yn ein hymgynghoriad ar y Strategaeth: themâu sy'n ymwneud â'r Gymraeg

O fis Medi i fis Rhagfyr 2025, gwnaethom lansio ein hymgynghoriad ar Strategaeth 2026–2030. Cawsom dros 1,300 o ymatebion dros gyfnod o 12 wythnos.

Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn adlewyrchu awydd gwirioneddol i ni wella gofal iechyd yng Nghymru. Ochr yn ochr â chydnabyddiaeth i aelodau o staff sy'n darparu gofal ymroddedig a thosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, rhannodd ymatebwyr safbwyntiau clir ynghylch yr heriau y maent yn eu hwynebu wrth gael gafael ar wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru, gan gyfeirio at anghysondeb o ran y gallu i gael gafael ar ofal drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn nodi nad yw'r Cynnig Rhagweithiol bob amser yn cael ei ddarparu'n ymarferol. 

Er bod llawer o staff yn mynd allan o'u ffordd i gyfathrebu yn Gymraeg, mae materion ehangach yn y system fel prinder staff dwyieithog, hyder isel a hyfforddiant anghyson yn golygu bod y profiad a gaiff pobl yn aml yn methu â chyrraedd y safonau disgwyliedig. 

Roedd pobl yn nodi cyswllt cryf rhwng dewis iaith ac urddas, eglurder a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a gwnaethant fynegi awydd i'r Gymraeg gael ei hystyried yn gliriach wrth arolygu, adrodd a chynllunio'r gweithlu. Gwnaethant bwysleisio bod angen darpariaeth Gymraeg ymarferol fwy cyson ar draws gwasanaethau er mwyn gwneud gwelliant ystyrlon.

O ymrwymiad i gysondeb: Sicrhau bod y Gymraeg yn rhan greiddiol o ofal

Ym mhob rhan o'n gwaith arolygu, mae tystiolaeth glir o ofal tosturiol ac enghreifftiau o arferion da o ran yr iaith Gymraeg. Fodd bynnag, mae'r ddarpariaeth Gymraeg yn parhau'n anghyson ac yn rhy aml mae'n dibynnu ar staff unigol yn hytrach nag ymdrechion i roi dulliau systematig ar waith. 

Cafodd hyn ei bwysleisio gan ein hymgynghoriad ar y Strategaeth, gan dynnu sylw at fynediad anghyson at ofal cyfrwng Cymraeg, anghysondeb wrth roi'r Cynnig Rhagweithiol ar waith, a rhwystrau fel gallu dwyieithog cyfyngedig, diffyg hyder a lefelau hyfforddiant amrywiol. Yn ogystal, roedd ymatebwyr yn awyddus i AGIC fod yn fwy gweladwy, yn fwy hyderus ac yn fwy rhagweithiol wrth fynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r Gymraeg, gan gydnabod ei phwysigrwydd o ran urddas, dealltwriaeth a diogelwch.

Mae hyn hefyd yn golygu codi proffil y Gymraeg yn ein gwaith sicrwydd, gan wella'r ffordd rydym yn adrodd ar ganfyddiadau ac yn eu holrhain, a sicrhau bod ein staff yn deall pwysigrwydd ymarferol Mwy na Geiriau.