Neidio i'r prif gynnwy

Practisau Meddygol Cyffredinol: Themâu allweddol yn dilyn ein harolygiadau

Yn dilyn gwaith sicrwydd diweddar, rydym wedi adrodd nifer o faterion o fewn practisau Meddygol Cyffredinol ledled Cymru. Mewn rhai amgylchiadau, bu'n rhaid i ni ofyn i'r practisau gymryd camau ar unwaith i leihau risgiau i ddiogelwch cleifion.

Yr hanfodion

Aethom ati'n ddiweddar i adnewyddu ein methodoleg ar gyfer Practisau Meddygol Cyffredinol (meddygon teulu) er mwyn cynnwys elfennau allweddol megis gwasanaethau cymorth iechyd meddwl a'r dirwedd gofal sylfaenol ehangach, gan gynnwys atgyfeiriadau a chyfeirio at wasanaethau eraill. Rydym bellach yn cynnwys adolygydd cymheiriaid sy'n nyrs practis ar ein tîm arolygu er mwyn adlewyrchu pwysigrwydd y rôl a faint o waith y maent yn ei gyfrannu at redeg practis meddygon teulu yn effeithiol. Rydym wedi arolygu naw practis meddygon teulu drwy ddefnyddio ein methodoleg newydd yn 2022/23.

Mae practisau meddygon teulu o dan gryn bwysau ac yn wynebu galw nas gwelwyd ei debyg o'r blaen, yr effeithir arno gan amseroedd aros hir mewn Adrannau Achosion Brys a meysydd eraill lle ceir pwysau ar y GIG. Adlewyrchwyd pwysau o'r fath yn ein canfyddiadau, sydd wedi amrywio'n sylweddol. 

Fodd bynnag, mae diogelwch cleifion yn hollbwysig, ac rydym wedi nodi risgiau clir i ddiogelwch cleifion mewn llawer o'n harolygiadau.

Rydym wedi anfon llythyrau Sicrwydd Uniongyrchol ar bum achlysur. Er mwyn rhoi hyn yn ei gyddestun, yn y flwyddyn arolygu 2019/20, cwblhawyd 32 o arolygiadau o bractisau meddygon teulu a dim ond yn achos chwech roedd angen anfon llythyrau Sicrwydd Uniongyrchol.

Roedd y materion a oedd yn gofyn am Sicrwydd Uniongyrchol yn cynnwys (mae rhai o'r rhain wedi digwydd fwy nag unwaith):

  • Cofnodion diogelu anghyflawn a methiant i weithredu ar bryderon.
  • Gwiriadau o gyfarpar a meddyginiaethau brys heb eu cwblhau
  • Dim gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar staff, gan gynnwys staff gweinyddol/y dderbynfa
  • Meddyginiaethau heb eu storio'n ddiogel
  • Gwiriadau ar dymheredd yr oergell feddyginiaethau heb eu cwblhau
  • Cydymffurfiaeth wael â hyfforddiant gorfodol, gan gynnwys diogelu, dadebru cardiopwlmonaidd ac atal a rheoli heintiau
  • Dyddiad defnyddio cyfarpar wedi mynd heibio, gan gynnwys pwythiadau di-haint, menig di-haint, pecynnau casglu samplau o wrin, pecynnau mân lawdriniaethau a nodwyddau, yr oedd rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i 2006.

Yn ein barn ni, mae hyfforddiant gorfodol yn rhan hollbwysig o sicrhau diogelwch cleifion mewn unrhyw leoliad gofal iechyd. Mae pynciau y bernir eu bod yn orfodol, er enghraifft atal a rheoli heintiau, diogelu a dadebru cardiopwlmonaidd, yn orfodol oerwydd y risgiau gwirioneddol i gleifion a'r ffordd y mae lleoliad yn rheoli digwyddiad posibl. Hefyd, mae'n ofynnol storio meddyginiaethau yn briodol, a gwneud gwiriadau ar gyfarpar brys, unwaith eto, oherwydd risgiau clir i ddiogelwch cleifion. Er eu bod nhw i gyd yn cymryd amser i'w cwblhau, mae'n werth buddsoddi'r adnoddau am ei bod yn helpu i ddiogelu cleifion a'r staff.

Er gwaethaf y pwysau ar wasanaethau, mae ein harolygon o brofiad cleifion yn rheolaidd yn dod i'r casgliad bod staff yn trin cleifion ag urddas a pharch, ond mae tua chwarter y cleifion yn dweud wrthym eu bod yn ei chael hi'n anodd trefnu apwyntiad brys.

 

Clipboard, Magnifying Glass and Chart