Neidio i'r prif gynnwy

Astudiaeth Achos: Adolygiad Cenedlaethol o Lif Cleifion: taith drwy'r llwybr strôc

Mae’r astudiaethau achos yn dangos darn o waith rhwng 2022-2023 mewn perthynas ag ysbytai acíwt y GIG. Heriodd y gwaith hwn wasanaethau a byrddau iechyd i edrych am ffyrdd gwahanol o wneud pethau lle y gellid gwella canlyniadau i gleifion.

Gall llif cleifion aneffeithiol ac aneffeithlon gael effaith sylweddol ar ansawdd a diogelwch gofal cleifion. Parhaodd ein hadolygiad o Lif Cleifion yn ystod 2022-2023 er mwyn archwilio hyn.

Ar adeg pan fo’r GIG yng Nghymru wedi parhau i wynebu pwysau sylweddol, prinder staff a galw enfawr am welyau, archwiliodd yr adolygiad yr her a wynebir wrth geisio darparu gofal amserol i gleifion y cadarnhawyd eu bod wedi cael strôc pan fo cymaint o alw am adnoddau.

Er mwyn asesu effaith yr heriau o ran llif cleifion ar ddiogelwch cleifion sy’n aros i gael eu hasesu a’u trin, gwnaethom ddewis canolbwyntio ein hadolygiad ar y llwybr strôc. Darnau o waith adolygu manwl yw adolygiadau cenedlaethol, sy’n ein galluogi i archwilio gwasanaeth, llwybr gofal, neu adran yn fanwl. 

Yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2022 a diwedd mis Mawrth 2023, gwnaethom gasglu tystiolaeth am y gofal a’r driniaeth a oedd y cael eu darparu i gleifion ar y llwybr strôc ledled Cymru, drwy gynnal naw ymweliad safle. Yn ystod yr ymweliadau safle, ymgynghorodd ein tîm adolygu â’r byrddau iechyd yng Nghymru, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, gan adolygu’r prosesau a oedd ar waith o’r adeg pan gafodd ambiwlans ei alw i’r adeg pan gyrhaeddodd y claf yr adran achosion brys, i’r adeg pan gafodd y claf ei dderbyn am ofal mewnol, lle roedd hynny’n berthnasol, i’r adeg pan gafodd ei ryddhau. 

Canfu’r adolygiad alw mawr am welyau cleifion mewnol a chymhlethdodau wrth ryddhau cleifion sy’n feddygol iach o’r ysbyty, a oedd yn golygu bod y system gofal iechyd i gleifion mewnol yng Nghymru yn gweithredu o dan bwysau eithafol. Gall cyfnodau hir diangen yn yr ysbyty oherwydd oedi cyn rhyddhau cleifion achosi’r risg y bydd cleifion yn dal heintiau yn yr ysbyty neu’n dirywio wrth aros i gael eu rhyddhau. Mae’r atalfa wrth ryddhau cleifion yn cael effaith ganlyniadol ar adrannau achosion brys, amseroedd ymateb ambiwlansys, gofal i gleifion mewnol, derbyniadau a gynlluniwyd a llesiant cyffredinol y staff.

Edrychwch ar ein hanimeiddiad o'r canfyddiadau allweddol isod.