Ni yw rheoleiddiwr annibynnol gofal iechyd ac arolygiaeth gwasanaethau'r GIG yng Nghymru. Ein rôl ni yw gwirio bod gofal iechyd yn ddiogel, yn effeithiol, ac yn diwallu anghenion pobl a chymunedau.

Ein diben
Rydym yn gwirio diogelwch ac ansawdd gofal iechyd ledled Cymru.
Ein Gweledigaeth
Dyfodol lle mae gofal iechyd yng Nghymru yn ddiogel, yn effeithiol ac o ansawdd uchel i bawb.
Ein gwerthoedd
Mae ein gwerthoedd yn llywio ein gwaith o ddydd i ddydd ac yn sicrhau bod pobl yn parhau wrth wraidd popeth a wnawn.
- Annibynnol - rydym yn ddiduedd, yn penderfynu pa waith rydym yn ei wneud a lle rydym yn ei wneud
- Gwrthrychol - rydym yn rhesymol ac yn deg ac yn gweithredu ar sail tystiolaeth
- Pendant - rydym yn gwneud dyfarniadau clir ac yn cymryd camau i wella safonau gwael ac amlygu’r arferion da rydym yn dod ar eu traws
- Cynhwysol - rydym yn gwerthfawrogi ac yn annog cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy ein gwaith
- Cymesur - rydym yn ystwyth ac rydym yn gwneud ein gwaith lle mae o’r pwys mwyaf
Dyma ein pedair blaenoriaeth:
Rhoi Pobl yn Gyntaf
Byddwn yn canolbwyntio ar y risgiau mwyaf y mae pobl a chymunedau yn eu hwynebu wrth iddynt ddefnyddio gwasanaethau gofal iechyd nawr ac yn y dyfodol.
Yr hyn y byddwn yn ei wneud:
- Deall profiad bywyd yn well drwy daith y claf, gan gynnwys mynediad at ofal a’i ansawdd a pha mor dda y mae gwasanaethau yn gweithio gyda’i gilydd.
- Gwella’r ffordd rydym yn gwneud ein gwaith ac yn adrodd arno er mwyn ei gwneud yn haws i wasanaethau ddysgu a gweithredu.
- Ymchwilio i ddulliau cynhwysol ac arloesol o ymgysylltu â’r cyhoedd, staff gofal iechyd a sefydliadau partner, a’u hintegreiddio.
- Gwella’r ffordd rydym yn defnyddio ac yn rhannu gwybodaeth am risgiau i gleifion gyda’n timau er mwyn llywio ein gwaith sicrwydd.
- Herio anghydraddoldebau yn rhagweithiol a sicrhau bod lleisiau pobl yn llywio ein gwaith a dyfodol gofal iechyd.
- Atgyfnerthu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’n rôl, ein pwerau a’n diben, gan sicrhau bod pobl yn gwybod sut i gysylltu â ni a’r hyn y gallant ei ddisgwyl pan fyddant yn gwneud hynny.
Dysgu a Gweithio Gyda’n Gilydd
Byddwn yn cydweithio â phartneriaid er mwyn rhannu gwersi a ddysgwyd ac ysgogi gwelliannau parhaus.
Yr hyn y byddwn yn ei wneud:
- Meithrin partneriaethau cryf ac effeithiol i rannu gwybodaeth a chefnogi gwelliant ar draws gwasanaethau gofal iechyd.
- Cydweithio ag eraill i fynd i’r afael â materion cenedlaethol sy’n effeithio ar gofal iechyd.
- Olrhain ein gwaith mewn modd amserol i sicrhau bod ein canfyddiadau yn llywio gwelliannau.
- Cynllunio a chyflawni rhaglen a arweinir gan wybodaeth o waith seiliedig ar adolygiadau sy’n adlewyrchu blaenoriaethau gofal iechyd ac yn canolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl.
- Sicrhau bod cleifion, gofalwyr a staff gofal iechyd rheng flaen yn cael eu cynnwys yn ein gwaith, gan gynnwys wrth gynllunio, darparu a gwerthuso.
Buddsoddi yn Ein Pobl
Byddwn yn sicrhau bod ein pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a’u grymuso.
Yr hyn y byddwn yn ei wneud:
- Croesawu arloesedd a mabwysiadu adnoddau digidol er mwyn cynyddu ein heffaith a’n heffeithlonrwydd.
- Creu diwylliant o fyfyrio a dysgu, lle rydym yn herio ein hunain i wella’n barhaus.
- Mesur effaith newidiadau mewnol er mwyn sicrhau eu bod yn arwain at welliannau ystyrlon i’n pobl a’r ffordd rydym yn gweithio.
- Darparu llwybrau datblygu cliriach a sicrhau bod ein staff yn meddu ar yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i weithio’n effeithiol.
- Adeiladu ar y gwaith o roi ein Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar waith, gan gefnogi diwylliant cynhwysol.
Cymryd Camau sydd o Bwys
Byddwn yn cymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gofal iechyd ar gyfer dyfodol Cymru.
Yr hyn y byddwn yn ei wneud:
- Rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal iechyd gan ddefnyddio dulliau clir, teg ac arloesol.
- Cymryd camau gorfodi pendant pan na fydd gofal yn cyrraedd y safonau, gan sicrhau bod darparwyr yn atebol.
- Adolygu ac addasu ein dulliau sicrwydd i adlewyrchu anghenion system gofal iechyd fodern sy’n datblygu.
- Cryfhau’r ffordd rydym yn gwrando ar bryderon ac yn ymateb iddynt, gan gynnwys drwy ein sianeli chwythu’r chwiban, er mwyn diogelu pobl a chefnogi gwelliant.
- Cyhoeddi gwybodaeth glir am y camau rydym wedi’u cymryd a’u heffaith.