Neidio i'r prif gynnwy

Practisau Deintyddol: Tynnu sylw at themâu allweddol ledled Cymru

Yn dilyn gwaith sicrwydd diweddar, rydym wedi adrodd dro ar ôl tro ar nifer o faterion o fewn practisau deintyddol ledled Cymru, yn enwedig o fewn gwasanaethau gofal iechyd annibynnol.

Er yr adroddwyd am amrywiaeth o faterion, mae rhai themâu allweddol wedi dod i'r amlwg trwy ein harolygiadau a'n gwiriadau ansawdd. Mewn rhai amgylchiadau, bu'n rhaid i ni ofyn i'r practisau gymryd camau ar unwaith i leihau risgiau i ddiogelwch cleifion.

Y meysydd a oedd yn peri pryder i ni yn ystod ein gwaith sicrwydd oedd fel a ganlyn:

Amgylcheddol:

  • Safon wael o lanweithdra mewn mannau dihalogi. Mewn rhai practisau, daeth arolygwyr AGIC o hyd i brosesau dihalogi aneffeithiol, gan gynnwys glanhau offer yn annigonol a defnydd aneffeithiol o lwybrau ‘budr/glân’.
  • Gwnaethom nodi bod eitemau wedi'u storio'n amhriodol mewn clinigau ac ystafelloedd dihalogi megis bwyd a deunyddiau glanhau, gan gynnwys nifer uchel o oergelloedd clinigol sy'n cynnwys eitemau anghlinigol megis bwyd a meddyginiaeth sydd wedi dyddio. Dylai practisau sicrhau bod gweithdrefnau ar waith i leihau'r risg o halogi ac i gefnogi safonau da o brosesau atal a rheoli heintiau.
  • Gwelsom nifer o enghreifftiau hefyd o bractisau nad oeddent yn cynnal archwiliadau o'u gwaith. Mae archwiliadau’n cynnig cyfle i adolygu cysondeb ac ansawdd y gofal a’r driniaeth a ddarperir i gleifion ac maent yn offeryn gwella ansawdd a all ddwyn llawer o fanteision a chefnogi gwelliant ymarfer gwell.
  • Nid oedd gan nifer o bractisau system ar waith a oedd yn sicrhau bod yr holl asesiadau risg yn cael eu diweddaru. Gwelsom fod rhai asesiadau risg tân wedi dyddio ac nid oedd ymarferion tân yn cael eu cynnal ac nid oedd tystiolaeth ohonynt. Mae asesiadau risg yn offeryn rheoli pwysig sy'n helpu i gadw cleifion a staff yn ddiogel a dylid eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd i leihau risgiau.
  • Tynnodd yr arolygwyr sylw at y gwaith cynnal a chadw gwael ar becynnau cymorth cyntaf, cyffuriau a ddefnyddir mewn achos brys ac offer dadebru – roedd rhai yn cynnwys eitemau sydd wedi dyddio a oedd yn peri risg sylweddol i gleifion.

First aid kit, Clipboard and cleaning sign

Staffio:

  • Roedd angen i fwyafrif y practisau deintyddol wella’u dogfennaeth wrth gofnodi hyfforddiant staff a rhoi tystiolaeth bod yr holl staff yn cwblhau sesiynau hyfforddiant gorfodol.
  • Roedd arfarniadau blynyddol, goruchwyliaeth glinigol a chyfarfodydd staff yn aml yn cael eu hanwybyddu. Rydym yn cydnabod bod yr agweddau hyn wedi bod yn heriol i’w cynnal ar adegau yn ystod pandemig COVID-19, ond rhaid i bractisau barhau i flaenoriaethu hyn i gefnogi eu staff.

Cyffredinol:

  • Trwy ein gwaith sicrwydd, nododd yr arolygwyr fod gan bractisau wybodaeth am lenyddiaeth addysgiadol a oedd wedi dyddio neu’n anghywir gan gynnwys taflenni gofal cleifion. Dylai practisau gynnal archwiliadau rheolaidd o ddeunyddiau i sicrhau bod yr wybodaeth sydd ar gael i gleifion a staff yn berthnasol ac yn gywir.

leaflet

Dylai practisau deintyddol sicrhau eu bod yn ystyried y canfyddiadau uchod, gan ystyried a allant gymhwyso unrhyw ran o'r dysgu hwn i'w gwasanaeth i wella ansawdd a diogelwch y gofal a'r driniaeth a ddarperir.