Daeth Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008 i rym ar 9 Ionawr 2009. Mae’r Rheoliadau hyn yn berthnasol i drefniadau sy’n sail i’r gwaith o sicrhau bod cyffuriau a reolir yng Nghymru yn cael eu rheoli a’u defnyddio’n ddiogel.
Mae rhan dau’r Rheoliadau yn ymwneud â Swyddogion Atebol. Rhaid i gyrff gofal iechyd, sy’n cynnwys Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG ac Ysbytai Annibynnol yng Nghymru, benodi Swyddogion Atebol. Y swyddogion hyn sy’n gwneud y trefniadau sy’n gysylltiedig â’r rheoliadau, gan gynnwys trefniadau gwaredu diogel a threfniadau archwilio.
Yn ogystal, mae’r Swyddogion Atebol yn gyfrifol am bobl eraill y mae eu gwaith yn ymwneud â chyffuriau a reolir yn eu corff gofal iechyd. Mae’r cyfrifoldebau hynny’n cynnwys cadw cofnodion o’r pryderon yr ymchwilir iddynt, a chymryd camau gweithredu lle bo’n briodol.
Wrth asesu pryder, bydd y Swyddog Atebol yn penderfynu a oes angen cynnal ymchwiliad. Gall ymchwilio i’r mater yn bersonol neu ofyn i weithiwr arall gynnal ymchwiliad. Mewn rhai achosion, gall ofyn i swyddogion neu weithwyr o gyrff cyfrifol eraill gynnal ymchwiliad neu ymchwiliad ar y cyd.
Mae angen i Swyddogion Atebol sicrhau bod hunanasesiadau’n dod i law gan yr Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol sydd ar restr eu corff gofal iechyd o gyflawnwyr gwasanaethau meddygol, a phan ofynnir iddynt, rhaid iddynt fod yn barod i ddarparu’r wybodaeth hon a gwybodaeth gysylltiedig i AGIC. Yn ogystal, mae Swyddogion Atebol y Byrddau Iechyd Lleol yn gyfrifol am sefydlu Rhwydweithiau Gwybodaeth Lleol ar gyfer eu hardal, sydd hefyd yn ymwneud â rheoli a defnyddio cyffuriau a reolir.
Ceir cyfyngiadau ar bwy all fod yn Swyddog Atebol, ac mae’n rhaid i gyrff gofal iechyd hysbysu ein Prif Weithredwr pan fydd unigolyn yn cael ei enwebu’n Swyddog Atebol neu pan fydd unigolyn yn gadael y rôl honno.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau cyffuriau rheoledig cysylltwch â'ch Swyddog Atebol lleol
Dogfennau
-
Swyddogion Atebol am Cyffuriau a Reolir , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 196 KBCyhoeddedig:196 KB