Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Gweithredol ar gyfer 2026-2027

Dewch i wybod am ein blaenoriaethau a'n camau gweithredu ar gyfer 2026-2027

arolygiad gofal iechyd cymru cynllun gweithredol 2026 - 2027

Heddiw, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi ei Chynllun Gweithredol ar gyfer 2026–2027, sy'n nodi ei blaenoriaethau a'r camau y bydd yn eu cymryd dros y flwyddyn sydd i ddod er mwyn helpu i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael gofal iechyd diogel ac o ansawdd uchel.

Y cynllun yw'r cyntaf i gael ei lywio gan ein Strategaeth newydd ar gyfer 2026–2030. Mae'n adeiladu ar sylfeini cryf ac yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl a chymunedau, gan ddarparu ffordd glir ac ymarferol o gyflawni'r amcanion a nodwyd yn y Strategaeth.

Mae'r Cynllun Gweithredol yn amlinellu sut y bydd AGIC yn parhau i wrando ar brofiadau pobl, arolygu a rheoleiddio gwasanaethau, ac yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi gwelliannau ystyrlon a pharhaol. Mae wedi cael ei lywio gan y risgiau, yr heriau a'r cyfleoedd a nodir ym mhob rhan o'r system gofal iechyd, gyda ffocws clir ar ysgogi gwelliant a chryfhau ansawdd a diogelwch gofal.

Blaenoriaethau ar gyfer 2026–2027

Rhoi Pobl yn Gyntaf

Byddwn yn cryfhau'r ffordd y mae profiadau pobl yn llywio ein gwaith drwy ehangu ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig i unigolion a chymunedau. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar y risgiau mwyaf y mae pobl yn eu hwynebu wrth gael gofal, gwella sut mae gwybodaeth yn cael ei chasglu a'i defnyddio, mireinio dulliau arolygu ac adrodd, a herio anghydraddoldebau, fel bod pob llais yn cael ei glywed. 

Dysgu a Gweithio Gyda'n Gilydd

Gan gydnabod bod gwelliant yn dibynnu ar bartneriaethau cryf, byddwn yn parhau i feithrin cydberthnasau ar draws y system gofal iechyd. Drwy rannu gwybodaeth, cydweithio ar faterion cenedlaethol a chryfhau gweithgareddau dilynol, byddwn yn cefnogi dealltwriaeth a rennir o risgiau ac yn helpu i sicrhau bod canfyddiadau yn arwain at welliannau amserol.

Buddsoddi yn Ein Pobl

Mae'r cynllun yn tynnu sylw at bwysigrwydd galluogrwydd a llesiant staff. Byddwn yn parhau i ymgorffori diwylliant o fyfyrio a datblygu'n barhaus, gan fuddsoddi mewn offer digidol, hyfforddiant, llwybrau datblygu clir a dysgu ar draws timau. Byddwn hefyd yn parhau i feithrin gweithle cynhwysol a arweinir gan strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant AGIC.

Cymryd Camau sydd o Bwys

Byddwn yn cymryd camau clir, cymesur a thryloyw i wella ansawdd a diogelwch gofal iechyd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cryfhau dulliau arolygu a rheoleiddio, gwneud argymhellion yn fwy eglur, cyfleu penderfyniadau gorfodi yn effeithiol, a gwella'r ffordd rydym yn gwrando ar bryderon ac yn ymateb iddynt, gan gynnwys achosion chwythu'r chwiban. 

Byddwn yn parhau i ymdrin â gweithgarwch arolygu a sicrwydd mewn ffordd gytbwys a seiliedig ar risg, gan sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu harolygu ar yr adeg gywir. Bydd AGIC hefyd yn parhau i gyflawni ei chyfrifoldebau statudol, gan gynnwys y rheini o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, y Rheoliadau Ymbelydredd Ïoneiddio (Cysylltiad Meddygol), a'r rheoliadau gofal iechyd annibynnol.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru:

“Y Cynllun Gweithredol hwn yw'r cyntaf i gael ei lywio gan ein Strategaeth newydd ar gyfer 2026-2030 ac mae'n canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl a chymunedau. Ar draws ein holl flaenoriaethau, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar fod yn llais dibynadwy ac annibynnol sy'n cefnogi gwelliannau ym mhob rhan o'r system gofal iechyd. Drwy gydweithio â'n staff, ein partneriaid a'n rhanddeiliaid, gallwn helpu i greu system gofal iechyd fwy diogel, mwy effeithiol a mwy tosturiol i Gymru.”

Cynllun Gweithredol 2025-2026