Rhaid i Ddarparwyr Gofal Iechyd Annibynnol roi gwybod i ni am ddigwyddiadau penodol fel y nodir yn Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011.

Mae Rheoliadau 30 a 31 Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 yn nodi bod yn rhaid i berson cofrestredig ysbyty annibynnol, clinig annibynnol neu asiantaeth feddygol annibynnol roi gwybod i ni am ddigwyddiadau penodol yn ymwneud â diogelwch cleifion.
Mae'r digwyddiadau dan sylw yn ymwneud â diogelwch cleifion, ac er bod gofyniad cyfreithiol i hysbysu AGIC amdanynt, disgwylir hefyd fod gan y person cofrestredig y polisïau a'r gweithdrefnau angenrheidiol ar waith i leihau'r risg y byddant yn digwydd yn y lle cyntaf; i ymdrin â'r sefyllfa'n briodol os, a phan, fydd yn digwydd; ac i sicrhau bod y risg a nodwyd yn cael ei rheoli’n briodol er mwyn atal y sefyllfa rhag codi eto yn y dyfodol.
Mae'r wybodaeth a ddarperir ar y ffurflenni digwyddiad hysbysadwy yn ein galluogi i asesu gallu darparwr gofal iechyd i gydymffurfio â Rheoliadau 2011 ac i sicrhau bod cleifion yn cael eu diogelu'n briodol.
Gall methu â hysbysu AGIC am ddigwyddiad hysbysadwy o fewn y terfynau amser a nodir yn y ddeddfwriaeth arwain at gamau gorfodi gan AGIC; gallai hyn yn ei dro arwain at erlyniad troseddol a/neu ganslo eich cofrestriad.
Digwyddiadau hysbysadwy
Gellir gweld trosolwg o'r digwyddiadau y mae'n rhaid rhoi gwybod i AGIC amdanynt yn y Canllawiau ar gyfer Rheolwyr Cofrestredig a Darparwyr. Mae'r canllawiau hefyd yn cynnwys amserlenni a'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chyflwyno mewn hysbysiadau.
Sut i roi gwybod am ddigwyddiad hysbysadwy
Wrth roi gwybod i ni am ddigwyddiad hysbysadwy, defnyddiwch y ffurflen hysbysu berthnasol o'r rhestr isod. Cyfeiriwch at y canllawiau sydd ar gael i sicrhau bod y manylion gofynnol yn cael eu darparu wrth gyflwyno ffurflenni hysbysu a/neu unrhyw adroddiadau ymchwilio ategol.
Er bod y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cofrestredig hysbysu AGIC; cydnabyddir efallai na fydd hynny bob amser yn bosibl. Felly, gall fod angen i'r person cofrestredig ddirprwyo'r dasg hysbysu i unigolion awdurdodedig. Mae manylion ynghylch Unigolion Awdurdodedig ar gael yn nogfen canllawiau AGIC.
Sut i gyflwyno eich ffurflen digwyddiad hysbysadwy wedi'i chwblhau
Dylid cyflwyno ffurflenni wedi’u cwblhau ac unrhyw wybodaeth gysylltiedig i AGIC drwy Objective Connect (OC). Os nad oes gennych gyfrif OC, cysylltwch â hiwnotifiableevents@llyw.cymru
Os bydd unrhyw broblemau'n codi sy'n golygu na allwch gyflwyno ffurflenni electronig i AGIC drwy OC, dylech gyflwyno copi papur wedi'i gwblhau. Ceir rhagor o wybodaeth am y dull hwn yn ein canllawiau.
Yr hyn sy'n digwydd ar ôl i chi roi gwybod am ddigwyddiad
Pan fydd AGIC yn cael hysbysiad, byddwn yn anfon neges gydnabod drwy e-bost at yr unigolyn awdurdodedig a gyflwynodd y ffurflen o fewn dau ddiwrnod gwaith. Bydd y neges gydnabod yn cynnwys cyfeirnod AGIC i'w ddefnyddio ar bob gohebiaeth ddilynol sy'n ymwneud â'r digwyddiad a dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwybodaeth ddilynol. Os na fyddwch yn cael cydnabyddiaeth gan AGIC o fewn dau ddiwrnod gwaith, cysylltwch ag AGIC ar unwaith.
Dogfennau
-
Canllawiau i Ddarparwyr a Rheolwyr Cofrestredig - Hysbysiadau Statudol o Ddigwyddiadau o dan Reoliadau 30 a 31 o Reoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 357 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:357 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
-
NE01a – Marwloaeth claf mewn hosbis , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 96 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:96 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
-
NE01b – Marwolaeth claf mewn hosbis - dilynol , math o ffeil: DOC, maint ffeil: 120 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:120 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
-
NE02a – Marwolaeth Claf (heblaw am mewn Hosbis) , math o ffeil: DOC, maint ffeil: 138 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:138 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
-
NE02b – Marwolaeth claf (heb law am hosbis) - dilynol , math o ffeil: DOC, maint ffeil: 117 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:117 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
-
NE03a – Absenoldeb heb ganiatâd , math o ffeil: DOC, maint ffeil: 133 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:133 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
-
NE03b – Absenoldeb heb ganiatâd - dilynol , math o ffeil: DOC, maint ffeil: 120 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:120 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
-
NE04a – Anafiadu difrifol , math o ffeil: DOC, maint ffeil: 131 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:131 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
-
NE04b – Anafiadu difrifol - dilynol , math o ffeil: DOC, maint ffeil: 119 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:119 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
-
NE05a – Achosion o glefyd heintus , math o ffeil: DOC, maint ffeil: 125 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:125 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
-
NE05b – Achosion o glefyd heintus - dilynol , math o ffeil: DOC, maint ffeil: 120 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:120 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
-
NE06a – Honiad o gamymddygiad gan aelod o staff gyda’r canlyniad o niwed gwirioneddol neu bosibl i glaf , math o ffeil: DOC, maint ffeil: 128 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:128 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
-
NE06b – Honiad o gamymddygiad gan aelod o staff gyda’r canlyniad o niwed gwirioneddol neu bosibl i glaf - dilynol , math o ffeil: DOC, maint ffeil: 119 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:119 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
-
NE07a – Colli Rhyddid , math o ffeil: DOC, maint ffeil: 119 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:119 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
-
NE07b – Colli Rhyddid - dilynol , math o ffeil: DOC, maint ffeil: 116 KBCyhoeddedig:Maint y ffeil:116 KBOs oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch agic@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.