Tynnu sylw at bwysigrwydd Rheoli Meddyginiaethau
Mae rheoli meddyginiaethau yn un o’r Safonau Iechyd a Gofal rydym yn edrych arnynt yn ystod ein harolygiadau. Dros nifer o flynyddoedd, mae AGIC wedi adrodd ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â rheoli meddyginiaethau yn ein hadroddiadau arolygu unigol ac yn ein hadroddiadau blynyddol.
Er i amrywiaeth o faterion gael eu hadrodd, mae nifer o themâu allweddol wedi dod i'r amlwg drwy adolygiad ôl-weithredol gan ein tîm clinigol. Teimlwn ei bod yn bwysig inni dynnu sylw at y themâu cyffredin hyn a hefyd y meysydd arfer da a nodwyd gennym.
Y meysydd a oedd yn peri pryder i ni yn ystod ein hadolygiad oedd:
- Storio a gwirio meddyginiaethau yn ddiogel
- Hepgoriadau a dogfennau yn ymwneud â hepgoriadau
- Rhagnodi ocsigen
- Cofnodi alergeddau
- Meddyginiaethau sy’n gritigol o ran amser
Storio a gwirio meddyginiaethau yn ddiogel
Mewn nifer o adroddiadau, amlygwyd nad oedd meddyginiaethau'n cael eu storio'n ddiogel ac ar y tymheredd cywir yn gyson. Roedd y meysydd o bryder yn cynnwys:
- Meddyginiaethau'n cael eu gadael mewn mannau lle gallai aelodau'r cyhoedd neu gleifion gael gafael arnynt
- Hylifau mewnwythiennol yn cael eu storio mewn cypyrddau anniogel
- Meddyginiaethau sydd angen eu storio mewn oergell ddim yn cael eu rhoi yn yr oergell
- Meddyginiaethau'n cael eu gadael, heb eu diogelu, wrth erchwyn gwely'r claf
Roedd rhai meysydd o arfer da a nodwyd gennym y gallech fod am eu mabwysiadu yn cynnwys:
- Cerdyn allwedd i'r holl fannau paratoi meddyginiaeth a storio hylifau mewnwythiennol. Roedd hyn yn sicrhau pe byddai meddyginiaethau'n cael eu gadael allan eu bod yn dal yn ddiogel rhag mynediad anawdurdodedig. Hefyd, roedd hyn yn golygu y gallai staff gael mynediad hawdd i'r mannau hyn heb fod angen allwedd.
- Archwiliadau ar hap yn rheolaidd i asesu diogelwch a threfniadau storio meddyginiaethau yn barhaus.
- Mae polisi a nodiadau atgoffa ar waith i sicrhau bod y staff yn gwylio cleifion yn cymryd eu meddyginiaethau cyn gadael erchwyn eu gwely.
Hepgoriadau a dogfennaeth yn ymwneud â hepgoriadau
Nodwyd hepgor meddyginiaethau hefyd mewn nifer fawr o adroddiadau arolygu. Roedd hyn yn cynnwys peidio â chofnodi’r rhesymau dros hepgoriadau a’u gadael yn wag, a chleifion yn peidio â chael y meddyginiaethau yr oedd eu hangen arnynt.
Roedd rhai meysydd o arfer da a nodwyd gennym y gallech fod am eu mabwysiadu yn cynnwys:
- Archwiliadau a gwiriadau siartiau presgripsiwn rheolaidd i amlygu unrhyw broblemau a gweithio gyda'r staff i'w datrys.
- Adrodd ar unrhyw hepgoriadau wrth drosglwyddo ac mewn briffiau diogelwch, i sicrhau eu bod yn cael eu cywiro cyn gynted â phosibl.
- Adrodd am unrhyw ddigwyddiadau hepgor.
- Hyfforddiant oddi wrth staff fferyllol neu fferyllfeydd i helpu staff i ddeall sut i osgoi hepgoriadau ac i sicrhau bod llwybrau amgen ar gael os oes angen.
Rhagnodi ocsigen
Mae rhagnodi ocsigen yn parhau i fod yn bryder i AGIC mewn lleoliadau gofal iechyd acíwt. Er bod y GIG wedi mabwysiadu protocol rhagnodi sydd wedi’i argraffu ar siartiau presgripsiwn, canfuom yn aml nad oedd hwn wedi’i lenwi. Mewn llawer o achosion, roedd cleifion yn cael therapi ocsigen heb i hyn gael ei ragnodi ar eu siart presgripsiwn.
Roedd rhai meysydd o arfer da a nodwyd gennym y gallech fod am eu mabwysiadu yn cynnwys:
- Ychwanegu rhagnodi ocsigen at sesiynau briffio diogelwch a throsglwyddiadau i atgoffa'r staff o bwysigrwydd y mater hwn.
4. Cofnodi alergeddau
Roedd gwybodaeth alergedd yn wag mewn nifer o gofnodion. Gallai hyn fod yn risg i glaf os oes ganddynt alergeddau sydd heb eu cofnodi.
Meddyginiaethau sy’n gritigol o ran amser
Mewn nifer o arolygiadau, nodwyd nad oedd cleifion bob amser yn derbyn eu meddyginiaethau sy’n gritigol o ran amser ar yr adeg gywir. Roedd hyn yn cynnwys meddyginiaethau fel inswlin a meddyginiaethau ar gyfer clefyd Parkinson. Mae'n bwysig bod y meddyginiaethau hyn yn cael eu rhoi ar amser er mwyn sicrhau nad yw cleifion yn dioddef unrhyw sgîl-effeithiau diangen o ganlyniad i oedi.
Roedd rhai meysydd o arfer da a nodwyd gennym y gallech fod am eu mabwysiadu yn cynnwys:
- System fflagio ar gyfer y cleifion sy'n cymryd meddyginiaethau sy’n gritigol o ran amser, megis symbolau ar eu siartiau presgripsiwn neu wrth erchwyn eu gwely.
- Nyrs 'critigol o ran amser' wedi'i neilltuo mewn wardiau. Byddai'r nyrs hon yn sicrhau bod pob claf sy'n cymryd meddyginiaethau sy’n gritigol o ran amser yn eu cael yn brydlon drwy annog y nyrs sy'n gofalu amdanynt neu gynorthwyo drwy eu rhoi eu hunain.
- Clociau larwm wedi'u lleoli wrth ochr y cleifion, wedi'u gosod i ganu ar yr adeg yr oedd angen y feddyginiaeth.