Neidio i'r prif gynnwy

Dysgu ar y cyd: Gwerth Hyfforddiant y GIG ar Atal yn Gorfforol

Dysgu ar y cyd ar gyfer pob Bwrdd Iechyd

Learning and Insight

Yn ystod pob arolygiad o iechyd meddwl i gleifion mewnol, rydym yn cadarnhau a yw'r staff yn cydymffurfio â hyfforddiant ar ddulliau atal corfforol cyfyngol, a hynny am y gall atal yn gorfforol fod yn niweidiol i gleifion neu staff os na chaiff ei wneud mewn modd priodol a diogel. Mae hyfforddiant, a hyfforddiant gloywi, yn hanfodol i sicrhau bod cleifion a staff yn cael eu diogelu rhag anaf.

Yn ystod tri o'n harolygiadau o wasanaethau iechyd meddwl y GIG i gleifion mewnol gwelwyd lefelau isel iawn o gydymffurfiaeth â'r hyfforddiant hwn, mor isel â 16% ar un ward.

 

Mae hyn yn achosi risg sylweddol i gleifion a staff. Hefyd, edrychwyd ar gofnodion diweddar o achosion o atal yn gorfforol yn ystod yr arolygiadau hyn a nodwyd bod staff nad oeddent yn cydymffurfio wedi bod yn rhan o'r achosion. Unwaith eto, mae hyn yn achosi risg sylweddol i'r cleifion a'r staff dan sylw, ac nid ydym wedi cael sicrwydd bod cleifion na staff yn cael eu hamddiffyn a'u diogelu rhag anaf.

Nododd rhai o'n harolygiadau hefyd nad oedd y polisïau ar atal yn gorfforol yn gyfredol mwyach, a'i bod yn anodd dod o hyd i gofnodion o achosion o atal a'u deall, neu nad oeddent yn cynnwys digon o fanylion. Unwaith eto, mae hyn yn achosi risg sylweddol i gleifion a staff pe bai rhywun yn cael ei anafu o ganlyniad i'w atal yn gorfforol yn anghywir.

Rydym ar ddeall bod rhywfaint o hyfforddiant wyneb yn wyneb wedi cael ei ohirio oherwydd y pandemig. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod byrddau iechyd yn sicrhau bod eu staff yn parhau i gydymffurfio â hyfforddiant i amddiffyn cleifion a staff rhag y risg o anaf.

I grynhoi, rydym yn cynghori byrddau iechyd y dylent wneud y canlynol:

  • Cadw gwybodaeth gywir am gydymffurfiaeth pob aelod o'r staff â hyfforddiant gorfodol
  • Sicrhau bod pob aelod perthnasol o'r staff yn cwblhau hyfforddiant llawn neu hyfforddiant gloywi mor fuan â phosibl
  • Cynnal rhaglen barhaus o hyfforddiant gloywi
  • Pan na fo pob aelod o'r staff yn cydymffurfio, sicrhau bod o leiaf un aelod o'r staff sy'n cydymffurfio ar bob sifft
  • Sicrhau bod polisïau ynglŷn â defnyddio dulliau atal yn gorfforol yn gyfredol
  • Sicrhau ei bod yn hawdd dod o hyd i gofnodion o achosion o atal yn gorfforol a'u bod yn ddigon manwl.